Heddiw mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru), British Council Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid a’r sefydliadau sydd wedi’u dewis i gael cyfleoedd drwy Gronfa-Ddiwylliannol Cymru-Japan. Mae hyn fel rhan o Flwyddyn Cymru a Japan, o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio dyfnhau’r cysylltiadau creadigol ac economaidd rhwng y ddwy wlad i gyd-daro ag Expo’r Byd yn Osaka.

Meddai Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru:

“Mae gan Gymru berthynas ddiwylliannol ers tro byd â Japan, a honno’n berthynas sy’n tyfu. Bydd y prosiectau sy’n cael eu cefnogi gan y gronfa hon yn helpu i ddyfnhau’r cysylltiadau hynny ac yn hwb i ragor o arloesi.

“Nid yw cysylltiadau diwylliannol yn ymwneud â threftadaeth a’r celfyddydau’n unig. Maen nhw’n hollbwysig er mwyn diplomyddiaeth a chydweithio economaidd, ac mae’n addas bod y cyhoeddiad hwn yn cyd-daro ag ymweliad Ysgrifennydd yr Economi â Japan, sydd â’r nod o ddathlu a chryfhau’r cysylltiadau economaidd rhwng ein dwy wlad.” 

Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Mae’r gronfa hon yn ein galluogi ni i rannu creadigrwydd Cymru â Japan, gan ddysgu ar yr un pryd gan diwylliant ac arloesedd Japan. Mae’n ymwneud â phartneriaethau, cyfnewid, a dathlu ein cyd-ymrwymiad i gymuned, i ddiwylliant ac i ieithoedd a gwybodaeth Frodorol."

Meddai Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:

“Rydyn ni wrth ein boddau’n cyhoeddi pwy fydd yn cael grantiau Cronfa Ddiwylliannol Cymru-Japan, yn dilyn proses ddethol hynod o gystadleuol. Mae poblogrwydd y gronfa’n dyst i’r cyfnewid diwylliannol cynyddol rhwng ein dwy genedl, ac i’r posibiliadau creadigol yn y naill genedl a’r llall.  

“Ymhlith y prosiectau mae gwaith parhaus Only Boys Aloud gyda phobl ifanc yng Nghymru a Japan drwy ganeuon, perfformiad cynhwysol Hijinx, ‘Meet Fred’, a’r pwyslais ar gyfieithiadau llenyddol i blant drwy Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau. Mae’r prosiectau’n rhai amrywiol tu hwnt ac yn adlewyrchiad o gyfoesedd celfyddydol Cymru a Japan. Rydyn ni’n falch o gefnogi’r prosiectau hyn, ac yn falch o helpu i greu platfformau a chyfleoedd byd-eang newydd i greadigrwydd o Gymru a Japan.”

Bydd y rhaglen flwyddyn o hyd yn bwrw goleuni ar werthoedd unigryw Cymru yn Japan ac ar greadigrwydd Japaneaidd yng Nghymru, gyda phwyslais ar les diwylliannol, cynaliadwyedd ac Ieithoedd Brodorol. A hwnnw’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), mae’r cynllun yn cefnogi pobl sy’n cydweithio’n greadigol a’r cyfan wedi’i seilio ar gydraddoldeb, ar weithredu dros yr hinsawdd, ac ar gysylltiadau cymunedol.

Ymhlith y prosiectau sy’n cael eu hariannu, bydd Hijinx Theatre o Gaerdydd yn mynd â’i sioe lwyddiannus, Meet Fred, i Japan yn hydref 2025. Mae Hijinx yn gwmni sy’n enwog yn rhyngwladol am ei waith cynhwysol gyda pherfformwyr sydd ag anableddau dysgu a/neu sy’n awtistig.

Bydd perfformiadau’n cael eu cynnal yn y ‘Bird Theatre Festival’ yn Tottori, gyda gweithdai ychwanegol a gwaith i ymwneud â’r gymuned yn cael ei arwain gan y sefydliad celfyddydol cynhwysol o Tokyo, SLOW LABEL.

Meddai Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr Artistig Hijinx:

“Rydyn ni wrth ein boddau’n mynd â Fred yn ôl i’w gartref ysbrydol. Mae’r sioe hon wedi’i gwreiddio yn nhraddodiad pypedwaith Japan. Mae mynd â Fred i Japan, gyda’r ethos cynhwysol rydyn ni wedi’i feithrin yng Nghymru, yn teimlo’n hynod o addas. Prosiect am gydraddoldeb, urddas a chyfnewid creadigol yw hwn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gysylltu ag artistiaid yn Japan sy’n rhannu’r weledigaeth honno.”

Yn ogystal â Hijinx, bydd yr Ŵyl Serameg Ryngwladol – digwyddiad crochenwaith mwyaf Ewrop a gynhelir bob dwy flynedd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth – hefyd yn cael cyllid. Bydd yr Ŵyl yn 2025 yn croesawu dau artist crochenwaith o Japan – yr artist kintsugi, Iku Nishikawa, a’r craswr coed cynaliadwy, Euan Craig. Mae hyn yn cynnal cysylltiad hirhoedlog yr Ŵyl â thraddodiadau crefft Japan.

Meddai Moira Vincentelli, Cyfarwyddwr yr Ŵyl Serameg Ryngwladol

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Euan ac Iku i Gymru. Mae gwneuthurwyr crochenwaith Japan wedi llywio hanes ein gŵyl, ac mae’r ymweliad hwn yn barhad grymus i’r berthynas honno. Mae’n gyfle i gynulleidfaoedd yng Nghymru ddysgu gan ddau feistr sy’n cyfuno traddodiad hynafol ag arloesi a chynaliadwyedd yn eu gwaith.”

Mae prosiectau Hijinx a’r Ŵyl Serameg Ryngwladol yn ddau o blith pedwar prosiect ar ddeg sy’n cael eu cefnogi drwy Gronfa Ddiwylliannol Cymru-Japan. Mae’r rheini’n cynrychioli amrywiaeth eang o ddisgyblaethau artistig – o lenyddiaeth, y celfyddydau ac iechyd i seiniau arbrofol, animeiddio a gosodiadau amgylcheddol.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:

  • Cian Ciarán (Super Furry Animals) yn ailddychmygu ei waith cerddorol ar ffurf gwaith i ddau biano a fydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn Japan
  • Freya Dooley a Clare Charles yn cymryd rhan mewn preswyliad ym maes y celfyddydau gweledol a sain yn Kobe.
  • Heather Parnell a Sue Hunt yn datblygu arddangosfa ar y cyd am draddodiadau rhoddion drwy brintiau a phapur, gan ehangu eu cysylltiadau ym maes y celfyddydau ac iechyd
  • Cyfnewid rhwng awduron, cyfieithwyr a darlunwyr, gan ganolbwyntio ar lenyddiaeth plant drwy Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau
  • Cyfnewid llenyddol drwy Parthian Books, yng nghwmni’r awduron o Gymru, Eluned Gramich a Susan Karen Burton
  • Yr artist papur Mari Wirth yn creu gosodiad amgylcheddol gyda Green Bird Himeji
  • Y telynor arbrofol Rhodri Davies yn mynd ar daith o amgylch pump o ddinasoedd Japan
  • Cydweithio rhwng chewch o ddawnswyr, cerddorion ac artistiaid gweledol benywaidd o Gymru a Japan, a hwnnw’n cloi gyda pherfformiad yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter
  • Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn creu partneriaeth â’r ‘New Chitose Airport International Animation Festival’
  • Plas Glyn y Weddw yn sefydlu cyfnewidfa gwaith coed â’r ‘Mt Fuji Wood Culture Society’
  • Re-Live yn creu partneriaeth â Tenjin-kai er mwyn cefnogi pobl sy’n profi dementia a’u teuluoedd drwy’r celfyddydau
  • Only Boys Aloud yn cydweithio ac yn mynd ar daith drwy Japan

Meddai Eluned Hâf:

“Mae’r rhaglen hon yn dangos ein hymrwymiad i greu perthnasau rhyngwladol ystyrlon drwy ddiwylliant, gan feithrin ewyllys da, datblygu masnach, a buddsoddi mewn dyfodol creadigol a chynhwysol. Drwy gysylltu artistiaid yng Nghymru a Japan, rydyn ni’n datblygu ar ddegawdau o gydweithio ac yn creu pontydd newydd a chadarn i’r dyfodol.”

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyd-daro â Diwrnod Cymru ym Mhafiliwn y Deyrnas Unedig, sy’n cael ei gynnal yn Expo’r Byd yn Osaka ar 29 Ebrill 2025.

Drwy gydol y dydd bydd perfformwyr (cerddorion o Calan, Taffs Rapids a No Good Boyo a’r criw dawnsio Qwerin) yn creu cynllwyn ac yn denu sylw ar y Village Green tu allan. Bydd Tim Rhys Evans Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (BCDC) hefyd yn arwain y torfeydd mewn sesiwn ganu. Bydd Owain Rowlands, Llysgennad Rhyngwladol Diwylliannol y CBCDC a’r Urdd, yn perfformio deuawd ddigidol annisgwyl o Furusato gyda Syr Bryn Terfel i gyfeiliant y delynores Hannah Stone.

Bydd arddangosfa ddiwylliannol ehangach yn cael ei chynnal yn Japan ym mis Hydref 2025, gyda digwyddiadau a chydweithio’n parhau gydol y flwyddyn.

Bydd rhagor o gyhoeddiadau’n dilyn yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf. 

 

ウェールズと日本が文化交流の一年をスタート

日本の人形劇から若者の音楽交流まで、2025年を通じて日本と大胆で革新的な文化交流を進めるべく、ウェールズのアーティストたちが取り組んでいます。

アーツ・カウンシル・オブ・ウェールズの国際エージェンシーであるウェールズ・アーツ・インターナショナル(WAI)、ブリティッシュ・カウンシル・ウェールズおよびウェールズ政府は本日、ウェールズ・ジャパン文化基金の支援対象に選定されたアーティストおよび団体を発表しました。同基金は、ウェールズ政府が推進する「ウェールズ日本年2025」の一環として、大阪・関西万博に合わせ、日本とウェールズの創造的および経済的なつながりを深めることを目的とした取り組みです。

ジャック ・サージェントウェールズ政府文化・スキル・社会連帯大臣は、次のように述べています。

「ウェールズと日本の文化関係は長期に渡り発展続けており、この基金が支援するプロジェクトは、その関係をいっそう深め、さらなるイノベーションを生み出すのに寄与する。

「文化的なつながりは、文化遺産や芸術の問題にとどまらず、外交や経済協力においても不可欠だ。今回の発表が、両国の経済関係を祝い、強化することを目的としたウェールズ政府経済・エネルギー計画担当大臣の訪日と重なるのは、時期を得ていると言えるだろう

ウェールズ・アーツ・インターナショナルの責任者エルネド・ハーヴ氏は、次のように述べています。

「この基金を通じて私たちはウェールズの創造性を日本に共有し、日本の革新的な文化的景観から学ぶことができるようになる。これにより私たちはパートナーシップや交流を推進し、地域共同体や文化、先住民族言語、知識に対する共通のコミットメントを再確認する。」 

ブリティッシュ・カウンシル・ウェールズのディレクターであるルース・コックス氏は、次のように付け加えました。

「ウェールズ・ジャパン文化基金の助成金の受賞者を発表できることを嬉しく思う。選考は非常に競争率が高かったが、これは両国間の文化交流が拡大していること、両国が提供する創造的な可能性が豊かであることの証だ。 

「歌を通じてウェールズと日本の若者をつなぐオンリー・ボーイズ・アラウド (Only Boys Aloud)から、ハイジンクス(Hijinx)のインクルーシブ・パフォーマンス「ミート・フレッド(Meet Fred)」、そしてリテラチャー・アクロス・フロンティアズ(Literature Across Frontiers)による児童文学の翻訳にいたるまで、プロジェクトは多様かつ多岐にわたり、現代のウェールズと日本の姿を反映している。私たちは、これらのプロジェクトを支援し、ウェールズと日本の創造性のための新たなグローバルプラットフォームと機会の創出を支援できることを誇りに思う。」

年間を通じて開催されるプログラムでは、日本におけるウェールズのユニークな価値観とウェールズにおける日本の創造性にスポットライトを当て、特に文化的ウェルビーイング、持続可能性、先住民族言語に焦点を当てます。未来世代のためのウェルビーイング法Well-being of Future Generations(Wales)Act 2015に沿って、平等、気候変動対策、地域共同体の結束に根ざした創造的なコラボレーションを支援します。

助成金提供を受けたプロジェクトの中には、カーディフを拠点として、学習障害や自閉症を持つパフォーマーやニューロダイバージェントのパフォーマーとのインクルーシブな活動で国際的に知られているハイジンクス・シアターHijinx Theatreが、2025年秋に受賞作「ミート・フレッドMeet Fred」の日本ツアーを行います。

公演は鳥取市で実施される演劇祭「鳥の演劇祭」で上演され、東京を拠点とするインクルーシブアート法人スローレーベルSLOW LABELが主催するワークショップなども開催されます。

ハイジンクスのアーティスティック・ディレクターであるベン・ぺティット-ウェイド氏は次のように述べています。

「フレッドを彼の心の故郷に連れ戻すことに感激をおぼえている。このショーは日本の人形劇の伝統に根ざしており、ウェールズで培ったインクルーシブな精神と共にフレッドが日本を訪れることは、深い意味を持つと感じている。このプロジェクトは、平等、尊厳、創造的な交流が核であり、そのビジョンを共有する日本のアーティストと繋がることを楽しみにしている。」

ハイジンクスと並んで、アベリストウィス・アーツ・センターで2年毎に開催されるヨーロッパを代表する陶芸イベントである国際陶磁器フェスティバル(ICF)も助成金を受けます。 ICF 2025では、日本の2名の陶芸アーティスト ー 金継ぎアーティストの西川郁氏とサステナブルな陶芸家のユアン・クレイグ氏を招へいします。これは、ICFの長年に渡る日本工芸の伝統とのつながりを引き継いでいます。

国際陶磁器フェスティバルICFディレクターのモイラ・ヴィンチェンテッリ氏は、

「ユアンとイクをウェールズに迎えるのが待ちきれない。日本の陶芸家たちは私たちのフェスティバルの歴史を形作ってきましたが、今回の参加はその関係を力強く引き継ぐものである。ウェールズの観客にとっては、深い伝統と革新性、持続可能性を融合させた2人の専門家から学ぶチャンスである。」と述べています。

ハイジンクスと国際陶磁器フェスティバルは、ウェールズ・ジャパン文化基金が支援する、文学や「アートと健康」、陶芸から実験的なサウンド、アニメーション、環境インスタレーションまで、幅広い芸術分野を代表する14のプロジェクトのうちの2つです。

ハイライトは次のとおりです。

  • キアン・キアラン(スーパー・ファーリー・アニマルズ)が自身のオーケストラ作品を再構想したピアノ二重奏を日本各地でプレミア
  • フレヤ・ドゥーリーとクレア・チャールズが別府市ビジュアルアートとサウンド・レジデンシ―へ参加
  • ヘザー・パーネルとスー・ハントによる、版画と紙を用いたギフト贈呈の伝統に関する共同エキジビションと、「アートと健康」へのつながりの模索
  • リテラチャー・アクロス・フロンティアズによる児童文学作家や翻訳者、イラストレーターと出版社の交流
  • ウェールズの作家エルネド・グラミッヒスーザン・カレン・バートンをフィーチャーしたパルティア・ブックスによる文学交流
  • ペーパー・アーティストのマリ・ヴィルツによるグリーンバード姫路との環境インスタレーション制作
  • 実験的なハープ奏者ロドリ・デイヴィスによる日本5都市公演ツアー
  • ウェールズと日本の6人の女性ダンサー、ミュージシャン、ビジュアルアーティストによるコラボレーションをチャプター・アーツ・センターでパフォーマンス発表
  • カーディフ・アニメーション・フェスティバル新千歳空港国際アニメーションフェスティバルのパートナーシップ事業
  • プラス・グリン・ウ・ヴェズー(Plas Glyn y Weddwアーツ・センターとMt.Fuji Wood Culture Society まなびの杜の木工をテーマにした交流の開始
  • 認知症の人々とその家族への芸術を通じた支援を目的とするRe-Live天神会のパートナーシップ事業
  • アラウド・チャリティーによる日本各地合同公演ツアー

エルネド・ハーヴ氏は以下のように続けます。

「このプログラムは、文化を通じて有意義な国際関係を築くという私たちのコミットメントを体現している。親善を築き、貿易を発展させ、創造的で包括的な未来に投資することだ。ウェールズと日本のアーティスト達を繋ぐことで、私たちは何十年にもわたるコラボレーションを基盤に、2025年以降も長く続く新しい永続的な架け橋を築いていく。」

この発表は、2025429日に大阪で開催される万国博覧会の英国パビリオンで開催されるウェールズデーと同時に行われます。 

終日、CalanTaffs RapidsNo Good Boyoのミュージシャン、そしてダンスグループQwerinによるパフォーマンスが、ビレッジ・グリーンの外に繰り広げられ、観客を魅了します。また、RWCMDTim Rhys Evansが、観客を率いて合唱を披露します。

ウェールズ王立音楽演劇大学およびウルドの国際文化大使であるオウェイン・ローランズ氏が、ハープ奏者のハンナ・ストーン氏の伴奏で、サー・ブリン・ターフェル氏とのサプライズ・デジタル・デュエットによる『Furasato』を披露します。

202510にも、日本での全面的なカルチャー・ショーケースが予定されており、年間を通じてイベントやコラボレーションが続けられます。

今後数週間から数か月の間に、さらに多くの発表が続きます。