Mae Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn datblygu a threialu syniadau ar gyfer cefnogi'r celfyddydau gweledol yng Nghymru a rhannu’r casgliadau cenedlaethol gyda chymunedau ac orielau trwy Gymru. Celf ar y Cyd yw’r enw ar un o gamau cyntaf y prosiect sydd wedi'i ddatblygu mewn ymateb i'r argyfwng iechyd presennol.

Mae’r cynllun yn cynnig cyfle hefyd i arbrofi gyda datblygu hunaniaethau gweledol a logos gwahanol, a phenodwyd yr artist, S Mark Gubb, i arwain ar y gwaith hwn. Cynigiodd Mark, sy’n byw ac yn gweithio’n Nghaerdydd, y dylid comisiynu mwy nag un artist i ddylunio sawl cynllun, yn hytrach na chreu un brand penodol.

Wedi galwad am artistiaid, dewiswyd cynlluniau deg o’r ymgeiswyr, sef:

Becca + Clare -            beccaandclareareartists.com  

Cerys Knighton -          https://www.cerysknightonart.com 

Emma Daman Thomas -           https://emmadamanthomas.com/ 

Jacob Taylor -             @snakenub

Manon Awst -               www.manonawst.com

Menai Rowlands -       www.menaidesigns.com

Paul Eastwood -          www.paul-eastwood.net 

Philip Cheater -             www.fineartphil.com 

Rithika Pandey -          www.chashmishkahiki.com

Thomas Goddard -      www.thomas-goddard.com  

Dyweddodd Dafydd Elis-Thomas AS, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Wrth gwrs, mae na fwy o drafod i’w wneud wrth ini ymchwilio ac arbrofi, ond gwych o beth yw gweld ein bod ni’n ogystal ag yn siarad – ein bod wrthi’n creu. Dyma gyfle i’n artistiaid cyfoes gwych i fod yn rhan o’r broses hon o’r cychwyn cyntaf, a dyma ddechrau ar broses greadigol fydd yn arwain at wireddu ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer dathlu celf gyfoes yng Nghymru.”

Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:

"Mae’r gwaith sydd wedi cael ei gyflwyno gan y deg artist cyfoes yn adlewyrchu’r creadigrwydd sy’n bodoli o fewn y sector. Mae wedi bod yn wych gallu gweithio gydag artistiaid o bob cwr o’r wlad ac sy’n cynrychioli’n cymunedau amrwyiol yng Nghymru. Mae gwaith Menai Rowlands yn barod wedi cael adborth gwych ar blatfform Instagram newydd y prosiect @celfarycyd ble fydd pob logo yn cael ei rannu dros yr wythnosau nesaf.”

Bydd y dyluniadau yn cael eu defnyddio ar gyfer pedwar prosiect cychwynol Celf ar y Cyd:

1. Art 100 Celf https://www.instagram.com/celfarycyd/     

Prosiect Instagram sy’n cynnig cyfle i’r cyhoedd guradu arddangosfa o waith celf yn amgueddfeydd cenedlaethol Cymru ac mewn orielau ledled Cymru drwy hoffi gweithiau celf y cyfrif a thrwy adael sylwadau.

2. Cynfas

Cylchgrawn celf cyfoes ar-lein sy’n cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Hydref 2020 i gyd-fynd â Mis Hanes Pobl Dduon.

3. Comisiynu celf newydd

Bydd cyfres o gyfleoedd i artistiaid i greu gwaith newydd yn ymateb gymunedau ar draws Cymru.

4. Celf mewn Ysbytai

Mae ysbytai maes COVID wedi'u troi'n orielau drwy eu haddurno ag atgynhyrchiadau o weithiau celf Amgueddfa Cymru, ac mae adnoddau newydd wedi'u datblygu ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd i helpu cleifion i wella.

Yng Ngorffennaf 2018, cyhoeddwyd astudieth gan Senedd Cymru yn trafod opsiynau ar gyfer creu oriel genedlaethol ar gyfer celf gyfoes. Cytunwyd ar 'fodel gwasgaredig', fyddai’n rhannu ein celf cenedlaethol gydag orielau ledled Cymru.