Fel rhan o lansiad rhaglen gŵyl Celtic Connections 2022, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch o gyhoeddi’r chwech artist o Gymru a fydd yn perfformio ym mhrif gyngherddau Celtic Connections a Showcase Scotland yn 2022. Mae 15 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gymru gael ei chynnwys yn bartner rhyngwladol ar gyfer y digwyddiad. 


Dyma’r artistiaid a fydd yn perfformio yn Spotlight Cymru Wales 2022:

Cynefin Ceredigion
Mae gweledigaeth greadigol Owen Shiers, neu Cynefin, o Orllewin Cymru yn teithio drwy'r dirwedd gerddorol leol, gan ddadlennu caneuon a straeon, rhai sydd heb eu recordio o’r blaen, a rhoi bywyd newydd iddyn nhw yn y presennol.

 

Eve GoodmanGwynedd
Mae Eve Goodman yn gerddor dwyieithog o Ogledd Cymru ac mae ei cherddoriaeth wedi’i gwreiddio yn ei hymdeimlad o le, sy’n cael ei gyfleu gan lais clir. Mae Eve yn plethu’r byd naturiol a’r harddwch o’i chwmpas ac mae geiriau ei cherddoriaeth yn datgelu beth yw bod yn ddynol yn yr oes hon.

 

N’famady KouyatéCaerdydd / Guinea
Mae N’famady Kouyaté o Guinea (Conakry) yn cyfuno synau bywiog Mandingue Affrica gyda dylanwadau jas, pop a ffync o Orllewin Ewrop. Mae synau hudol y balafon yn dod â llawenydd i’w holl greadigaethau.

 

No Good Boyo - Caerdydd
Mae’r band NoGood Boyo yn cael ei ddylanwadu gan draddodiadau. Mae’r band yn arbrofi gyda roc, pop a churiadau EDM wrth rwygo hen alawon traddodiadol Cymru, gan gynnal parti lle bynnag maen nhw’n perfformio.

 

Pedair – Gogledd Cymru
Mae perfformiadau byw Pedair wedi dal calonnau llawer o bobl. Mae eu harmonïau, eu dehongliadau ffres o draddodiad gwerin Cymru a’u geiriau personol yn dwyn ynghyd eu doniau unigryw fel adroddwyr caneuon, gan gymryd ysbrydoliaeth o Gymru a thu hwnt.

The Trials of Cato – Wrecsam
Gydag alawon bywiog a straeon hudolus, mae The Trials of Cato, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel "The Sex Pistols of folk” (J Davis), yn talu teyrnged i draddodiad yn eu cerddoriaeth wrth foderneiddio hen esgyrn.

Cafodd yr artistiaid eu dewis gan Donald Shaw, sef Cyfarwyddwr Artistig Celtic Connections. Fe ddywedodd “Rydw i wedi cael fy syfrdanu gan ansawdd ac amrywiaeth y ceisiadau gan gerddorion o Gymru ac rydw i’n edrych ymlaen at eu gweld yn perfformio yn Celtic Connections eleni. Wrth i ddegawd ieithoedd brodorol y Cenhedloedd Unedig ddechrau yn 2022, rydyn ni’n edrych ymlaen at wrando ar ieithoedd brodorol a chreu lle ar eu cyfer.”

Cynhelir y digwyddiad arbennig yn Showcase Scotland ar 4 Chwefror 2022, ac mae’n cyd-daro â Dydd Miwsig Cymru, sef diwrnod i ddathlu’r gorau o gerddoriaeth Gymraeg. 

Mae 2022 hefyd yn nodi dechrau Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig, sy’n tynnu sylw at yr argyfwng sy’n wynebu rhai o ieithoedd mwyaf lleiafrifol y byd. Fel cenedl lle mae’r Gymraeg, sef ein hiaith frodorol, yn cael ei diogelu gan ddeddf, mae artistiaid a sefydliadau diwylliannol o Gymru yn cydweithio gyda diwylliannau ac ieithoedd lleiafrifol eraill i gynnal a dadwladychu agweddau at ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol ledled y byd. Mae cerddoriaeth yn gyfrwng pwerus i drosglwyddo ieithoedd ac archwilio’r materion hyn, fel sy’n cael ei adlewyrchu gan y chwe artist hyn drwy eu harferion amlieithog.

Dywedodd Eluned Hâf, sef Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, “Rydyn ni’n falch o weithio gydag artistiaid mor dalentog ar y cyfle pwysig hwn. Mae bod yn genedl bartner yn 2022 yn gyfle i gamu i’r llwyfan fel cenedl Geltaidd gyda hunaniaeth ac ieithoedd modern beiddgar, amrywiol a chyffrous.”

“Mae cerddoriaeth llawer o’r artistiaid yn cael ei hysbrydoli gan yr amgylcheddau o’u cwmpas, gan gysylltu geiriau a synau â thafodiaith a hanes eu rhanbarth lleol, ei berthynas â’r byd ac archwilio mythau a chwedlau sy’n dylanwadu ar eiriau eu caneuon.”

“Yn ogystal â datblygu gyrfaoedd yr artistiaid a rhoi mwy o gyfleoedd iddyn nhw, bydd y rhaglen hon yn arwain at gydweithio agosach rhwng artistiaid yng Nghymru a gwledydd Celtaidd eraill gan gynnwys yr Alban, Iwerddon a Llydaw er mwyn mynd i’r afael â materion diwylliannol ac ieithyddol byd-eang.”

“Bydd yr angen brys i ni chwilio am atebion ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a’r rôl bwysig y mae’n rhaid i gerddoriaeth a’r celfyddydau ei chwarae ar flaen meddyliau pobl, gyda Chynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn cael ei chynnal yn Glasgow deufis cyn Showcase Scotland.”

Roedd y broses ddethol yn gystadleuol iawn ac yn dangos pa mor fywiog, eang a gwych yw cerddoriaeth gwerin, cerddoriaeth gwreiddiau a cherddoriaeth byd yng Nghymru, gyda 42 o artistiaid yn gwneud cais am y cyfle i arddangos eu cerddoriaeth.

Lluniwyd rhestr fer o 15 o artistiaid drwy broses asesu dau gam gan banel a oedd yn cael ei gadeirio gan Lisa Matthews-Jones, sef Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru. Fe ddywedodd: “Yn ogystal â dod o hyd i chwe artist talentog i gyflwyno cerddoriaeth Gymreig i’r byd yn Showcase Scotland, roedd y broses ddethol hon hefyd yn dangos pa mor wych yw ansawdd, amrywiaeth a bywiogrwydd y gerddoriaeth sy’n cael ei chreu gan gerddorion ar draws amrywiaeth o genres yng Nghymru heddiw.”

Roedd y panel dethol yn cynnwys Deborah Keyser (Tŷ Cerdd), Andy Jones (Focus Wales), Danny Kilbride (trac) Gareth Iwan Jones (BBC Radio Cymru), Helen Needham (BBC Radio Scotland), Keith Harris OBE (Aelod o Fwrdd EFEx) a’r artistiaid Eädyth Crawford, Emma Daman-Thomas (Islet), y gantores Aleighcia Scott, Eluned Hâf (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru), Antwn Owen-Hicks (Cyngor Celfyddydau Cymru) a Judith Musker Turner (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru). Cafodd y penderfyniad terfynol ei wneud gan Donald Shaw, sef Cyfarwyddwr Artistig Celtic Connections.