Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dyfarnu grantiau gwerth £324,572 i 9 prosiect led-led Cymru o’i gronfa Iechyd a Chelfyddydau newydd.

Mae cronfa'r Celfyddydau, Iechyd a Lles yn gronfa Loteri Genedlaethol newydd sydd â’r bwriad o gefnogi prosiectau creadigol o ansawdd uchel, sy'n sicrhau manteision iechyd a lles i bobl Cymru. Mae ar agor i geisiadau oddi wrth sefydliadau sy'n gweithio gyda'i  gilydd ar draws y celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol a'r drydedd sector.

Gan siarad heddiw, dywedodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George:

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a’r arian sy’n cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da, rydym wedi medru creu’r gronfa newydd hon sy’n cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd ym maes celfyddyd, iechyd a lles. Dyma faes sy’n dod yn fwy a mwy pwysig i’r sector iechyd ac yn flaenoriaeth strategol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn falch tu hwnt o fod wedi camu ‘mlaen gyda’r rownd gyntaf hon o grantiau sydd i’w rhoi i rychwant eang o brosiectau hynod gyffrous”.

Yn ogystal, dywedodd Sally Lewis, arweinydd ar Iechyd a’r Celfyddydau a Rheolwr Portffolio gyda’r Cyngor Celfyddydau:

"Cawsom ein plesio gan y cyfoeth o gynigion dychmygus a gyflwynwyd i'n cronfa newydd ac  rydym yn falch iawn o allu cefnogi naw prosiect rhagorol ym mhob rhan o Gymru. Mae'r  prosiectau'n  ymateb yn greadigol i amrywiaeth o heriau iechyd cyfredol mae prosiect canu ac anadlu er mwyn cefnogi pobl sy'n gwella o Cofid hir; gweithdai  ysgrifennu caneuon i bobl sy'n profi iechyd meddwl ac unigrwydd gwael;  gweithgareddau celf awyr agored i bobl sy'n prosesu colled a phrofedigaeth a phrosiect lwcus ar gyfer mamau a babanod newydd sy’n dioddef o unigrwydd.

"Cawsom 26 o  geisiadau  oddi wrth bartneriaethau ar gyfer rownd gyntaf y gronfa hon ym mis Mai, gyda  chyfanswm y cais o £815,787 a nifer y syniadau da yn llawer uwch na'r  arian sydd ar gael - sef £300,000. Mae'n  amlygu'r diddordeb cynyddol yn y ffordd y gall y celfyddydau gyfrannu at wella iechyd a lles pobl mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon. "

 

DIWEDD                                          20 Gorffennaf 2021


Nodiadau i olygyddion:

4 blaenoriaeth y gronfa yw:

1) cefnogi gwell iechyd meddwl a lles drwy'r celfyddydau;

2) mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd

3) cefnogi gwell iechyd corfforol yn dilyn y pandemig a

4) cefnogi lles staff (o fewn y sectorau celfyddydol ac iechyd)

Roedd yn rhaid i geisiadau ddangos:

  • Partneriaethau dilys a chydweithio rhwng sefydliadau celfyddydol a phartneriaid iechyd
  • Diben amlwg a rennir o ran mynd i'r afael â her iechyd berthnasol
  • Cynnig artistig bywiog yn ganolog
  • Canlyniadau a manteision bwriadol yn glir ac amlwg i gyfranogwyr / cleifion
  • Cynllun dysgu a gwerthuso cryf yn sail i'r prosiect gyda chwestiynau clir y mae'r partneriaid am eu hystyried a’u  harchwilio drwy'r prosiect
  • Potensial i'r model gael ei dyfu / graddio / cynnal
  • Potensial i'r prosiect gael effaith ehangach ar systemau ar draws manteision iechyd / y celfyddydau / sector ehangach.

Dyma fanylion y naw prosiect y dyfarnwyd grantiau iddynt o’r gronfa Iechyd, Celfyddydau a lles:

Ymgeisydd arweiniol

Dyfarniad

Crynodeb o’r Prosiect

Bwrdd Iechyd Caerydd a’r Fro

 

£52,351

Ysbyty Brenhinol Caerdydd: Mae Pobl, Llefydd, y Dyfodol yn rhoi artistiaid ac ymwneud creadigol yn ganolog i gysylltu cymunedau bregus ac ymylol â gwasanaethau’r GIG. Mae’n dwyn ynghyd gymysgedd gyffrous o bartneriaid o’r celfyddydau, iechyd a’r drydedd sector, yn cynnwys yr artist, John Rea a thîm o artistiaid cymunedol; Cymorth i Ferched Caerdydd; Canolfan Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Oasis; practis Meddyg Teulu’r Four Elms; Amgueddfa Cymru a Phractis Mynediad Iechyd Caerdydd.
 

Ae-sop

£49,766

Dawnsio er mwyn rhwystro cwympo gyda phobl hŷn ar draws Penybont-ar-Ogwr a Phorthcawl mewn partneriaeth ag ETC Dance a Chlwstwr Iechyd Cynradd Penybont

Live Music Now Cymru

£42,931

Prosiect Si-lwli ar gyfer mamau a babanod unig yn cynnwys y rheini sydd yn Uned Iechyd Meddwl amenedigol Bae Abertawe mewn partneriaeth ag Operasonic

Head4Arts

£9,315

Celf mewn mannau gwyrdd ar gyfer pobl ar draws y de-ddwyrain/cymoedd sy’n dioddef galar - mewn partneriaeth â Cruse

Cerdd Gymunedol Cymru

£35,000

Gweithdai cyfansoddi caneuon ar y cyd gyda phobl sy’n dioddef cyflyrau iechyd meddwl difrifol a llai difrifol – mewn partneriaeth â  3 canolfan iechyd meddwl GIG ym Mangor, Rhyl a Chaerdydd

Opera Cenedlaethol Cymru

£50,000

Prosiect canu/anadlu ar gyfer pobl sy’n gwella o Cofid hir mewn partneriaeth gyda phob un o 7 Bwrdd Iechyd Cymru

The Body Hotel

£16,992

Ysbaid a dawns ddigidol ar gyfer staff y GIG mewn partneriaeth HEIW ac Ysgol Cymru er Rhagnodi Cymdeithasol

People Speak Up Ltd

£50,000

Storïau ar bresgripsiwn i bobl sy’n profi unigrwydd neu yn dioddef  arwahanrwydd cymdeithasol led-led Llanelli a Sir Gaerfyrddin mewn partneriaeth â’r Groes Goch, Age Cymru, Theatr Sir Gar a Phrifysgol Abertawe

Hamdden Sir Ddinbych, Cyf.

£18,217

Y Celfyddydau ar bresgripsiwn ar gyfer pobl â chyflyrau iechyd meddwl mewn partneriaeth MIND, Canolfan ddydd Tŷ Môr y Rhyl a gwasanaethau awdurdod lleol ym Mhrestatyn, Dinbych, Corwen a Llangollen. 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Swyddfa’r Wasg Cyngor Celfyddydau Cymru 029 2044 1344 / 1307