Mae IETM – Rhwydwaith rhyngwladol celfyddydau perfformio cyfoes – yn gwahodd aelodau’r rhwydwaith celfyddydau perfformio ehangach i ymuno â nhw yn Bradford sef Dinas Diwylliant y DU 2025 rhwng yr 22-24 Hydref ar gyfer Cyfarfod IETM Focus Bradford 2025.
Gyda chysylltiadau rhyngwladol nawr mewn cyfnod newydd y gynwrf, bydd cyfranogwyr yn dod ynghyd i ystyried beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer dyfodol cydweithio creadigol trawsffiniol.
Gyda datblygiadau cyfredol yn gefndir, bydd y cyfarfod yn ymchwilio i gwestiynau hollbwysig gydag arweinwyr o bob rhan o’r celfyddydau perfformio a pholisi Ewropeaidd i dreulio a thrafod yr opsiynau sydd o’n blaenau.
Wrth i densiynau byd-eang gynyddu a’r DU barhai i lywio ei realiti ôl-Brexit, bydd cyfarnogwyr yn meddwl yn fawr ac yn dychmygu sut olwg fyddai ar Ewrop Greadigol estynedig. A all hyn ddod yn raglen sy’n croesawu cyfranogiad o bob cwr o’r byd?
Bydd hefyd digon o gyfleoedd i rwydweithio, rhaglen artistig gyfoethog, a’r cyfle i ddarganfod popeth sydd gan Bradford i'w gynnig eleni, gan gynnwys gŵyl Transform 25, Gwobr Turner 2025.
Gall aelodau IETM a'r rheini sydd ddim yn aelodau gofrestru nawr.
Mae Gwybodfan Celf y DU yn falch iawn o gefnogi cyfarfod IETM yn y DU fel moment allweddol ar gyfer rhwydweithio a thrafodaeth rynglwadol.
Mae Cyfarfod Ffocws IETM Bradford 2025 wedi’i gyd-drefnu gan IETM, Bradford Dinas Diwylliant y DU 2025 a charfan aelodau IETM, Farnham Maltings a’n haelodau cyswllt Creative Scotland a Gwybodfan Celf y DU.