Mae ymgysylltu gyda chelf a diwylliant yn hanfodol i iechyd a llesiant, ac felly mae AM yn hynod falch o gyhoeddi Partneriaeth Strategol gyda Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN) sydd yn hyrwyddo ymgysylltiad gyda’r celfyddydau ac iechyd.

Mae WAHWN yn rwydwaith o gyd-weithwyr sydd yn darparu gwaith celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Maent yn anelu i ddatblygu ymarfer celfyddydau ac iechyd drwy hwyluso rhwydweithio o fewn y sector, cefnogi ymchwil a chynnig llais cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr yng Nghymru.

Bwriad y bartneriaeth yma rhwng WAHWN ac AM yw hyrwyddo pwysigrwydd mentrau llesiant celfyddydol i gynulleidfa ehangach, cynyddu cyrhaeddiad gwaith a rhwydwaith WAHWN a chyflwyno ystod eang o waith celfyddydol o Gymru i aelodaeth WAHWN drwy blatfform AM.

Os ydych chi’n gweithio o fewn neu â diddordeb mewn meysydd celfyddydau, iechyd a llesiant, gallwch ymuno â rhwydwaith WAHWN am ddim nawr. Mae’r aelodaeth yn cynnwys artistiaid, sefydliadau celf, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr academaidd ac awdurdodau lleol, ac yn cynrychioli’r ystod gyfan o ymarfer celf mewn iechyd, y celfyddydau a lleoliadau cymunedol eraill.

Meddai Angela Rogers, Cyfarwyddwr Gweithredol WAHWN: “Mae WAHWN yn gyffrous am Bartneriaeth Strategol Newydd gydag AM ac y cyfleon mae hyn yn ei gynnig yn nhermau cyd-weithio a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Rydym yn edrych ymlaen at rannu cynnwys ar ein sianel WAHWN newydd ac i hyrwyddo AM drwy ein rhwydwaith”

Mae AM yn app ac yn wefan sydd yn hyrwyddo celfyddydau cynhwysol a chymunedol Cymru, ac mae’n cael ei ariannu drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r platfform digidol wedi rhannu gweithgaredd celfyddydol gan dros 350 o sianelau/Partneriaid Creadigol i gynulleidfa o dros 250 000 o ddefnyddwyr yn y ddwy flynedd diwethaf. Dros y tair blynedd nesaf, mae AM yn anelu i chwarae rôl fwy cynhyrchiol yn hyrwyddo proffil iechyd y celfyddydau a lles i sector cenedlaethol ac i gynulleidfa sydd yn parhau i dyfu, drwy ddefnyddio dulliau digidol i wella hygyrchedd ac ymgysylltiad.

Meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM: “Mae’r gwaith blaengar mae WAHWN yn ei wneud yn allweddol yn cysylltu cymuned gelfyddydol Cymru â'r sector iechyd a llesiant. Mae AM yn edrych ymlaen at chwarae rhan fechan yn hyrwyddo a hwyluso pwysigrwydd y celfyddydau er mwyn llesiant gan ddefnyddio dulliau digidol drwy’r Bartneriaeth Strategol hon, ac yn awyddus i gyd-weithio gyda’i aelodaeth dros y tair blynedd nesaf”.

Mae logo WAHWN yn cael ei ychwanegu i dudalen flaen AM o heddiw ymlaen ac mae eu sianel AM yn fyw nawr. Cliciwch yma i fwynhau eu cynnwys digidol, ddysgu mwy drwy eu banc gwybodaeth llawn adnoddau ac ymuno a’u rhwydwaith nawr!