Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n cyflwyno Cymru yng Nghaeredin. Mae’n cynnig cyfle i gwmnïau a gweithwyr creadigol ddatblygu marchnadoedd newydd a dod o hyd i ffyrdd o wella eu patrymau teithio y tu allan i Gymru.
Mae’n gyfle arddangos sydd wedi'i churadu i hyrwyddo'r gorau ym myd theatr, dawns a syrcas Cymru. Ei weledigaeth yw defnyddio’r Ŵyl Ymylol yno, nid fel cyrchfan, ond fel llwyfan i'n sefydliadau a gweithwyr creadigol wireddu eu huchelgais rhyngwladol.
Gŵyl Ymylol Caeredin yw gŵyl gelfyddydol fwyaf y byd ac mae cynulleidfaoedd, rhaglenwyr, hyrwyddwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o Brydain a’r byd yn mynd yno.
Cyfanswm yr arian sydd ar gael eleni yw £80,000. Byddem yn disgwyl ariannu rhyw 4-5 cynnig cryf gan bobl sy'n barod i arddangos eu gwaith.
Am fwy o wybodaeth, ac i wneud cais, cliciwch yma.