Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn lansio cronfa newydd i helpu ymarferwyr creadigol unigol a sefydliadau'r celfyddydau yng Nghymru i ymwneud â rhwydweithiau Ewropeaidd.

Diben Cysylltu yw helpu sector y celfyddydau yng Nghymru i ddatblygu, cynnal a chryfhau ei gysylltiadau â phartneriaid strategol allweddol yn Ewrop.

Fel unigolyn neu fel sefydliad, gall bod yn aelod o rwydwaith rhyngwladol ddwyn sawl budd. Mae'r rhan fwyaf o rwydweithiau Ewropeaidd yn agored i aelodau o'r tu hwnt i'r UE. Maent yn lle i gwrdd â chymheiriaid a rhannu syniadau â nhw, ac i gydweithio, dysgu a chyfnewid, ac mae llawer yn arwain at gydweithrediadau a phartneriaethau rhyngwladol yn y dyfodol.

Gall rhwydweithiau fod yn anffurfiol hefyd, gydag artistiaid a sefydliadau'n datblygu eu rhwydweithiau personol o gydweithredwyr a chymheiriaid ledled Ewrop a’r byd, trwy gyfranogi mewn preswyliadau, gwyliau a phrosiectau rhyngwladol.

Un o bum prif uchelgais ein strategaeth ryngwladol, Celfyddydau Cymru: pontio'r byd, yw ailddiffinio ein perthynas ag Ewrop. Mae hon yn adeg hanfodol i adnewyddu ein cydberthnasau â rhwydweithiau allweddol, yn ogystal â datblygu rhai newydd â phartneriaid ledled y cyfandir. Dyma'r hyn y bydd y gronfa Cysylltu yn ei gefnogi.

Mae Cysylltu yn rhan o fenter ehangach Llywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar sicrhau cydberthnasau yn y dyfodol â rhanbarthau, gwledydd a rhwydweithiau Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Bydd cyllid y gronfa Cysylltu yn blaenoriaethu presenoldeb a chyfranogiad mewn digwyddiad a drefnir gan un o'r rhwydweithiau Ewropeaidd hirsefydlog (cynhadledd/cyfarfod blynyddol gan amlaf). Gall hyn fod yn rhwydwaith mae’r ymgeisydd yn aelod ohono neu'n rhwydwaith maent yn bwriadu ymuno ag ef. Gweler Creative Europe Desk UK am restr o rwydweithiau Ewropeaidd allweddol.

Byddwn ni hefyd yn ystyried cefnogi ceisiadau i fynd i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan rwydwaith Ewropeaidd anffurfiol o unigolion sy’n cydweithio neu sefydliadau mae’r ymgeisydd yn aelod gweithgar gyda nhw neu’n gobeithio gweithio gyda nhw. Bydd raid felly profi gwerth y rhwydwaith a’i ymroddiadau neu uchelgais hirdymor.

Rydym yn bwriadu cefnogi cydbwysedd o ran gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau'r celfyddydau ac ar draws digwyddiadau a gynhelir tan 31 Hydref 2020. Rydym ni’n annhebygol o gynnig rhagor na phum grant ar gyfer yr un digwyddiad.

Cewch wneud cais am arian gan y gronfa Cysylltu hyd 15 Mawrth 2020 neu tra bydd arian ar gael.