Nod y Gronfa yw helpu sector celfyddydau Cymru i oroesi’r pandemig yn fywiog, yn gynaliadwy ac yn ariannol hyfyw.

Mae'r Gronfa Adfer Ddiwylliannol yn gynllun gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau ac artistiaid unigol y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt. Cyhoeddwyd £53 miliwn ar gyfer y rownd gyntaf yn Awst 2020 a chafwyd £30 miliwn arall ar gyfer yr ail rownd yn Ebrill 2021. Y Cyngor a reolodd elfen y gronfa ar gyfer sefydliadau celfyddydol. Gallai cwmnïau sy'n wynebu anawsterau ariannol ymgeisio am grant refeniw gan y Cyngor i dalu am incwm a gollwyd, costau sefydlog fel rhent a diogelwch, gwaith adeiladu a’r costau ychwanegol o gael staff yn gweithio gartref.

Roedd 127 sefydliad wedi llwyddo a rhoddwyd cyfanswm o bron i £8.8 miliwn iddynt. Roedd 94% o ymgeiswyr yn llwyddiannus yn eu ceisiadau ac amcangyfrifir y gallai'r Gronfa ddiogelu o leiaf 1,800 swydd yn y sector.

Dywedodd Dawn Bowden Aelod o’r Senedd a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

"Mae gan y sector ran bwysig i'w chwarae wrth adfywio cymdeithas ac economi Cymru.

"Wrth gwrs rydym ni’n gobeithio y gallwn groesawu cynulleidfaoedd yn ôl yn raddol ac yn ddiogel i'n lleoliadau. Roedd creadigrwydd ein sefydliadau celfyddydol wrth addasu i'r pandemig yn drawiadol. Ond gwyddom hefyd fod angen ein cefnogaeth arnynt o hyd dros y misoedd nesaf ac y bydd y Gronfa’n rhoi cymorth hanfodol i gwmnïau."

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Bydd y sector yn goroesi’r pandemig. Roedd gwytnwch a chreadigrwydd ein hartistiaid a'n sefydliadau’n amlwg dros y cyfnod.

"Ond mae angen cymorth ariannol arnynt oherwydd iddynt golli cymaint o incwm ac er mwyn ailadeiladu eu cynulleidfa. Roedd y Gronfa’n rhan bwysig o'r broses a byddwn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraethau Cymru a Llywodraeth Prydain i ddosbarthu arian i’r sector ffynnu eto."

Dyma restr lawn o'r derbynwyr grant

Diwedd                            7 Mehefin 2021                                                                                                     


Nodiadau i’r golygydd

  • Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus swyddogol sy'n gyfrifol am ariannu a chefnogi celfyddydau Cymru gan reoli arian i theatrau, canolfannau celfyddydau a neuaddau cyngerdd, orielau, sefydliadau sy'n cynhyrchu ac yn teithio gwaith celfyddydol, sefydliadau sy'n cynnig gwaith celfyddydol cyfranogol (gan gynnwys ceisiadau masnachol, Prifysgolion a ariennir yn gyhoeddus ac awdurdodau lleol)
  • Agorodd ceisiadau i ail rownd y Gronfa Adfer Ddiwylliannol ar 6 Ebrill 2021 a daeth i ben ar 20 Ebrill 2021
  • Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli arian ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau, digwyddiadau a gwyliau, sinemâu annibynnol, gweithwyr creadigol llawrydd