Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cyfnod penodol, hyd at 31 Mawrth 2025

Gradd B: Cyflog cychwynnol o £24,063

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Am y rôl

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n darparu rhaglen bwysig i hyrwyddo'r manteision y gall y celfyddydau eu cynnig i lesiant y boblogaeth ac wrth greu Cymru fwy cyfartal, diwylliannol a chynaliadwy. Rhaglen weithgarwch uchelgeisiol yw hon â'i nod yw gosod y celfyddydau wrth galon iechyd a llesiant y genedl.

Mae’r Cydlynydd Tîm (Y Celfyddydau Iechyd a Llesiant) yn sicrhau bod gweithgareddau'r Tîm yn cael eu cyflawni'n effeithiol trwy ddarparu gwasanaeth gweinyddol o safon uchel sy'n hwyluso gweithio hyblyg/mudol. Mae hyn yn cynnwys cydlynu cyfathrebu, gohebiaeth ac apwyntiadau. Mae'n cynnwys cynllunio, trefnu a gweinyddu cyfarfodydd hefyd.

Amdanoch chi

Os ydych chi’n rhywun sydd â wybodaeth am neu diddordeb mewn sut y gallu celfyddydau gynorthwyo iechyd a llesiant pobl, yna hwyrach taw hon yw’r rôl i chi. Bydd gennych sgiliau TG a gweinyddu datblygedig iawn a profiad blaenorol o ddarparu gwasanaethau gweinyddol o safon uchel. Bydd angen i chi gweithio o’ch menter eich hun, blaenoriaethu a chynllunio’ch gwaith eich hun, a bod yn hyblyg ac yn addasadwy i anghenion newidiol y tîm Celfyddydau Iechyd a Llesiant.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac  i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llaid, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                         12:00pm (canol dydd) dydd Iau 7 Gorffennaf 2022

Cyfweliadau:                         Dydd Llun 1 Awst 2022

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

Dogfen17.06.2022

Pecyn Swydd Cydlynydd Tim (Y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant)