O 8 Medi 2025 ymlaen, bydd sefydliadau'n gallu ymgeisio am grantiau o £500–£1,500 i gynnal prosiectau celfyddydol untro sy'n ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol. Mae cronfa Cymunedau Creadigol wedi ei greu ar gyfer grwpiau sy’n rhan annatod o’u cymuned, yn enwedig mewn ardaloedd â llai o ddarpariaeth gelfyddydol neu sydd wedi cael llai o gefnogaeth ariannol gan Cyngor Celfyddydau Cymru yn y gorffennol.
Mae'n cefnogi prosiectau bach sy'n adlewyrchu amrywiaeth diwylliant, ieithoedd a chymdeithas Cymru. Mae’n canolbwyntio ar y broses o gyd-greu yn hytrach na'r cynnyrch terfynol. Dyma rai enghreifftiau posibl dan arweiniad cydweithiwr artistig profiadol: gweithdai creadigol, murluniau cymunedol, creu cerddoriaeth, sesiynau dawns, prosiectau ffotograffiaeth, theatr ddwyieithog.
Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn gallu newid bywyd pobl. Mae’n fodd i godi hyder, dod â chymunedau at ei gilydd a rhoi teimlad cryfach o berthyn i le. Drwy Gymunedau Creadigol, rydym am helpu grwpiau ym mhob rhan o’r wlad i wneud y celfyddydau yn rhan o fywyd bob dydd, yn enwedig lle nad yw’r cyfleoedd yma wedi digwydd yn y gorffennol.
Byddwn yn blaenoriaethu grwpiau gwirfoddol a chymunedol nid er elw nad ydynt wedi cael eu hariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru o’r blaen.
Manylion llawn am y gronfa a sut i ymgeisio yma: arts.wales/cy/cymunedau-creadigol