Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r gwneuthurwyr sydd yn creu pedair ffilm iaith Gymraeg ar gyfer AmCam2, ail ŵyl ffilmiau ddigidol Am!

Diolch i Gyngor y Celfyddydau am y gefnogaeth.

Ffilmiau i ddod yn fuan – ond yn y cyfamser dewch i adnabod Gwenno, Hannah, Lauren a Lily:

Gwenno Llwyd Till

Mae Gwenno Llwyd Till yn ffilmwraig ac artist o Nant Gwynant, Gogledd Cymru. Mae hi’n arbenigo mewn ffotograffiaeth analog, dogfenwriiaeth gymdeithasol, a ffilmiau byr llawn hiraeth. Drwy Archif – y Welsh Artist Archive, prosiect parhaus o ffotograffiaeth ddogfenwrol, mae hi’n ceisio tynnu sylw at straeon artistiaid sydd wedi’u tangynrychioli yng Ngogledd Cymru. Drwy rannu traethodau, cyfweliadau a ffilmiau byr, nid yn unig mae Archif yn dathlu creadigrwydd y rhanbarth ond hefyd yn helpu i greu cysylltiadau o fewn cymuned y celfyddydau, gan wneud y celfyddydau yn fwy agos at bawb.

Hannah Mefin

Rydw i’n byw ym Methesda, Gwynedd, lle dwi’n magu fy 2 ferch. Wedi dod i gelf yn hywrach yn fy mywyd, y tu allan i addysg ffurfiol, drwy chwilfrydedd a’r angen i wneud synnwyr o bethau.

Mae fy ngwaith yn seiliedig ar fywyd bob dydd a’r cysylltiadau sy’n ein siapio — teulu, gofal, cymuned, a’r tir o’m cwmpas. Rydwi’n ymddiddori yn y gwaith anweledig sy’n dal pethau gyda’i gilydd, a sut mae gofal a bywyd bob dydd yn creu straeon sy’n werth eu rhannu.

Lauren Heckler

Mae Lauren yn wneuthurwr ffilmiau a chynhyrchydd o Gymru, sy’n byw rhwng Llundain a Llansteffan. Wedi graddio’n ddiweddar o MA Screendance yn London Contemporary Dance School, mae ei harddull gwneud ffilmiau a chyfarwyddo yn cael ei lywio gan feddwl coreograffig. Mae ganddi ddiddordeb mewn themâu megus iechyd personol, cymunedol a phlanedol ac mae’n anelu at greu gweithiau sy’n croesawu chwilfrydedd a chwestiynu cynulleidfaoedd.

Gyda chefndir mewn celfyddyd weledol, mae Lauren wedi dangos ac arddangos gwaith ledled y DU ac yn rhyngwladol gan gynnwys yn The Place London, WOW Pakistan, Oriel Glynn Vivian a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Dawns Exeter. Yn ddiweddar, derbyniodd ei ffilm ddawns ‘Hype’ ddau Gryb Anrhydeddus yng Ngŵyl Ffilm Gorllewin Lothian 2025.

Lily Tiger T Wells

Mae Lily yn artist a ffilm-wraig o Orllewin Cymru. Mae ei gwaith yn seiliedig ar ymchwil o leoedd a phobl, wedi’i leoli rhwng ymgysylltiad cymunedol a chreu ffilmiau dogfen. Mae ei ymarfer yn cwmpasu cerflunwaith, cerameg, ffotograffiaeth a gwneud ffilmiau analog, gyda diddordeb thematig allweddol mewn traddodiadau gwerin ac arferion ecolegol. Mae preswylfeydd creadigol diweddar yn cynnwys ‘Natur am Byth!’, rhaglen adfer rhywogaethau ac ymgysylltu cymdeithasol gyda Phen Llŷn a’r Sarnau a Chymdeithas Cadwraeth Forol, ac artist preswyl yng Ngardd Botaneg Genedlaethol Cymru.

Cafodd ei ffilm ddogfen fer gyntaf, She Sells Shellfish, ei harddangos mewn gwyliau cymwys BAFTA, a sefydliadau enwog gan gynnwys Bertha Dochouse, Oriel Saatchi a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac enillodd blatfform ar-lein rhyngwladol gan Girls in Film ac Aeon Magazine. Derbyniodd gefnogaeth gan Grant Made of Truth y BFI am ei ffilm fer sydd ar ddod, ‘Tŷ Unnos’, ac mae i fod i gael ei chwblhau ym mis Medi 2025.