Mae'r gronfa hon nawr ar gau (Mai 2024)
Mae'r gronfa yma ar gau ar hyn o bryd.
Gŵyl Ymylol Caeredin yw gŵyl gelfyddydol fwyaf y byd. Mae Cymru yng Nghaeredin yn arddangosfa wedi'i churadu sy'n hyrwyddo safon ein theatr, ein dawns a’n syrcas. Gweledigaeth y rhaglen yw defnyddio’r Ŵyl Ymylol nid fel cyrchfan ond fel llwyfan i'n sefydliadau celfyddydol a gweithwyr creadigol wireddu eu huchelgais rhyngwladol.
Mae cynulleidfaoedd, rhaglenwyr, hyrwyddwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o Brydain a'r byd yn mynychu'r Ŵyl. Credwn fod gan ein cwmnïau celfyddydol perfformio a gweithwyr creadigol ansawdd Cymreig unigryw sy'n eu galluogi i weithio ar lefel fyd-eang.
Cyflwynir a churadir Cymru yng Nghaeredin gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n cynnig cyfle i'n cwmnïau a’n gweithwyr creadigol sy'n arddangos yn barod, i ddatblygu marchnadoedd a dod o hyd i ffyrdd o wella eu patrymau teithiol y tu allan i Gymru.
£80,000 yw’r holl arian sydd ar gael i Gymru yng Nghaeredin 2024. Byddem ni’n disgwyl ariannu rhwng 4-5 ymgeisydd gyda chynigion cryf ac sy'n arddangos yn barod.
5pm ar 14 Chwefror yw’r dyddiad cau.