Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, sefydliad a dderbyniodd Siarter Frenhinol gan Ei Mawrhydi ym 1994, wedi estyn ei gydymdeimlad dwysaf â'r Teulu Brenhinol yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach heno am farwolaeth Ei Mawrhydi, Y Frenhines Elizabeth II.
Wrth siarad o glywed y newyddion trist, dywedodd Phil George, Cadeirydd, a Michael Elliott, Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau:
"Mae aelodau a staff Cyngor Celfyddydau Cymru wedi eu tristau'n fawr gan y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines.
"Anfonwn ein cydymdeimlad at Ei Fawrhydi, y Brenin Siarl III, ei deulu a phawb sydd wedi bod yn agos at Ei Mawrhydi drwy gydol ei bywyd rhyfeddol o wasanaeth.
"Mae Ei Mawrhydi wedi darparu gobaith, ysbrydoliaeth ac arweiniad i bobl, cymunedau, a chenhedloedd y Deyrnas Unedig drwy gydol ei theyrnasiad o 70 mlynedd.
"Cafodd Cyngor Celfyddydau Cymru y fraint a’r anrhydedd o dderbyn Siarter Frenhinol gan Ei Mawrhydi yn 1994 a dathlwn ei nawdd o’r celfyddydau ac o ddiwylliant ledled Cymru a'r DU."
DIWEDD 8 Medi 2022