Arweinir prosiect HORIZON gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys. Nod HORIZON yw ymgorffori creadigrwydd, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn strategol wrth wraidd ymarfer iechyd meddwl a lles.

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Prosiect ANHYGOEL, hynod hunan-gymhellol, effeithlon a threfnus gyda diddordeb a phrofiad ym maes y celfyddydau ac iechyd!

Mae'r prosiect yn cynnwys gweithio'n agos gyda gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol i gefnogi cyd-guradu ymyriadau celfyddydau creadigol ac ecotherapi rhwng defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, cleifion, pobl greadigol ac ymarferwyr celfyddydol.

Bydd y Cydlynydd Prosiect HORIZON yn arwain ar gynllunio, trefnu, cyflwyno a gwerthuso rhaglen benodol i bobl o ymyriadau / profiadau / gweithdai cyfranogol sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau ac ecotherapi. Bydd y rôl yn cynnwys trosolwg cydgysylltu ar bob agwedd ar gyflawni prosiectau.

Disgrifiad Rôl Cydlynydd Prosiect HORIZON ynghlwm.

Gweler y dogfennau ar y platfform MultiQuote i gael rhagor o wybodaeth - https://suppliers.multiquote.com/Page/Login.aspx, y cyfeirnod yw RA303661

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r cais yw 12 hanner dydd, ar ddydd Llun 12 Gorffennaf 2021.

Os hoffech drafod eich diddordeb yn y rôl, cysylltwch â Lucy Bevan - Cydlynydd y Celfyddydau mewn Iechyd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys lucinda.bevan@wales.nhs.uk