Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhyddhau dathliad ar ffilm yn tynnu sylw at rhywfaint o’r gwaith rhagorol a wnaed gan y sector gelfyddydol yng Nghymru yn ystod pandemig Cofid-19 – yn ogystal â thynnu sylw at rai o’r heriau difrifol a wynebwyd ganddo.

Gan siarad heddiw, dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi:

“Rydym yn gwybod yn iawn am yr effaith andwyol mae Cofid-19 wedi ei gael ar ein economi, ein diwylliant a’n ffordd o fyw, ond hyd yn oed yng nghanol y gofid a’r helbul bu yna bethau nodedig i’w dathlu. Fe amddifadodd y cyfnodau clo y cyfle i artistiaid a sefydliadau celfyddydol wneud yr hyn y maent yn bodoli i’w wneud – creu gwaith a chysylltu â chynulleidfaoedd.  Ond wrth i’r sector ymateb i roi stop ar bob gweithgarwch cyhoeddus, a wynebu’r cwymp a fu yn ein sefyllfa fyw a gweithio, mae’r sector gelfyddydol wedi dod o hyd i ffyrdd cyffrous ac arloesol o amddiffyn a chynnal ei sector.

“Mae’r prosiectau sy’n ymddangos yn y fideo byr hwn yn dangos dychymyg, ymarferoldeb a dynesiad agored. Fe fyddwch yn gweld ambell enghraifft o’r gwaith rhagorol a wnaed gan y sector. Mae’n ddathliad o lwyddiant a dycnwch sy’n cyfeirio at y posibiliadau sy’n bodoli o ran creu dyfodol mwy gobeithiol.  Mae’n cydnabod yr heriau a wynebwyd gan y celfyddydau ers Mawrth 2020 – yn ogystal â chyfeirio at rai o’r gwersi i’w dysgu at y dyfodol”.

 

DIWEDD                              14 Gorffennaf 2021

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae’r fideo wedi ei gynhyrchu gan gwmni Aunty Margaret, a enillodd y gwaith yn dilyn proses dendro agored.
  • Gwahoddwyd y sector a staff Cyngor celfyddydau Cymru i enwebu prosiectau ar gyfer eu cynnwys, ond fel yn achos pob fideo byr bu’n amhosib cynnwys pob enghraifft dda o waith a wnaed yn ystod cyfnod y pandemig.