Rydym yn dymuno buddsoddi mewn portffolio o sefydliadau cyffrous a chynaladwy sy'n cynrychioli amrywiaeth Cymru. Dylai’r sefydliadau allu cydweithio a bod yn gynhwysol er mwyn creu celfyddyd wych a chyfoeth diwylliannol i bawb.
Rydym ni wrthi'n datblygu Cylch Gorchwyl er mwyn llywio’r broses ymgeisio a fydd ar waith y flwyddyn nesaf fel rhan o Adolygiad Buddsoddi 2022 Cyngor Celfyddydau Cymru.
Ymunwch â ni yn un o'r sesiynau ar-lein. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ein Portffolio sy’n cael arian refeniw ac am ein huchelgais ar gyfer yr adolygiad.
Bydd y sesiynau'n cynnig cyfle ichi gyfrannu at ddatblygu ein Cylch Gorchwyl y byddwn yn ei gyhoeddi erbyn dechrau Rhagfyr.
Cynhelir y gweithdai ar yr 8, 9, 10, 13 a 14 Medi rhwng 3pm a 4.30pm ar bob achlysur. Bydd pob gweithdy yn dilyn yr un patrwm felly archebwch le mewn un gweithdy yn unig.
Cliciwch ar y ddolen hon er mwyn cael rhagor o wybodaeth ac er mwyn archebu lle yn un o'r gweithdai - https://www.eventbrite.co.uk/e/investment-review-2022-workshops-gweithdai-adolygiad-buddsoddi-2022-tickets-167284850491