Ar ôl derbyn 25,000 o ymwelwyr yn Fenis, fe fydd sioe unigol Sean Edwards ar gyfer Cymru yn Fenis 2019 Undo Things Done yn teithio i Wrecsam a Lerpwl gyda dyddiad newydd wedi ei ychwanegu yng Nghaerdydd o ganlyniad i wahoddiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

  • Taith arddangosfa Undo Things Done - yn agor yn Tŷ Pawb, Wrecsam Dydd Gwener28 Chwefror 2020. Mae’r arddangosfa yn rhedeg tan ddydd Sul 26 Ebrill 2020.
  • Arddangosfa Undo Things Done yn teithio i’r Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru - dydd Sul 26 Gorffennaf - 09 Medi 2020.
  • Taith arddangosfa Undo Things Done - yn agor - Bluecoat, Lerpwl dydd Gwener 6 Tachwedd 2020. Mae’r arddangosfa yn rhedeg tan ddydd Sul 14 Mawrth 2021.

 

Mae Cymru yn Fenis Wales in Venice 2019 a Tŷ Pawb yn falch iawn o gyhoeddi dyddiadau swyddogol y daith ar gyfer arddangosfa unigol Sean Edwards Undo Things Done.
Yn ymchwiliad barddonol i le, gwleidyddiaeth a dosbarth, wedi ei blethu gyda hanes personol, cafodd y cyflwyniad cyfochrog hwn ei gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar achlysur y 58fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia gyda Tŷ Pawb, Wrecsam yn bartner arweiniol a Marie-Anne McQuay yn guradur gwadd. Bydd yr arddangosfa yn cael ei haddasu gan yr artist ar gyfer y lleoliadau canlynol: Tŷ Pawb, Wrecsam, Bluecoat, Lerpwl sy’n
bartner yn y prosiect a chyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd cyflwyniad haf 2020 yn y Senedd yng Nghaerdydd.


Bydd arddangosfa Cymru yn Fenis Wales in Venice 2019 yn agor gyntaf yn y Sefydliad Arweiniol sef Tŷ Pawb, Wrecsam a hynny ar 28 Chwefror 2020. Man cychwyn Undo Things Done yw profiad Edwards o dyfu i fyny ar stad o dai cyngor yng Nghaerdydd yn yr 1980au ac mae'n dal a throi’r hyn mae’n ei alw yn gyflwr o ‘beidio â disgwyl llawer' yn iaith weledol a rennir; un sy'n dwyn i gof ffordd o fyw oedd yn gyfarwydd iawn i nifer fawr o bobl. Fel rhan o’r cyflwyniad yn Wrecsam, sy’n cynnwys cwiltiau Cymreig, printiau, cerfluniau a ffilm, mae'r artist yn ail wampio Refrain, 2019.


Mae Refrain yn ddrama radio a ysgrifennwyd ar gyfer mam yr artist a gyd-gynhyrchwyd gan National Theatre Wales wedi’i pherfformio gan fam yr artist Lily Edwards.

Perfformiwyd y ddrama radio hon, a oedd yn ganolog i arddangosfa Fenis, yn fyw bob dydd yn ystod y Biennale, a ddarlledwyd o'i fflat yng Nghaerdydd i safle Cymru yn Fenis Wales in Venice 2019, sef Santa Maria Ausiliatrice, Castello. Mae Refrain yn plethu atgofion Lily Edwards o’i magwraeth mewn Cartref Plant Catholig yng Ngogledd Iwerddon a’i bywyd diweddarach yng Nghymru, gyda deunyddiau a ganfuwyd ac atgofion Sean Edwards o’i blentyndod.


Bydd Edwards yn addasu’r fersiwn a gomisiynwyd yn arbennig o Refrain a gynhyrchwyd gan John Norton a Martin Williams a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 ar 17 Rhagfyr 2019.Fe dderbyniodd Undo Things Done, cyflwyniad Edwards yn Fenis, 25,000 o ymwelwyr yn ystod La Biennale di Venezia ond, yn ogystal â nifer o gyflwyniadau swyddogol eraill, fe ddaeth i ben yn gynnar o ganlyniad i lifogydd na welwyd ei debyg o’r blaen ar draws y ddinas. Fe effeithiodd y llifogydd ar waith dur a choed arwyddocaol, sef in parallel with the past i-iv 2019, sydd wedi ei dynnu o’r daith gyda gweithiau newydd wedi eu hychwanegu gan yr artist wrth i’r daith fynd yn ei blaen. Fel artist sydd bob amser yn addasu pob arddangosfa i’w chyd-destun newydd mae’r newidiadau hyn wedi eu hamsugno i broses weithio Edwards ei hun.


Ar ôl bod yn Tŷ Pawb, Wrecsam, bydd yr arddangosfa yn symud ymlaen yn yr haf I’r Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, lleoliad newydd ar gyfer y daith gyda’r gwaith yn dychwelyd i’r ddinas lle cafodd ei lunio a lle mae Edwards yn byw. Bydd y daith wedyn yn dod i ben ym mis Tachwedd 2020 ym mhartner prosiect Cymru yn Fenis Wales in Venice 2019 sef Bluecoat, Lerpwl, lle bydd Edwards yn creu dehongliad pellach o Undo Things Done gan ddefnyddio'r gofod mewn pedair oriel yn Bluecoat. Yn y cyflwyniad hwn fe fydd yr artist yn plethu hen weithiau a gweithiau newydd sy’n atseinio’r un synnwyr o hunangofiant ag yn ‘Undo Things Done’, gan gynnwys ei sianel fideo unigol Maelfa 2011 a ffilmiwyd mewn canolfan siopa yn arddull y 1970au ar ystâd Llanedern lle cafodd Edwards ei fagu.


Bydd corff newydd o weithiau emosiynol Edwards ar gyfer Undo Things Done - ffilm, cerfluniau, printiau a chwiltiau Cymreig – felly’n ehangu ac yn datblygu gyda’r daith. Yn nodedig am ei ymagwedd gerfluniol tuag at y cyffredin, mae Edwards yn aml yn cychwyn ag elfennau sy’n ymddangos yn ddigyswllt ar yr olwg gyntaf ond sydd wedi’u plethu â chysylltiadau hunangofiannol a diwylliannol. Drwy brosesau ymchwilgar gan gynnwys amser a dreuliodd mewn archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd lleol, mae’n dwyn ynghyd ddelweddau, storïau, dyfyniadau a chlipiau. Drwy brocio, ynysu, dethol a dwyn y cyfan ynghyd y daw eu hadleisiau gwleidyddol a ffurfiol i’r wyneb.