Mae Cronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru yn ail-agor heddiw am geisiadau, gyda galwad o'r newydd am brosiectau creadigol sy'n cysylltu pobl â byd natur.
Mae’r gronfa, sy’n cau unwaith eto ar 22 Ionawr, yn agored i geisiadau partneriaeth o bob rhan o’r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol, natur, yr amgylchedd a’r trydydd sector. Ond fel rhan o Gytundeb Natur Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru sy’n anelu at feithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a’r amgylchedd naturiol, caiff partneriaethau sefydliadau celfyddydol, iechyd a natur yng Nghymru eu hannog i wneud cais.
Mae pecyn cymorth natur newydd wedi’i lansio heddiw hefyd i ysbrydoli a chefnogi ymgeiswyr wrth gynllunio prosiectau lle mae byd natur yn ganolog. Mae’r adnodd hwn, sydd ar gael ar ein gwefan, yn darparu gwybodaeth ychwanegol, ysbrydoliaeth ac adnoddau i fudiadau wrth iddynt ddatblygu prosiectau creadigol sy’n canolbwyntio ar wella iechyd a lles drwy fwy o gysylltiad â'r amgylchedd naturiol.
“Mae cysylltiad annatod rhwng y celfyddydau, natur a’n llesiant”
meddai Liz Clarke, Rheolwr Rhaglenni Dros-Dro ar gyfer Celfyddydau, Iechyd a Lles, Cyngor Celfyddydau Cymru.
“Rydyn ni’n gwybod y gall treulio amser yn yr awyr agored a chysylltu ein creadigrwydd â byd natur fod yn hynod o fuddiol i’n hiechyd a’n lles”.
“Mae ein partneriaeth arbennig gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn deillio o'r wybodaeth honno a gobeithiwn y bydd datblygu'r adnodd ychwanegol hwn yn annog mwy o brosiectau o effaith uchel sy’n integreiddio lles, mynegiant artistig a’r byd naturiol mewn ffordd greadigol wrth i ni weithio gyda’n gilydd i feithrin cymunedau iachach mwy cadarn ar draws Cymru."
Mae heriau a blaenoriaethau iechyd cymwys eraill ar gyfer y Gronfa yn cynnwys prosiectau sy’n ceisio mynd i’r afael ag iechyd meddwl, anghydraddoldeb iechyd, iechyd a lles corfforol, a/neu les staff o fewn y sectorau iechyd neu gelfyddydol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chronfa Loteri y Celfyddydau ac Iechyd, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a mynediad at y pecyn cymorth natur newydd, ewch i https://arts.wales/cy/ariannu/sefydliadau/celfyddydau-iechyd-lles