Rydym yn adolygu ac yn diweddaru'r erthygl hon yn rheolaidd. Diweddarwyd y darn ddiwethaf ar 30.03.20
Cefnogaeth Ariannol ar gyfer y Sector Greadigol
Yn gynharach heddiw (dydd Llun 30 Mawrth), cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, Gronfa Dycnwch Economaidd i Gymru o £500m. Bwriad y Gronfa yw cau bylchau yn y cynlluniau cefnogi sydd wedi eu cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth y DU, yn cynnwys y Cynllun Arbed Swyddi a Chynllun Cefnogi Incwm Gweithwyr Hunan-gyflogedig.
“Rydym ni’n deall bod artistiaid a sefydliadau celfyddydol Cymru yn awyddus i wybod pa arian a allai fod ar gael i ddatrys y problemau difrifol sy’n dod o ganlyniad i goronafeirws. Rydym ni’n ceisio sicrhau bod cefnogaeth glir ar gael fel sydd yn rhannau eraill o Brydain. Yn wir rydym ni’n ymdrechu’r ymdrech deg gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod pecyn cefnogaeth Cymru yn diwallu anghenion y sector. Byddwch yn amyneddgar gyda ni am ychydig o ddiwrnodau ragor – mae’r arian prin yn gorfod mynd i’r lleoedd lle bo fwyaf ei angen, felly rhaid inni gymryd yr amser i gael y pecyn priodol.”
-
Ar adeg ddigynsail yn ein hanes diweddar, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cydnabod effeithiau personol a phroffesiynol Covid-19 ar artistiaid, ymarferwyr a sefydliadau.
Rydym ni’n sefyll yn gadarn gydag artistiaid a sefydliadau celfyddydol Cymru. Ein blaenoriaeth yw cefnogi’n ymarferol y rhai sy'n ceisio rheoli canlyniadau ariannol y sefyllfa.
Isod mae gwybodaeth i artistiaid, gweithwyr llawrydd a sefydliadau diwylliannol sy’n cael arian cyhoeddus.
Byddwn ni’n cyhoeddi gwybodaeth wrth i'r sefyllfa ddatblygu ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn ni’n gwrando’n ofalus ar eich profiad a’ch pryderon gan geisio ymateb gyda chymorth defnyddiol. Yn y cyfamser, dyma’n cyngor.
O ystyred yr holl senarios posibl a natur gyfnewidiol y sefyllfa, dylech chi edrych ar y gwahanol ffynonellau o gyngor swyddogol sy’n briodol i’ch sefyllfa arbennig chi.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau iechyd cyhoeddus eraill Prydain i fonitro'r sefyllfa'n fyd-eang. Dyma ei gyngor diweddaraf: https://phw.nhs.wales
Mae rhai gwledydd yn gwahardd yn llym deithio i’r wlad ac o’r wlad gan gynnwys Prydain. Mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym. Mae gwledydd hefyd yn cyflwyno’r rheidrwydd i hunanynysu os buoch chi mewn gwlad arall yn ddiweddar – edrychwch ar y cyngor diweddaraf: https://gov.uk/guidance/travel-advice-novel-coronavirus
Rhagor o wybodaeth am deithio’n rhyngwladol: https://fitfortravel.nhs.uk
Os ydych chi’n datblygu symptomau, dyma gynghorion am hunanynysu: https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/what-to-do-if-you-have-symptoms-of-coronavirus/
Gwybodaeth am ddigwyddiadau, perfformiadau a lleoliadau
Dylech chi ddilyn cyngor y Llywodraeth am goronafeirws.
Cyngor swyddogol y Llywodraeth o 16 Mawrth ymlaen oedd y dylai pobl osgoi adeiladau cyhoeddus gan gynnwys theatrau. O ganlyniad roedd y rhan fwyaf o leoliadau, neuaddau a theatrau wedi dod i’r casgliad mai cau yw’r unig opsiwn. Y tebyg yw y byddant yn aros ar gau nes iddynt glywed yn wahanol.
Ond os ydych chi neu aelod o'ch staff yn teimlo'n sâl, dylech chi neu dylai’r aelod aros gartref a hunanynysu.
Dylech chi ddim ond ffonio 111 os:
- Na allwch chi ymdopi â’r symptomau gartref
- Rydych chi’n gwaethygu
- Nad yw eich symptomau’n gwella ar ôl 7 diwrnod
Dylech chi adolygu eich cynlluniau wrth gefn a pharhad busnes. Dylech chi ystyried y canlynol wrth arwain a chefnogi eich staff.
Dylech chi annog y staff i aros gartref os ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau o Covid-19.
Mae’r sefyllfa’n un gyfnewidiol ac nid yw’n glir beth sy’n digwydd gydag yswiriant yn achos canslo. Dylech chi ymgynghori â'ch cwmni yswiriant.
Dylech chi gofio:
- Cynyrchiadau – gallai yswiriant canslo dalu am golledion sy’n deillio o "glefydau trosglwyddadwy" - er y gallai fod gwaharddiadau penodol yn y polisi ac y gallai amseriad cymryd y polisi allan hefyd effeithio ar hyn. (Annhebyg y bydd polisïau diweddar yn talu am goronafeirws.) Gallai swm yr yswiriant hefyd fod yn gyfyngedig a dim ond digon i dalu am ganslo neu gau yn y tymor byr
- Lleoliadau – gallai'r polisi arferol torri ar draws busnes gynnwys cymal ymestyn sy'n talu am glefydau trosglwyddadwy neu heintus, ond fel arfer dim ond os yw'r clefyd ar y safle. Fel arfer ni fyddai’n talu am gau gorfodol gan y Llywodraeth, hyd yn oed os yw y tu hwnt i reolaeth y lleoliad
- Cyflogwyr - dan yswiriant atebolrwydd, mae gan gwmnïau ddyletswydd gofal i staff ac ymwelwyr. Felly, mae'n bwysig ichi ddosbarthu cyngor diweddaraf y Llywodraeth a glynu wrtho i osgoi hawliadau posibl o ran esgeulustra
- Gwyliau a digwyddiadau – yn wynebu sawl her benodol gan gynnwys digwydd ar adeg benodol iawn er bod rhai’n ystyried gohirio ac eraill wedi penderfynu gohirio am flwyddyn gron
Cymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Rydym yn ystyried y senarios niferus sydd ar hyn o bryd o ran arian y Cyngor. Rydym yn ystyried beth yw'r ffordd orau o ymateb ac rydym wrthi'n trafod mesurau ymarferol i liniaru effeithiau cau, canslo a cholli incwm.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod pa ffurf y gallai cymorth o'r fath ei gymryd. Ond gallwn gynnig y canllawiau am ein cymorth ariannol:
1. Arian i’r Portffolio – bydd sefydliadau’n parhau i gael arian ond ni fydd amodau ariannu sy'n nodi math a lefel y gweithgarwch yn gymwys am o leiaf dri mis. Daw hyn i rym ar unwaith. Gallwn hefyd dalu ymlaen llaw am grantiau i'ch helpu gyda’ch llif arian. Yn gyfnewid am ein cefnogaeth, gofynnwn i chi anrhydeddu contractau a gytunwyd gyda gweithwyr llawrydd ac artistiaid ac i feddwl pa gymorth y gallwch ei gynnig i'ch cymunedau.
Dros y dyddiau nesaf y bydd ein swyddogion yn cysylltu â’r Portffolio i gael gwybod rhagor am yr her sy’n eich wynebu.
2. Grantiau prosiect – rydym yn awyddus i roi pob cyfle i chi ddefnyddio'r arian grant a gawsoch i dalu am gostau prosiect rydych chi eisoes wedi eu cael neu fydd rhaid i chi’n eu cael yn y dyfodol. Efallai yr hoffech archwilio a oes modd gohirio gweithgarwch tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ond os nad yw hyn yn bosibl, caiff yr holl grantiau sydd eisoes wedi'u hymrwymo i dalu am eich costau eu talu – p'un a gaiff y gweithgaredd a ariennir ei ganslo, ei leihau neu ei aildrefnu.
Dros y dyddiau nesaf y bydd ein swyddogion yn cysylltu â derbynwyr grant i gael gwybod rhagor am yr her rydych chi’n ei hwynebu wrth reoli eich prosiect.
Dros y dyddiau nesaf byddwn ni’n cysylltu â phawb sydd â grant prosiect agored i benderfynu sut orau i symud ymlaen ym mhob achos unigol
3. Ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno a'u hasesu ar hyn o bryd – rydym yn parhau i asesu a phenderfynu ar geisiadau sydd eisoes yn ein system. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i lynu wrth y prosesau a'r amserlenni arferol. Os ydych chi'n llwyddiannus yn eich cais, byddwn yn cysylltu â chi i weld a oes angen i chi newid eich cynlluniau yng ngoleuni cyngor y Llywodraeth ar y pryd. Byddwn yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o'ch helpu i wireddu eich cynlluniau, ond os nad yw hynny'n bosibl gallwch ddewis peidio â derbyn eich grant. Ein nod yw cymryd agwedd bragmatig a hyblyg os bydd angen i gynlluniau newid o ganlyniad i COVID-19.
4. Ceisiadau newydd am arian – rydym ni am wneud ein gorau glas i fuddsoddi mewn artistiaid a sefydliadau celfyddydol ar yr adeg anodd yma. Mae'n amlwg bod llawer o bobl yn wynebu dyfodol ansicr gydag anawsterau newydd yn ymddangos yn ddyddiol. Yn y tymor byr ein blaenoriaeth fydd dod o hyd i ffyrdd effeithiol o ymateb i anghenion brys y sector. Gyda Llywodraeth Cymru rydym ni’n gweithio'n galed i ddod o hyd i atebion ymarferol. Am y tri mis nesaf felly, ni fyddwn ni’n derbyn ceisiadau newydd i'n rhaglenni ariannu. Byddwn ni’n adolygu'r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf gan gyhoeddi unrhyw newidiadau yn ein ffordd o weithio yn y man.
Mae cyngor ynghylch Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i'w gael yma.
Mae gwybodaeth ynghylch cynllun Noson Allan i'w gael yma.
Mae gwybodaeth ynghylch rhaglen Dysgu creadigol trwy'r celfyddydau i'w gael yma.
Cymorth i weithwyr proffesiynol llawrydd
Rydym yn gwybod bod artistiaid unigol a gweithwyr llawrydd hunangyflogedig yn wynebu sawl her arbennig ac â dim o’r breintiau yn yr amseroedd anodd hyn y mae’r rhai mewn cyflogaeth yn ei mwynhau. Lle bo gweithwyr llawrydd proffesiynol dan gytundeb i ddarparu gwasanaeth ar gyfer, neu ar ran, sefydliad, holwn i’r ymrwymiadau hyn gael eu hanrhydeddu. Os yw’r sefydliad yn cael ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau, byddwn yn disgwyl mai felly y bydd hi.
Mae gan weithwyr llawrydd unigol amrywiaeth eang o anghenion ariannol, a bydd hi’n anodd iawn i ni ddod o hyd i ffyrdd o gynorthwyo gyda phob sefyllfa unigol. Rydym yn gwybod bod bygythiad cyni ariannol yn ofid gwirioneddol i nifer, felly rydym mewn trafodaethau manwl gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio canfod pa gymorth y medrwn o bosib ei gynnig.
Yn y cyfamser, nodwyd yng nghyllideb diweddar y Llywodraeth (ac mewn cyhoeddiad ychwanegol ar 26 Mawrth) fudd-daliadau i weithwyr llawrydd yr effeithir arnynt gan ganslo oherwydd y feirws. Rydym yn derbyn bod y math o gefnogaeth y gall y cynlluniau canlynol eu cynnig yn gyfyng, ond buasem er hynny yn awgrymu eich bod yn archwilio’r posibiliadau canlynol o ran cefnogaeth:
- Cynllun Cymorth Incwm Hunan-Gyflogedig
- Lwfans cyflogaeth a chymorth (mae'n rhaid i chi fod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol dros 2-3 mlynedd diwethaf)
- Credyd cynhwysol (gan atal cyfyngiad yr incwm isaf ac nid oes angen mynd i ganolfan waith)
Mae llawer o weithwyr celfyddydol yn aelodau o Equity, Undeb y Cerddorion ac undebau llafur eraill sy’n cynnig cyngor defnyddiol.
Mae cyngor Undeb y Cerddorion ar gael yma
Mae cyngor a gwybodaeth gan 'the Writers’ Guild of Great Britain' (WGGB) ar gael yma
Mae cyngor a gwybodaeth gan a-n (celf gweledol) ar gael yma
Mae cyngor a gwybodaeth gan Musicians' Union ar gael yma
Adolygiad buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru 2020 a chynhadledd 2020
Mae’r adolygiadau buddsoddi, a gynhelir bob pum mlynedd, yn penderfynu pa sefydliadau y bydd y Cyngor yn talu arian refeniw iddynt am y pum mlynedd nesaf. Mae'n broses agored i gais sy'n cynnwys sefydliadau presennol a ariennir yn flynyddol (y Portffolio), ac unrhyw sefydliadau newydd sy'n ymgeisio i fod yn aelod o’r Portffolio.
Agorodd yr adolygiad buddsoddi ar gyfer ceisiadau ar 2 Mawrth gyda’r dyddiad cau o 24 Ebrill 2020. Roedd disgwyl i benderfyniadau ddigwydd ym mis Hydref, gyda threfniadau ariannu newydd ar waith o Ebrill 2021 ymlaen.
Mae'n eithaf clir na fyddai'n ymarferol – nac yn deg – i ni barhau â'r broses bresennol. Gyda llawer o sefydliadau'n brwydro i oroesi, byddai adolygiad buddsoddi yn ormod i bawb.
Felly, rydym yn gohirio'r adolygiad buddsoddi am flwyddyn a byddwn yn cysylltu â chi yn ddiweddarach eleni am y trefniadau a'r amserlen newydd.
Rydym wedi penderfynu hefyd na fyddwn yn cynnal cynhadledd eleni, a oedd i fod wedi ei chynnal 18 Medi.
Pa mor barod yw’r Cyngor?
Rydym wedi bod yn adolygu pa mor barod ydym i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu'r gwasanaeth mwyaf effeithiol wrth ymdrin â'r sefyllfa bresennol.
O ddydd Mawrth 17, ac yn dilyn y cyfarwyddyd diweddaraf oddi wrth y Llywodraeth ar sut i ymateb i fygythiad Covid-19, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi penderfynu dilyn y cyngor ac annog pob aelod o staff a all wneud hynny i weithio o adref. Byddwn yn gwneud popeth posib i leihau effaith hyn ar y sector ac i ddarparu gwasanaeth cystal ag y bo modd i’n cydweithwyr ym maes y celfyddydau yng Nghymru.
Rydym wedi rhoi'r gorau i bob teithio ond teithiau hanfodol. Ni fydd dim teithio ar fusnes y tu allan i Brydain. Rydym hefyd yn gorfod canslo cyfarfodydd sydd wedi'u cynllunio ac yn gofyn i bobl gysylltu â ni dros y ffôn, drwy'r e-bost neu drwy’r we.
Mae defnydd cynyddol ac effeithiol o offer digidol yn helpu i reoli ein busnes. Ond cofiwch y gallai ein staff gael eu heffeithio'n uniongyrchol wrth i'r feirws ledaenu ac efallai bod sawl galwad ar eu hamser (megis gofalu am aelodau o'r teulu). Wedi dweud hynny, byddwn yn gwneud popeth a allwn i leihau'r effaith ar ein gwaith.
Cadwch mewn cysylltiad
Rydym ni’n casglu gwybodaeth o bob rhan o'r sector inni ddeall yn well beth sydd ei angen yn y tymor byr a'r hir dymor. Gallwch chi hefyd rannu gwybodaeth â ni am yr hyn sy'n digwydd drwy e-bostio: coronavirus@celf.cymru
Rydym ni eisoes yn cael nifer o ymholiadau a byddwn ni’n ymateb cyn gynted ag y gallwn ond bydd yn cymryd rhywfaint o amser inni ymateb i bob un.
Mae'n anodd meddwl am bethau cadarnhaol i’w dweud mewn sefyllfa mor anodd. Natur y celfyddydau yw brwydro yn y tywyllwch ac mae’r amseroedd yn dywyll y tu hwnt. Ond gall eich creadigrwydd gynnau golau i eraill yn eich cymuned. Rydym yn benderfynol o gadw ein hysbryd ynghyn a helpu eraill i wneud yr un fath. Mae gennym ffydd ynoch y gallwch ein helpu yn y dyddiau a’r wythnosau a ddaw i ysbrydoli cynulleidfaoedd, hen a newydd, ar adeg pan fo angen dybryd am hynny.
Yn olaf, ein neges allweddol yw ichi ofalu am eich iechyd eich hun ac iechyd eich teuluoedd a'ch anwyliaid. Mae'r sefyllfa’n creu pryder difrifol ond rydym ni’n benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu gwytnwch celfyddydau Cymru.