Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru’n ail-ddechrau ei Adolygiad Buddsoddi erbyn diwedd 2021, â phenderfyniadau’n digwydd yn 2022. Bydd hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer rhyddhau arian i Bortffolio newydd o gyrff sy’n derbyn arian gan y Cyngor, yn Ebrill 2023.

-

Yr Adolygiad Buddsoddi, a gynhelir bob pum mlynedd, yw’r broses o benderfynu pa sefydliadau y bydd y Cyngor yn eu cynnwys ym Mhortffolio Celfyddydol Cymru. Dyma gasgliad o sefydliadau ym mhob cwr o Gymru sy’n derbyn arian blynyddol ar gyfer eu gweithgareddau.

Roedd yr Adolygiad diweddaraf i fod i ddigwydd yn gynnar yn 2020, ond yn wyneb her Covid19, penderfynwyd gohirio. Ers hynny, mae’r Cyngor wedi canolbwyntio ar helpu unigolion, a sefydliadau celfyddydol, i ymdopi â rhai o heriau’r pandemig. Serch hynny, nawr yw’r amser cywir i’r Cyngor wneud penderfyniadau am y blynyddoedd nesaf.

Cyhoeddir mwy o fanylion, a dyddiadau pendant maes o law, ond dyma’r amserlen fras:

  • Bydd y broses Adolygu’n ailddechrau tua diwedd 2021.
  • Caiff y ceisiadau eu hasesu yn 2022.
  • Cyhoeddir y Portffolio Celfyddydol Cymru newydd yn Ebrill 2023

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Dydyn ni’m yn gwybod beth fydd yn digwydd wrth symud ymlaen yn y cyfnod yma o bandemig, ond rydym yn gwybod fod pawb yn frwd i ailddechrau cynnig gweithgareddau i’r cyhoedd. Os y bydd rheolau cadw pellter, ac ofnau am ddiogelwch yn parhau, yna bydd llawer o sefydliadau’n canolbwyntio ar gadw eu pennau uwch y dŵr am y misoedd nesaf.  Bydd gohirio’r Adolygiad Buddsoddi tan ddiwedd 2021, a dechrau 2022, yn rhoi amser i’n sefydliadau gynllunio ar gyfer ail-agor, a’u dyfodol wedi hynny. Fe gawn nhw amser ychwanegol i ddangos sut y gallent gwrdd â blaenoriaethau’r Cyngor wrth greu a chomisiynu gweithiau newydd sy’n ymwneud ag unigolion a grwpiau gwahanol yn ein cymunedau amrywiol.”

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n rhoi tua £28.5 miliwn i Bortffolio Celfyddydol Cymru – dyma rwydwaith o 67 cwmni sy’n derbyn arian refeniw. Mae’r Portffolio’n cynnwys cwmnïau o fri rhyngwladol megis Canolfan y Mileniwm a’r Opera Genedlaethol, canolfannau lleol pwysig fel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Gelf Rhuthun, a chwmnïau sy’n canolbwyntio ar weithio yn y eu cymuned, fel Plant y Cymoedd a Celf ar y Blaen.