Drwy gydol 2024 rydyn ni’n cefnogi’r wyth artist sy’n cymryd rhan yng Nghymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Cwm Elan a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r Gymrodoriaeth yn cefnogi artistiaid i ddatblygu ymchwil sy’n archwilio’r berthynas gymhleth rhwng pobl, natur, lle, a hinsawdd.
Ym mis Chwefror, daethon ni at ein gilydd ar gyfer y breswylfa gyntaf un ar safle Ystagbwll yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe aethon ni am dro gydag ecolegwyr, ceidwaid a churaduron, a chlywed gan holl artistiaid Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol – Manon Awst, Cheryl Beer, Zillah Bowes, Eric Lesdema, Alison Neighbour, Simmy Singh, Julia Thomas a Iestyn Tyne – wrth iddyn nhw ddechrau meddwl, dychmygu, ymchwilio a chreu.
Yn y diweddariad yma, rydyn ni’n rhannu man cychwyn pob artist gyda chi, a byddwn ni’n edrych yn fanylach ar arfer pob artist yn y misoedd i ddod.
Manon Awst
Bydd ymchwil Manon – dan yr enw Connect and Stick to It – yn llywio ecolegau bregus a deunyddiau daearol, gan archwilio ryseitiau ar gyfer creu ymyriadau cerfluniol sy’n ‘glynu’. Gan weithio ar draws prosesau dynol a mwy na dynol, a phlethu ar draws y gwahanol gysylltiadau bydol mewn corsydd mawn, bydd yr ymchwil yn archwilio syniadau am ludedd, ac yn gofyn ym mha ffyrdd gall cerfluniau gludiog ‘lynu’ i lefydd a’n glynu ni iddyn nhw.
Cheryl Beer
Mae Cheryl yn dechrau o’r teimlad bod popeth yn fyrhoedlog, ac bod modd i bopeth newid mewn llai nag eiliad. Mae’r bregusrwydd yma, sy’n cael ei deimlo’n bersonol, hefyd yn cael ei rannu gydag ecoleg popeth sydd o’n cwmpas ni. Drwy’r gymrodoriaeth, mae Cheryl yn archwilio ffyrdd o wrando ar lais natur. Gan weithio gydag amleddau sbectrol, a thechnolegau sydd fel arfer yn chwilio am yr hyn sy’n absennol, mae Cheryl yn chwilio am yr hyn sy’n bresennol, gan nodiannu tirweddau i ganfod amlygiadau corfforol o lais ac alaw.
Zillah Bowes
Mae gwaith Zillah yn aml yn ceisio dod o hyd i’r gofod yna sy’n mynd â chi i rywle arall – i mewn i’r corff, y ddaear, a mannau arallfydol eraill. Mae ymchwil cymrodoriaeth Zillah yn archwilio syniadau o bersoniaeth amgylcheddol, a’r ffyrdd o feddwl a dychmygu y mae’r sgyrsiau a’r dynodiadau yma’n eu galluogi. Mae’n gobeithio gweithio gyda ieithyddion i ystyried ffyrdd o siarad am / at / gyda natur, gan ganfod offer newydd ar gyfer cyfathrebu’n rhyng-gysylltiedig.
Eric Lesdema
Mae ymchwil Eric yn codi o hanesion amgáu, y tir a’r meddwl, gan weithio mewn deialog gydag anthropolegwyr, ieithyddion a haneswyr. Mae llinynnau meddwl yn ystyried llinellau ffin, darluniadau pŵer, symudiadau o fuddiannau cyffredin i rhai preifat, a phwy sy’n siapio naratif y ffordd caiff y straeon yma eu hadrodd. Mae Eric yn gofyn pwy sy’n meithrin a phwy sy’n cadw, gan gamu drwy hanesion i archwilio ein seicoleg gyfunol.
Alison Neighbour
Mae gwaith Alison yn archwilio ecosystemau rhyng-ddibyniaeth, a thrwy ymchwil y gymrodoriaeth – dan yr enw Finding Common Ground – bydd Alison yn meddwl am y ffordd rydyn ni’n byw gyda’n heffaith anghymesur ar y blaned, gan gwestiynu deunyddiau a chylch bywyd pethau ffisegol. Mae egin-syniadau’n ystyried y strwythurau sy’n ein cario ni ac yn ein hymgynnull, gan feddwl am ddefodau a rhythmau o’r beunyddiol i’r planedol.
Simmy Singh
Fel cyfansoddwr a feiolinydd, mae gan Simmy ddiddordeb ym mhotensial y gofod cyngerdd fel man seremoni cysegredig. Gan dynnu ar syniadaeth yr eco-athronydd Joanna Macy, a’i gwaith ysgrifennu ar ‘Y Tro Mawr’ fel cam i groesawu ymatebion creadigol newydd ar gyfer cymdeithas sy’n cynnal bywyd, mae Simmy’n archwilio potensial cynnal cyngherddau mewn mannau natur, ar gyfer a gyda bodau penodol ac mewn cydweithrediad â cherddorion eraill.
Julia Thomas
Mae Julia’n dechrau gyda’r cwestiwn ynghylch beth ydyn ni’n ei ddeall yw ‘natur ddynol’, gan ystyried sut caiff stori ei hadrodd, llais pwy sy’n cario stori, a gyda phwy mae’n cael ei rhannu. Gan ddefnyddio prosesau gweithio gydag awduron ac actorion, bydd Julia’n archwilio perthnasoedd rhyng-genhedlaeth gyda Pharc Dŵr y Sandy (hen safle Gwaith Dur Llanelli), gan wrando ar wahanol safbwyntiau ar yr argyfwng hinsawdd drwy gyd-destun a hanesion personol un safle a’i gymuned.
Iestyn Tyne
Mae prosiect cymrodoriaeth Iestyn – Llif – yn deillio o’r darn o dir, neu fersiwn o’r darn o dir, lle magwyd Iestyn. Gan ystyried syniadau o olyniaeth – o safbwynt ei rieni fel ffermwyr cenhedlaeth gyntaf – bydd Llif yn archwilio lleisiau’r gymuned; defnydd o dir; olion gwladychiaeth; newid hinsawdd; a chyfoeth gwybodaeth leoledig ac ymgorfforedig. O gwymp un goeden, bydd Iestyn yn mynd ar drywydd syniadau am warchodaeth tir, a phwy sy’n pennu patrymau’r tir yn y dyfodol.
Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn rhan o’r Rhaglen Natur Greadigol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor y Celfyddydau. Nod y rhaglen yw meithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a’r amgylchedd naturiol, fel rhan o ymrwymiad a rennir i wella llesiant amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r cam hwn o Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Peak Cymru.