Mae Sefydliad PRS, y brif elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n ariannu cerddoriaeth newydd a datblygu talent, ynghyd âPPL, Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, yn datgelu’r artistiaid diweddaraf a fydd yn cael cymorth gan y Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL arloesol a, chyda Chyngor Celfyddydau Cymru, y cymorth Sbardun Momentwm PPL diweddaraf.
Dyma’r artistiaid a ddewiswyd gan rwydwaith o arbenigwyr y diwydiant i gael cyllid Cerddoriaeth Momentwm PPL:
- CARI (R&B Amgen) – Datblygu a hyrwyddo cerddoriaeth newydd sbon trwy ddelweddau, cysylltiadau cyhoeddus, cefnogaeth radio a pherfformiadau ym Manceinion a Llundain
- Charlotte OC (Cantores-Gyfansoddwr) – Recordio, cynhyrchu, a chymysgu albwm
- Esme Emerson (Indie Pop Amgen) – Cymorth teithio
- jasmine.4.t (Indie Amgen) – Cymorth teithio, gan gynnwys gweithio gyda pheiriannydd sain
- Kwaku Asante (R&B dwys) – Marchnata, datblygu perfformiad byw, ac adrodd straeon yn weledol trwy gynnwys ffurf hir a ffurf fer
- Rianne Downey (Gwledig, Gwerin) – Teithio a hyrwyddo albwm
- Rhumba Club (Synth alt-pop) – Cysylltiadau cyhoeddus ac ymgyrch hyrwyddo ar y radio ar gyfer albwm newydd a senglau
- TC & the Groove Family (Cyfuniad Jazz) – Cyfansoddi a recordio albwm newydd
- Tony Bontana (Grime, Roc Seicadelig, Emo) – Hyrwyddo, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo ar y radio
- Wynona Bleach (Crunchy Bubble-Grunge) – Rhyddhau ail albwm
Dywedodd Wynona Bleach, sy’n cael cymorth gan Gerddoriaeth Momentwm PPL, “Mae’r gronfa hon wedi newid trywydd gyrfa’r band yn llwyr. Mae wedi rhoi hwb anferth i ni wrth i ni baratoi ar gyfer rhyddhau ein halbwm newydd! Rydyn ni’n falch o fod yn y 50fed rownd ac ymuno â chymaint o artistiaid rhyfeddol sydd wedi dod trwy’r gronfa.”
Mae’r artistiaid a gyhoeddwyd heddiw, o ddyddiad cau mis Gorffennaf 2025, yn ffurfio 50fed rownd Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL ers iddi gael ei lansio yn 2013. Ers hynny, mae’r gronfa bwysig hon wedi cefnogi 623 o artistiaid, sy’n cynnwys enillwyr diweddar Gwobr Mercury Sam Fender (2025), Ezra Collective (2023) a Little Simz (2022), yn ogystal â llawer o enwebeion ac enillwyr Gwobr MOBO ac enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gogledd Iwerddon, Gwobr Gerddoriaeth Cymru a Gwobr SAY.
Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL yw’r cymorth arloesol i artistiaid sydd wedi cyrraedd cam tyngedfennol, sydd eisoes â thîm ar waith ac sy’n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL, sy’n cael ei rheoli gan Sefydliad PRS, yn dyfarnu grantiau o £5,000-£15,000 gan ddefnyddio arian o Sefydliad PRS, PPL, Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon.
Mae Sbardun Momentwm PPL Sefydliad PRS yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 i artistiaid dawnus mewn rhanbarthau wedi’u targedu o’r Deyrnas Unedig sy’n denu mwy a mwy o gefnogwyr ac sydd wrthi’n gweithio i sefydlu tîm yn y diwydiant cerddoriaeth. Dyma’r creawdwyr cerddoriaeth diweddaraf o Gymru sy’n derbyn cymorth Sbardun Momentwm PPL mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru:
- LUVLY (R&B, Canu’r Enaid) – Cynyddu graddfa prosiectau “LoudAnd” a “Clear”
- Will Barnes Quartet (Jazz) – Teithio a marchnata
- Josh Hicks (Canu’r Enaid, Pop, R&B) – Cyfansoddi, recordio ac arddangos EP sydd i ddod
- Half Happy (Roc Indie, Amgen) – Recordio, cymysgu a meistroli corff nesaf o waith y band
Yn ogystal, mae cymorth Sbardun Momentwm PPL o hyd at £2,000, sy’n gallu cynnwys micrograntiau, mentora neu gymorth arall cyfannol, yn cael ei gynnig i ddarpar weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd. Dyma’r gweithiwr proffesiynol y diwydiant wedi’i leoli yng Nghymru sy’n cael cymorth yn ystod y rownd hon:
- Andrew Gordon – Cefnogi gweithgareddau SLUSH (cwmni buddiant cymunedol nid er elw sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo cerddoriaeth sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru) trwy ariannu hunanliwtwyr sy’n gweithio ar draws cyfres o gigiau llawr gwlad, gan alluogi SLUSH i barhau i hyrwyddo’r dalent orau sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru. Bydd hefyd yn helpu Andrew i ddatblygu ei waith yn y sector gwyliau.
Dywedodd Andrew Gordon, sy’n cael cymorth gan Sbardun Momentwm PPL, "Rwy’n falch o gael cymorth gan Sbardun Momentwm PPL. Ar ôl gweithio’n galed i ddatblygu’r sîn cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru – trwy SLUSH a thrwy fy ngwaith ar Stiwdios CWRW, y label BWGiBWGAN a gŵyl BOIA – bydd y cymorth hwn yn fy helpu i barhau a datblygu fy ngwaith i’r lefel nesaf.
Rwy’n frwd ynglŷn â thalent sy’n dod i’r amlwg a lleoliadau llawr gwlad – dwy ran o seilwaith ein sîn sy’n rhoi’r boddhad mwyaf ond sydd hefyd yn llawn ansicrwydd ariannol. Bydd cymorth ariannol y cynllun hwn yn fy ngalluogi i barhau i ganolbwyntio ar dalent newydd a mynd i’r afael â’r heriau hynny. Bydd hefyd yn fy nghynorthwyo i weithio gyda’r hunanliwtwyr gwych sy’n fy helpu i gyflwyno gigiau, a datblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent oddi ar y llwyfan."
Mae Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL yn allweddol i yrfaoedd creawdwyr cerddoriaeth a’r diwydiant ehangach, fel y canfu’r Adroddiad 10 Mlynedd o Fomentwm (2013-23). Hyd yma, mae’r gronfa wedi bod yn drawsnewidiol trwy ddyfarnu dros £5.2 miliwn i artistiaid ledled y Deyrnas Unedig gyfan, gan arwain at:
- Helpu i gynhyrchu £22 miliwn ar gyfer diwydiant cerddoriaeth y Deyrnas Unedig
- Dyfarnu cymorth Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL i fwy na 600 o artistiaid
- Creu mwy na 275 o albymau (gan gynnwys albymau a enwebwyd am Wobr Mercury a dwsinau o rai a gyrhaeddodd yr ugain uchaf yn y siartiau)
- Cefnogi dros 300 o deithiau yn y Deyrnas Unedig a dros 1,600 o berfformiadau byw
- Derbyn mwy na 7,300 o geisiadau dros 40 o rowndiau cyllido gyda chyfradd lwyddo 7% o ran dyfarnu arian
Yn dilyn rhyddhau’r adroddiad yn 2023, mae artistiaid diweddar Cerddoriaeth Momentwm PPL yn parhau i greu argraff a datblygu eu gyrfaoedd. Dyfarnwyd Gwobr Mercury 2025 i Sam Fender (y trydydd derbynnydd grant Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL yn olynol i gyflawni hynny yn dilyn Ezra Collective a Little Simz), rhyddhaodd Jordan Adetunji un o ganeuon mwyaf feirol y 12 mis diwethaf, sef ‘Kehlani’, ac enillodd Dry Cleaning Wobr Grammy yn 2024.
Trwy werthusiad o Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL a thystiolaeth o filoedd o geisiadau y mae Sefydliad PRS yn eu derbyn bob blwyddyn, amlygwyd bylchau yn y llif talent ledled y Deyrnas Unedig. Mae llawer o greawdwyr cerddoriaeth yn dangos potensial cerddorol cryf ond nid ydynt yn gallu manteisio arno oherwydd rhwystrau ariannol, bylchau mewn seilwaith rhanbarthol, gwybodaeth, cyngor, a mynediad at lwyfannau’r diwydiant.
Wedi hynny, lansiwyd Sbardun Momentwm PPL fel cynllun wedi’i dargedu i gefnogi datblygiad artistiaid a bandiau rhagorol sy’n cyfansoddi eu cerddoriaeth eu hunain, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sydd ar gam cynnar o’u gyrfa, y tu allan i Lundain sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol rhag cyrraedd pwynt tyngedfennol yn eu gyrfa oherwydd eu lleoliad.
Ers ei lansio, mae 5 artist wedi datblygu eu gyrfaoedd i bwynt tyngedfennol a bod yn gymwys i wneud cais am a derbyn arian gan Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL ar ôl cael cymorth Sbardun Momentwm PPL i ddechrau. Cafodd Lucas Alexander a’i gyd-artistiaid o Gymru LEMFRECK a Luke RV, yn ogystal â Downtown Kayoto a Chiedu Oraka o Swydd Efrog, gymorth Sbardun Momentwm PPL yn gynnar yn eu gyrfaoedd cyn llwyddo i dderbyn cymorth Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL. Mae llwyddiannau diweddar eraill Sbardun yn cynnwys English Teacher yn ennill Gwobr Mercury y llynedd a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer Sound of 2025 y BBC eleni.
Daeth PPL yn brif noddwyr Cronfa Gerddoriaeth Momentwm ym mis Chwefror 2020. Ers hynny, mae 247 o greawdwyr cerddoriaeth dawnus ar gamau tyngedfennol o’u gyrfaoedd wedi derbyn y cymorth hollbwysig hwn i dorri trwodd i’r lefel nesaf.
Cychwynnodd Sefydliad PRS a Chyngor Celfyddydau Lloegr Gronfa Gerddoriaeth Momentwm yn 2013. Sefydlodd Cyngor Celfyddydau Lloegr yr angen am y gronfa benodol hon yn wreiddiol a chefnogodd y rhaglen o 2013-18.