Bore Coffi: Cymru yn COP26

Mae’n bleser gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i bartneri gyda Swyddfa Comisynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar ddigwyddiad sy’n rhan o raglen COP26 mis Tachwedd yma. Mi fydd y bore coffi anffurfiol yma yn dod a’r sector diwylliannol yng Nghymru at ei gilydd er mwyn trafodaeth agored o gwmpas ein rôl yn yr argyfwng hinsawdd, ac i archwilio sut y gall creadigrwydd a diwylliant cyfrannu at uchelgeisiau hinsawdd.

Gallwch ymuno a’r digwyddiad ar-lein:
9 Tachwedd 2021 | 09:30-10:30 am GMT

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu llond llaw o westai i'r digwyddiad:

Mi fydd Marc Rees yn ymuno yn ffres o 4ydd Diwrnod y panel ‘Possible Dialogues’ yn COP26 - menter er mwyn cysylltu arweinwyr, actifyddion, artistiaid ac academyddion cymdeithasol ac amgylcheddol, gyda diddordebau cyffredin sy’n berthnasol i newid a chyfiawnder hinsawdd. Artist amlddisgyblaethol sy’n adnabyddus ar draws y byd yw Marc Rees. Mae ei waith yn cynnwys y ffilm fer ISOSTAY sy’n archwilio etifeddiaeth bodau dynol yn yr Antartig, a chafodd ei gyd-greu gyda Simon Clode. Yn fwy diweddar, gwelwyd Marc yn cydweithio gydag artist brodorol Tasmaniaidd ac actifydd Dave Mangenner Gough ar brosiect CROMEN, cyn ei ddatblygu’n CRO | PAN mewn cydweithrediad a Pickle Factory Dance Foundation Kolcata a'r Eisteddfod Genedlaethol fel rhan o fenter Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant British Council.

Mi fydd Gwenfair Hughes (Cyngor y Celfyddydau Cymru/Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol 2019/20) hefyd yn ymuno â ni er mwyn trafod pwysigrwydd cydweithredu, dysgu, a ddychymyg yn y celfyddydau er mwyn daclo’r argyfwng hinsawdd. Ar hyn o bryd, mae Gwenfair yn gweithio ar y rhaglen Dysgu Creadigol trwy'r celfyddydau. Partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru a ddyluniwyd i helpu ysgolion i ddatblygu sgiliau creadigol ar draws y cwricwlwm, gan annog dysgwyr uchelgeisiol a mentrus, sydd wedi’u paratoi gyda sgiliau am oes. Mae hi hefyd yn Alumni Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol wedi iddi gymryd rhan yn y dosbarth gyntaf o bobl ifanc yn 2019/20.

Yn ymuno â ni o’r gynhadledd ei hun bydd Jacob Ellis - Arweinydd Ysgogi Newid ar gyfer Materion Cyhoeddus a Rhyngwladol yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wrth i dîm Cymru baratoi am ddigwyddiad ‘Climate, in the Visceral Sense. An Ongoing Story in Three Acts’ yn ‘Ardal Werdd’ COP26 ar y 12fed o Dachwedd.

Mi fydd Taylor Edmonds hefyd yn ymuno er mwyn trafod digwyddiad yr ‘Ardal Werdd’ ymhellach a’r prosiect y mae’n gweithio arni ar hyn o bryd. Bardd, awdur a hwylusydd creadigol o Bari yw Taylor. Mae hi hefyd yn Fardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Enillodd barddoniaeth Taylor y Wobr Rising Stars Cymru gan Llenyddiaeth Cymru yn 2020. Mae hi hefyd yn aelod o dîm Where I’m Coming From, platform cymunedol ar gyfer awduron Cymraeg sydd wedi’i tangynrychioli.

Mi fydd sgrindeitlo a chyfieithu ar y pryd Cymraeg-Saesneg ar gael yn ystod y digwyddiad.

 

Trefnu digwyddiad, cynnwys, neu ymgyrch o gwmpas COP26 a'r argyfwng hinsawdd?

I gyd-fynd a’r digwyddiad, mi fydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru hefyd yn mapio gweithgareddau’r sector diwylliannol yng Nghymru o gwmpas yr argyfwng hinsawdd, a COP26 yn benodol. Os ydych chin cynllunio digwyddiadau, cynnwys neu ymgyrchon, neu yn cynnal y rhain ar hyn o bryd, neu’n rhan o ddatblygiadau hirdymor syn berthnasol i'r pwnc yma, llenwch yr arolwg byr isod os gwelwch yn dda.