Gwahoddwyd 5 artist sydd â gwaith yng nghasgliad celf Amgueddfa Cymru i enwebu a mentora 8 artist newydd. Mae'r 8 artist ar adeg dyngedfennol yn eu datblygiad a byddant yn elwa yn fawr o’r cymorth.

Dyma’r 8 artist sy’n cael eu henwebu - Jo-Anna Duncalf, Toni Osuji, Dafydd Williams, Emily Laurens, Geraint Ross Evans, João Saramago, M Roberts,  a Philip Cheater.

Dyma’r 5 artist a oedd yn enwebu - Bedwyr Williams, Daniel Trivedy, Bev Bell-Hughes, Michał Iwanowski,a Sue Williams.

Dyma feysydd yr 8 artist: ffotograffiaeth, ffilm, gosodiadau, printiau, perfformio cymdeithasol a cherameg. Mae hyblygrwydd datblygiadol yn rhan fawr o’r rhaglen a bydd y broses yr un mor bwysig â’r cynnyrch terfynol.

Meddai Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, Siân Tomos:

"Dyma brosiect sydd eto’n dangos y bartneriaeth arloesol rhwng y Cyngor a’r Amgueddfa a esgorodd ar brosiectau Celf ar y Cyd - Celf 100, Penderfyna Staff y GIG a Chynfas.

"Nawr comisiynwn 8 artist am 6 mis i greu gwaith a chael eu mentora gan 5 artist gwych. Mae’n hanfodol buddsoddi mewn artistiaid yn gynnar yn eu gyrfa. Gweithiant mewn meysydd gwahanol ac mae ganddynt brofiadau gwahanol.”

Meddai Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:

"Yr hyn sy'n wirioneddol arloesol yw bod yr artistiaid yn archwilio eu hymarfer a chael cyfle i ymateb yn artistig i’n casgliadau a'r berthynas rhwng y casgliadau a’u hymarfer."

Caiff pob un o'r 8 artist grant o £10,000 a’i hanner yn mynd at ffi'r artist. Datblygant waith newydd dros y 6 mis. Bydd y cyhoedd yn gweld y gwaith ar lwyfan y Cyngor ac un yr Amgueddfa yn ystod Mehefin-Medi 2021. Cywaith yw’r prosiect gan Gydweithwyr Celfyddydol y Cyngor, Louise Hobson ac Elen Roberts.

Diwedd                                                                                    15 Mehefin 2021

 

Nodiadau i’r golygydd

Manylion pellach am yr 8 artist:

Jo-Anna Duncalf – artist cysyniadol sy'n gweithio gyda chlai. Astudiodd yn Ysgol Gelf Caerdydd cyn datblygu ei hymarfer yn Siapan am ddwy flynedd. Bu’n creu hefyd yn Seland Newydd, Awstralia a Gwlad Tai. Ar ôl dychwelyd i’r Gogledd, mae ei gwaith erbyn hyn yn archwilio sut i ddefnyddio testun gyda chlai, gan arysgrifio, creu siapiau a chyflwyno gwaith mewn ffordd wahanol.

Y cyfryngau cymdeithasol: https://jo-annaduncalf.weebly.com

Toni Osuji - artist lens sy’n byw yn y De. Mae ei hymarfer creadigol yn tynnu ar ddamcaniaeth ac ymarfer anthropolegol a chysylltiadau’r byd. Mae’n archwilio amrywiaeth, treftadaeth, harddwch a llunio hunaniaeth fewnol ac allanol.

Y cyfryngau cymdeithasol: I - @tosuji

Dafydd Williams – artist lens, gosodiadau a pheintio sy’n hoyw, Cymraeg ac yn byw yn Abertawe. Mae’n archwilio damcaniaeth a sut i fyw’n hyfryd ac ymgyrchu yn erbyn  gwahaniaethu ac yn herio’r byd heterorywiol ‘normal’.

Y cyfryngau cymdeithasol: I - @properdaf

Emily Laurens – mae'n byw yn Sir Gâr gyda’i dau blentyn a gweithio ym maes celf gyfranogol, ffilm, celf weledol a theatr. Bu’n gweithio gyda Chelfyddydau Sban, National Theatre Wales ac Amgueddfa Cymru. Ers 2016 mae’n gydlynydd celf gymunedol rhan amser yn Oriel Myrddin, Caerfyrddin.

Y cyfryngau cymdeithasol: I - @datod_unravel

Geraint Ross Evans - artist ym maes darlunio, paentio a gosodiadau. Mae’n dod o’r De a graddiodd o Goleg Celf Abertawe. Bu’n gweithio gyda TactileBosch cyn astudio yn yr Ysgol Ddarlunio Frenhinol, Llundain lle mae o hyd yn diwtor. Daeth yn ôl i fyw yma yn 2019 i redeg ei stiwdio ei hun hefyd.

Y cyfryngau cymdeithasol: I - @geraintevans_artist

João Saramago – artist o Lisboa, Portiwgal sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n archwilio bod yn fregus a gwydn drwy ffilm, ffotograffiaeth, perfformio a darlunio. Roedd yn artist preswyl yng Ngwlad yr Iâ ym maes y cyfryngau, gosodiadau a pherfformio penodol i safle. Mae ei waith yn chwareus a chynaliadwy gyda golwg ar ddyfodol ecolegol Cymru.

Y cyfryngau cymdeithasol: I - @saramago.joao

M Roberts – artist 27 oed sy’n byw yn y Gogledd. Mae’n archwilio ein gwerth yn ôl ein cymuned a’n lleoliad gan gysylltu rhywioldeb, gwrywdod, iechyd meddwl, cyffuriau, camdriniaeth a gwleidyddiaeth. Mae hefyd yn cynnal prosiectau celf gymunedol, gan adeiladu parciau sglefrio i ddatblygu creadigrwydd.

Y cyfryngau cymdeithasol: I - m.a.roberts_

Philip Cheater - artist amlddisgyblaethol sy'n gweithio yn Abertawe. Bu’n rhan o oriel Elysium ac nawr mae yn Stiwdios Stryd y Coleg. Mae’n arddangos gwaith ar y cyd a gosodiadau ymdrochol. Bu’n rhan o brosiectau celf gyhoeddus gyda Locws Rhyngwladol a Llaw ym Maneg. Yn ddiweddar roedd ar restr fer Gwobr Artist Ifanc Syr Leslie Joseph.

Y cyfryngau cymdeithasol: I - @fineartphil

Bydd y rhaglen yn gyfle i'r cyhoedd ddysgu rhagor am waith a chynnydd yr artistiaid dros y 6 mis, yn ddigidol (drwy gyfryngau cymdeithasol y Cyngor, yr Amgueddfa a Chynfas) ac yn gorfforol lle bydd hynny’n bosibl.

Dolenni Instagram:

@celfcymruarts @celfarycyd @museumwales

#CelfArYCyd