Mae Theatr Gen yn awyddus i barhau i gefnogi artistiaid a gweithwyr theatr llawrydd i hybu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, er mwyn eu galluogi i ymwneud â’r theatr Gymraeg.  Drwy gydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a Chanolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn – gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru – ry’n ni’n gallu cynnig cyfle arall i weithwyr llawrydd y celfyddydau perfformio hybu hyder wrth ddefnyddio’r iaith yn broffesiynol.

Y tro hwn, bydd hyd at 15 lle ar gael i weithwyr llawrydd y sector celfyddydau perfformio ar gwrs ar-lein ‘Defnyddio’ Cymraeg Gwaith Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, sy’n cael eu darparu’n rhithiol gan Nant Gwrtheyrn ar gyfer dysgwyr ar lefel Canolradd ym Mawrth 14-18, 2022.   

Mae’r cwrs hwn yn cael ei ariannu’n llawn a bydd disgwyl i chi fynychu 5 diwrnod o hyfforddiant ar-lein rhwng 10yb a 4yh, Mawrth 14-18, 2022. Telir £750 fel cyfraniad ariannol am eich amser i fynychu’r cwrs.  

Gallwch fynegi eich diddordeb trwy anfon y ffurflen gais (ynghyd â’r ffurflen monitro cydraddoldeb) at Nia, ein Cynhyrchydd, ar nia.skyrme@theatr.com erbyn 14 Chwefror 2022.. Byddwn ni’n cydlynu mynegiadau o ddiddordeb gan y sector celfyddydau perffomio.

Ry'n ni'n awyddus i sicrhau bod cyrsiau hygyrch i bawb ar gael yn y dyfodol. Gofynnwn i chi gysylltu â ni i drafod eich gofynion er mwyn ein galluogi i gynllunio’n gywir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cwrs, neu am wybodaeth am lefel Canolradd, mae croeso i chi gysylltu â Mared Grug , Swyddog Prosiect Cymraeg Gwaith Nant Gwrtheyrn ar mared@nantgwrtheyrn.org

Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Nodiadau:

Nod Cymraeg Gwaith yw cryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle drwy gynnig opsiynau ar gyfer dysgu, gwella, a defnyddio sgiliau Cymraeg at bwrpas gwaith.  Mae'r cynllun rhad ac am ddim hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac fe'i datblygwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae croeso i unrhyw un fynegi diddordeb i fynychu cyrsiau cyffredinol Cymraeg Gwaith, heb dderbyn cyfraniad.

Cynhaliwyd peilot llwyddiannus o’r cynllun hwn yn 2021, gyda 22 o ddysgwyr Cymraeg o’r sector celfyddydau perfformio yn mynychu cyrsiau o lefelau amrywiol. Nod y cwrs hwn yw adeiladu ar y peilot hwnnw a datblygu cwrs penodol ar gyfer dysgwyr o’r sector celfyddyau perfformio.