Mae'n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynnig newydd sbon i'r rhaglen Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau a fydd yn gweld athrawon, ymarferwyr creadigol a dysgwyr yn archwilio sut y gall dulliau dysgu creadigol ail-danio profiadau dysgu mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru yn ystod Tymor yr Haf.
Mae'r Gronfa Adfer Dysgu Creadigol yn ymyrraeth fer a ddyluniwyd i gefnogi'ch ysgol i ennyn diddordeb dysgwyr, gwella llesiant, a chefnogi gwelliannau i lafar. Bydd yn dod â mwynhad yn ôl i'r amgylchedd dysgu.
Gan addasu'r dulliau a'r technegau llwyddiannus o'n Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol arloesol a gydnabyddir yn rhyngwladol, bydd y Gronfa Adfer Dysgu Creadigol yn defnyddio Arferion Creadigol y Meddwl a'r Ystafell Ddosbarth Gweithredol Uchel i feithrin creadigrwydd.
Gallai gweithgaredd ganolbwyntio ar thema, pwnc neu Faes Dysgu a Phrofiad. Gallai ddatblygu sgiliau llafar, gan ennyn diddordeb dysgwyr trwy drafodaethau a rhannu syniadau creadigol. Gellid defnyddio llais disgybl i annog dysgwyr i gydweithio a dylunio'r gweithgaredd. Gallai gweithgaredd danio dychymyg dysgwyr a’u hannog i gwestiynu’r byd y maent yn byw ynddo. Gallent ddatblygu sgiliau a thechnegau newydd gyda chefnogaeth ymarferydd creadigol. Bydd gweithgaredd yn cefnogi disgyblion i ddatblygu a rhannu eu dysgu rhwng sesiynau mewn ffyrdd dychmygus a chreadigol. Mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd.
Dyfernir grant o £1,000 i ysgolion llwyddiannus i dalu am bedwar diwrnod o amser ymarferydd creadigol yn ystod tymor yr Haf. Gall y rhain fod yn ddiwrnodau yn olynol neu eu rhannu'n hanner diwrnod neu sesiynau byrrach wedi'u gwasgaru dros sawl wythnos.
Bydd cyfle i athrawon sydd yn cymryd rhan i fynychu sesiwn dysgu proffesiynol hanner diwrnod a fydd yn eu galluogi i archwilio'r egwyddorion allweddol sydd y tu ôl i ddulliau dysgu creadigol.
Dylai ysgolion sydd â diddordeb gofrestru ar ein porth ymgeisio.