Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi’r Panel Dewis i Cymru yn Fenis - arddangos celf o Gymru yn y Biennale byd-enwog yn Fenis yn 2026.

Roedd y canllawiau i fynegi diddordeb i sefydliadau i gyflwyno arddangosfa Cymru yn Fenis yn fyw ar wefan celf.cymru ddydd Mawrth 6 Mai 2025. 

1pm ddydd Mercher 4 Mehefin 2025 yw’r dyddiad cau.

Gweithwyr ym maes y celfyddydau gweledol â phrofiad o rwydweithio’n rhyngwladol sydd ar y Panel Dewis. Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru fydd yn ei gadeirio.

Ar y Panel fydd:

 

  • Osei Bonsu, Curadur Celf Ryngwladol yn y Tate Modern
  • Harriet Cooper, Cyfarwyddwr The Burton (yn Oriel Gelf ac Amgueddfa Bideford)
  • Ceri Jones, Pennaeth y Celfyddydau, Amgueddfa Cymru
  • Sook-Kyung Lee, Cyfarwyddwr Oriel Whitworth, Prifysgol Manceinion
  • Louise Wright, Arweinydd Cymru yn Fenis, Cyngor Celfyddydau Cymru

Meddai Catryn Ramasut: 

"Mae cynnull y panel dewis yn gam mawr ymlaen i Gymru yn Fenis 2026. Mae pob aelod o’r panel yn dod ag arbenigedd gwerthfawr, safbwyntiau amrywiol a chysylltiadau rhyngwladol sy'n cryfhau ein huchelgais ar lwyfan y byd. 

"Mae Cymru yn Fenis yn cynnig llwyfan grymus i gymuned ein celfyddydau gweledol ymchwilio, datblygu a chyflwyno gwaith sy'n arddangos ein llais creadigol unigryw. Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynigion sy'n ateb ein galwad agored a gweld ble bydd y cyfle yn cymryd ein celfyddydau gweledol yn 2026."

Nod y Panel yw dewis prosiect sy’n:

  • dangos safon artistig eithriadol a photensial rhyngwladol
  • creu manteision pendant i ymarferwyr yn ein celfyddydau gweledol
  • cryfhau’r cysylltiadau â chynulleidfaoedd lleol a byd-eang
  • cyflawni ein hymrwymiadau i'r Gymraeg, cydraddoldeb ac ymgysylltu

Am aelodau o’r Panel 

Osei Bonsu

Curadur ac awdur o Brydain a Gana sy’n byw yn Llundain a Pharis. Mae'n guradur Celf Ryngwladol yn y Tate Modern ac yn gyfrifol am arddangosfeydd, casgliad yr amgueddfa ac am ehangu cynrychiolaeth artistiaid o Affrica ac Affricaniaid ar wasgar. Mae wedi cynghori amgueddfeydd, ffeiriau celf a chasgliadau preifat yn rhyngwladol a mentora artistiaid sy'n dod i'r amlwg drwy ei blatfform digidol, Creative Africa Network.

Bu’n gweithio fel golygydd sy’n cyfrannu at y cylchgrawn, Frieze, ac at gatalog nifer o arddangosfeydd a chyhoeddiadau celfyddydol gan gynnwys ArtReview, Numero Art a Vogue. Mae ei ysgrifennu yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng celf ac ymfudo, hil a hunaniaeth. Mae’n darlithio'n eang ar y pynciau mewn gwahanol sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Caergrawnt, Sefydliad Celf Courtauld a Choleg Celf Brenhinol. Mae ganddo radd Feistr mewn Hanes Celf o Goleg Prifysgol Llundain a BA mewn Astudiaethau Curadurol o Goleg Canolog Martin Sant. Yn 2020, cafodd ei enwi yn un o leisiau Affricanaidd blaenllaw yn '40 dan 40 oed' gan gylchgrawn Apollo.

Harriet Cooper

Curadur ac ymchwilydd sy'n dod o Fanceinion. Bu’n gweithio i sefydliadau fel Celf Jerwood; Casgliad Celf UAL, Llundain; Orielau Parc Southwark; Firstsite, Colchester; y Cyngor Prydeinig; Parc Cerfluniau Swydd Efrog, Wakefield; Tate Lerpwl. Ym Medi 2024 cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr oriel bwysig The Burton yn Bideford.

Curadodd ar y cyd folly gan Phyllida Barlow i Bafiliwn Prydain yn y Biennale yn 2017. Roedd ar Bwyllgor Caffael Casgliadau Cyngor Celfyddydau Lloegr 2022-25 dan gadeiryddiaeth Syr Nicholas Serota. Roedd yn Bennaeth y Celfyddydau Gweledol i Gelf Jerwood, ariannwr o fri, 2018-22. Yno rhoddodd gyfleoedd datblygu a chomisiynu newydd i artistiaid, curaduron ac awduron ar ddechrau eu gyrfa, gan gynnwys cynnig Jerwood Curatorial Accelerator ac arwain yr arddangosfa deithiol Jerwood Survey (mae'n Gyfarwyddwr Prosiect iddi o hyd). 

Ceri Jones

Pennaeth Celf Amgueddfa Cymru sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Creadigol CELF, prosiect i i ledaenu’r casgliad cenedlaethol drwy Gymru mewn orielau lleol. Bu’n rhan o'r tîm a drefnodd bresenoldeb cyntaf Cymru yn y Biennale yn 2003. Felly mae’n gyffrous i ailddychmygu’r cyfle i artistiaid yn 2026. Bu’n Gyfarwyddwr Creadigol yn Oriel y Genhadaeth, Abertawe a rheoli prosiectau celfyddydol llawrydd drwy ei phartneriaeth, Fieldwork. Cyn hynny, bu’n gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi ennyn ei hawydd i ddathlu ymarfer creadigol. Bu llawer o'i gwaith yn lleol a rhyngwladol gan sbarduno cydweithio rhwng ymarferwyr a sefydliadau.

Sook-Kyung 

Cyfarwyddwr y Whitworth ac Athro Arferion Curadurol ym Mhrifysgol Manceinion. Roedd yn Gyfarwyddwr Artistig Biennale Gwangju (“meddal a gwan fel dŵr”) yn 2023. Ymhlith ei  themâu roedd gwrthsafiad, bod yn frodorol, dad-drefedigaethu ac ecoleg. Cyn hynny, roedd yn Uwch Guradur (Celf Ryngwladol) yn y Tate Modern ac yn gyfrifol am arddangosfeydd, casgliadau a chaffaeliadau. Yno roedd yn arwain menter ymchwil, ‘Canolfan Ymchwil y Tate a Hyundai: trawsgenedlaethol' a’i gweledigaeth strategol a'i rhaglenni. Roedd yn Gomisiynydd a Churadur Pafiliwn Corea ym Miennale Fenis (rhif 56) a churadodd Bafiliwn Siapan yno wedyn (rhif 60) gyda’r artist Yuko Mohri. 

Louise Wright

Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru ers 2012. Bu’n gweithio i’r Cyngor Prydeinig am 15 mlynedd gyda Chasgliad y Cyngor Prydeinig gan reoli arddangosfeydd teithiol byd-eang a gweithio yng Nghymru a Thwrci. Mae’n arwain prosiect Cymru yn Fenis ac arweiniodd bedwar o'r naw prosiect blaenorol a Fenis 10. Mae ganddi brofiad helaeth a gweledigaeth strategol i gefnogi ein celfyddydau gweledol i greu rhagoriaeth.

Catryn Ramasut

Cadeirydd y Panel. Ers 2024 mae’n Gyfarwyddwr y Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Mae wedi ymrwymo i adfywio sector ein celfyddydau gan ymdrechu i gyfuno sensitifrwydd diwylliannol, arloesedd strategol ac arweinyddiaeth i lunio gweledigaeth flaengar ar gyfer ein celfyddydau, un sy'n cofleidio amrywiaeth ac yn meithrin creadigrwydd ledled y wlad.

Ganed yng Nghaerdydd, mae’n fenyw Gymraeg, hil gymysg. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol a sefydliadau celfyddydol. Mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr o Gynyrchiadau ie ie (a sefydlodd hefyd). Mae wedi cynhyrchu cynnwys a enillodd wobrau sy'n integreiddio gwahanol gelfyddydau ac arddangos diwylliant Cymru yn fyd-eang, gan gynnwys "Separado!", "Rockfield: The Studio on the Farm" a "Black and Welsh".

Bu’n Gadeirydd Cymru Greadigol. Mae'n cynrychioli Cymru ar Gyngor Diwydiannau Creadigol Adran y Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon. Mae hefyd ar fwrdd S4C. Yn ei gwaith yno, mae wedi dangos ei gallu i roi cyfeiriad strategol, meithrin twf yn y diwydiannau creadigol a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.