Rôl y celfyddydau wrth gyflawni nodau llesiant ac ymrwymiadau byd-eang Cymru.

“Yn hanesyddol mae cyfnodau o bandemig wedi gorfodi bodau dynol i gefnu ar y gorffennol a dychmygu eu byd o’r newydd. Nid yw'r un hwn yn wahanol. Mae'n borth, yn llwybr rhwng un byd a'r llall.” (Arundhati Roy)

Mae'r pandemig byd-eang wedi peryglu bywoliaeth artistiaid yng Nghymru a ledled y byd. Mae hefyd wedi rhoi cryn ffocws ar anghydraddoldebau strwythurol, tra bo mudiadau fel Black Lives Matter a We Shall Not Be Removed wedi gosod proses newid ar waith. Yn y tymor hir, fodd bynnag, mae'n her fach o'i chymharu â’r newid yn yr hinsawdd.

Fel y nododd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru yn Ail-osod y llwyfan, byddwn yn helpu'r sector i adfer ac i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau strwythurol dwfn sy'n wynebu'r bobl nad yw eu lleisiau wedi'u clywed nac wedi’u llwyfannu yn ein gwaith hyd yma.

Wrth inni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng nghanol cyfnod clo, mae ymgyrch “Pethau Bychain” Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn annog pobl i gymryd camau bychain i fod yn garedig at bobl eraill ac at y blaned, ac mae’n tynnu sylw at waith artistig sy’n canolbwyntio ar lesiant.

Rydym yn credu bod Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i ymrwymo i bethau bychain y gallwn eu gwneud i ysgogi newid llawer mwy, ac i gyflawni nodau lleol a byd-eang.

Yn 2015, cytunodd arweinwyr y byd ar Nodau Byd-eang (sy’n cael eu galw’n swyddogol yn Nodau Datblygu Cynaliadwy). Mae’r rhain yn ceisio “creu byd gwell erbyn 2030 trwy ddod â thlodi i ben, ymladd anghydraddoldeb a mynd i’r afael ar frys â’r newid yn yr hinsawdd”.

Hefyd yn 2015, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y byd i ymgorffori'r nodau yn y gyfraith trwy ddarn arloesol o ddeddfwriaeth, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant sy'n rhoi cyd-destun Cymreig i’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Yn dra phwysig i'r celfyddydau a diwylliant, Cymru hefyd oedd y genedl gyntaf i wneud diwylliant yn bedwaredd colofn ffurfiol datblygu cynaliadwy trwy'r Ddeddf.

Mae'r pandemig yn sicr wedi ehangu'r bwlch anghydraddoldebau yng Nghymru a ledled y byd. Ond yn anffodus, nid yw'r anghydraddoldebau hyn na’r tlodi sy’n sail iddo yn bethau newydd, a gallai hynny esbonio pam mae'r pandemig wedi taro rhannau o Gymru yn galetach na'r rhan fwyaf o lefydd yn y byd.

Yn ôl arbenigwyr iechyd cyhoeddus, mae tlodi yn ffactor allweddol sy'n cyfyngu ar lesiant, cyfleoedd bywyd a hyd yn oed ddisgwyliad oes. Rhoddodd Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gyfweliad diweddar i BBC Wales Today ac roedd ei eiriau’n codi ias. Pe baem ni wedi ein cael ein rhybuddio ym mis Chwefror 2020 bod pandemig ar y ffordd, a chan wybod ble mae’r ardaloedd o amddifadedd a thlodi, dywedodd y “gallech chi bron fod wedi rhagweld y llun rydyn ni'n ei weld nawr gyda chryn gywirdeb".

Dylai’r holl gyrff, swyddogion a phrosiectau sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus yng Nghymru, ym mhob sector gan gynnwys y celfyddydau, fod yn gofyn sut y gallwn gyfrannu orau at wneud iawn am y methiant hwn. A allwn ni oll gyd-dynnu i ddarparu'r gwasanaeth cyhoeddus pwysicaf sydd ei angen ar hyn o bryd, a chymryd 2021 fel moment i newid ein dulliau o gyfrannu tuag at y nodau llesiant a thuag at ddileu tlodi yng Nghymru a ledled y byd?

Mae modd i’r celfyddydau ysgogi newid drwy alluogi cymunedau i gyfrannu cymaint ag y bo modd tuag at nodau llesiant lleol a byd-eang ac, yn bwysig, drwy alluogi cymunedau i greu stori wahanol inni i gyd ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

Wrth i drafodaethau gael eu cynnal am greu GIG sy’n wasanaeth lles yn hytrach nag yn wasanaeth salwch, gan ganolbwyntio ar atal yn hytrach na gwella, mae'r celfyddydau yn amhrisiadwy wrth greu stori newydd.

Os yw llesiant wrth wraidd ein hagenda datblygu cynaliadwy, mae diwylliant yn sbardun sy’n gallu bywiogi lles y boblogaeth. Ond er mwyn gwneud gwahaniaeth, rhaid i bobl weithio'n wahanol a gyda'i gilydd ym mhob rhan o fywyd cyhoeddus.

Yng Nghymru rydyn ni’n gwybod pa mor hynod o effeithiol yw cydweithio rhwng artistiaid a gweithwyr iechyd. Yn eu plith mae prosiect Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar gyfer pobl sydd â Parkinsons, a Kelly Lee Owens, cyn-nyrs sydd nawr yn gerddor a chynhyrchydd ac wedi bod yn cefnogi gweithwyr allweddol drwy baratoi rhestrau chwarae ar Spotify. Drwy brosiectau fel hyn, mae'r celfyddydau'n cynnig profiadau ataliol sy’n gallu lleddfu gorbryder, helpu pobl i wella, a rhoi hapusrwydd i bob cenhedlaeth.

Mae’n debygol mai’r celfyddydau fydd un o'r sectorau olaf i agor ei ddrysau yn llawn, ac mae ein hartistiaid wedi dioddef colled, heriau a newidiadau fel pawb arall. Mae pobl creadigol o bob math wedi mynd â’u gwaith o’r llwyfan i wahanol ofodau theatrig – boed hynny mewn ysbytai, yn yr awyr agored neu mewn bydoedd rhithwir ac ar lwyfannau digidol fel AM.

Yn y celfyddydau, bydd effaith y pandemig yn cyflwyno heriau i artistiaid, cynulleidfaoedd, cyfranogwyr a llunwyr polisi am flynyddoedd i ddod.

 

Gwaith y celfyddydau yn lleol ac yn fyd-eang yn 2021

Bu’n rhaid cael pandemig byd-eang, llofruddiaeth giaidd George Floyd ac ad-drefnu cysylltiadau rhyngwladol ar ôl Brexit, a hynny ar ben yr argyfwng hinsawdd, er mwyn inni sylweddoli’r brys i ailgyfeirio ein bywyd diwylliannol mewn ffordd gynaliadwy.  

Ond bwrw goleuni ar bethau’n unig mae’r pandemig. Er mwyn gwireddu ein hymrwymiadau ym maes cynaliadwyedd, mae angen newidiadau strwythurol dyfnach na’r hyn y gellir ei gyflawni drwy Gronfa Adferiad Diwylliannol Covid. Ond mae’r cyfle hwn i ailgyfeirio yn gyfle hefyd i greu newid a fydd yn para cenhedlaeth.

Sut y gall ein buddsoddiad mewn plant a phobl ifanc heddiw roi’r sgiliau a’r feddylfryd iawn iddyn nhw i’w i ymdopi ag effeithiau cyfunol hirdymor Covid, y newid yn yr hinsawdd a thlodi?

Dyma naratif y mae angen inni ddechrau ei newid yn ddiymdroi.  

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd Antonio Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, fod 2021 yn “flwyddyn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd”. Bydd Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn cael ei chynnal yn Glasgow yn ddiweddarach eleni. Yn eironig, disgwylir mai dyma fydd yr ymgynnull byd-eang mwyaf i’r Deyrnas Unedig ei gynnal erioed.

Mae gan ddiwylliant gyfraniad anferth i’w wneud yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Mae’r Cenhedloedd Unedig ei hun wedi defnyddio platfformau digidol i roi mynediad i bobl drwy ymgyrchoedd fel ResiliArt ac i ddod â phobl ynghyd i rannu a rhoi sylw i bryderon cyffredin. Mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol yn disgwyl i aelod-wladwriaethau fanteisio ar y momentwm hwn wrth i COP26 yn Glasgow ddynesu. 

Mae mwy o genhedloedd yn dechrau sylweddoli bod diwylliant yn hanfodol i ysgogi newid mewn meddylfryd, ond ar ben hynny, gellir dadlau mai dyma’r unig adnodd sy’n gallu cysylltu pawb ar y blaned. Efallai mai dyma pam mae dull Seland Newydd o gyflwyno datblygu cymunedol drwy ddiwylliant mor llwyddiannus, hyd yn oed wrth frwydro yn erbyn pandemig.  

Er mwyn meithrin ymdeimlad o werthoedd a buddiannau cyffredin, rhaid dymchwel y strwythurau grym hierarchaidd sydd wedi gwthio pobl i’r cyrion am ganrifoedd. Mae’r celfyddydau yn fodd o gyfathrebu profiadau sy’n pontio’r cenedlaethau ac yn rhyngblethu.

Ac nid oes her fwy, na budd cyffredin mwy, nag iechyd y blaned. Ailddychmygu sut i ddefnyddio ein talentau creadigol a’n huchelgeisiau ar y cyd er mwyn mynd i’r afael â’r her hon yw ein gwaith yn 2021. Gweithredu yn lleol i ddadwneud y newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang yw’r gwaith sydd o’n blaen.

 

Celfyddyd yr hyn sy’n bosibl

Gall diwylliant a’r celfyddydau helpu i adfywio ein bywyd sifig. Gallan nhw hefyd roi’r sgiliau creadigol y mae eu hangen ar ein plant i ddygymod â byd sy’n newid, a rhoi mwy o ddewisiadau iddyn nhw mewn bywyd, gan dorri cylch creulon tlodi ac anghydraddoldeb ymhlith plant.

Mae’r celfyddydau yn rhoi cryfder inni fel pobl, gweithwyr iechyd a theuluoedd, gan ein helpu i ddygymod â’r cyfnodau clo. Mae canu wedi dwyn pobl ynghyd drwy brosiectau fel cymuned Facebook Côr-Ona neu Gôr GIG Cymru.

Mae’r celfyddydau hefyd yn adnoddau grymus wrth ddychmygu dyfodol gwahanol, ac wrth esbonio’r gorffennol a’i osod yn ei gyd-destun. Arweiniodd llofruddiaeth George Floyd at sgyrsiau yr oedd dirfawr angen eu cynnal yng Nghymru am amrywiaeth ac anghydraddoldebau.

Yn 2021, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ymrwymo i greu gofodau diogel i gynnal sgyrsiau myfyriol gyda chymunedau sydd wedi’u lleiafrifoli yng Nghymru. Galwyd am hyn mewn adroddiad diweddar gan Watch Africa Cymru, “Nid yw Moroedd Mwyn yn creu Morwyr Medrus”. Adroddiad oedd hwn yn ymateb i nifer o sgyrsiau roedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi’u cynnal ynghylch ailgyfeirio ein gwaith rhyngwladol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn dangos bod angen i’r gwaith hwnnw fod yn rhyngblethol, a bod angen inni roi syniadau syml o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith. Mae eu dull dad-drefedigaethol o weld pethau yn drawiadol ac yn berthnasol i’n gwaith eleni.  

 

Mae economi lesiant yn rhoi gwerth ar sicrhau budd cymdeithasol a diwylliannol o fuddsoddi

Mewn trafodaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig, a honno’n cael ei llywio gan Sefydliad Bevan, dadleuodd yr Athro Laura McAllister dros ganolbwyntio ar greu gwlad yng Nghymru sy’n cael ei harwain gan werthoedd. Dadleuodd hefyd dros gefnu ar y model economaidd byd-eang, a chanolbwyntio ar sicrhau budd cymdeithasol o fuddsoddi, yn hytrach na budd economaidd yn unig.  

Yn ein gwaith rhyngwladol, mae’r diffiniad traddodiadol o bethau sy’n ‘barod i’w hallforio’ wedi bod yn rhwystr i lawer rhag datblygu portffolio o waith rhyngwladol.  Wrth fesur pethau yn erbyn model sy’n edrych ar y budd economaidd o fuddsoddi yn unig, bydd nifer o artistiaid yn ei chael hi’n anodd bodloni’r meini prawf i fod yn ‘barod i allforio’, gan fethu ag achub ar y cyfleoedd iawn i arddangos eu gwaith. Fodd bynnag, nid yw’r budd economaidd o fuddsoddi yn llinyn mesur digonol mewn byd sy’n newid. I fynd â dadl yr Athro McAllister rywfaint ymhellach, mae angen inni hefyd fod yn asesu pa mor ‘barod i’w hallforio’ yw pethau yn nhermau’r buddion cymdeithasol, ac yn hollbwysig, y buddion diwylliannol o fuddsoddi. Mae modd, ac mae’n rhaid, defnyddio ein nodau byd-eang i fesur modelau ar gyfer y buddion cymdeithasol a diwylliannol o fuddsoddi.

Er mwyn mesur y budd o’n buddsoddiadau cyhoeddus mewn ffordd gyfannol, mae’n rhaid ystyried yr effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd. Dyma bedair colofn datblygu cynaliadwy Cymru sy’n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Dull diwylliannol o edrych ar y saith nod llesiant 

Er mwyn cyfrannu at wneud Cymru yn fwy llewyrchus, mae angen i’r sector celfyddydau a diwylliant flaenoriaethu pobl ifanc, gan ganolbwyntio ar iechyd meddwl, meithrin hyder, dinasyddiaeth ddiwylliannol a byd-eang, sgiliau dwyieithog ac amlieithog, a galluogi twf sgiliau creadigol a digidol.

Gweithwyr ifanc sydd wedi dioddef fwyaf wrth i swyddi ddiflannu yn ystod argyfwng Covid (BBC). Mae angen inni greu gofod i bobl ifanc drwy brentisiaethau, profiadau gwaith, cyfleoedd preswyl, cystadlaethau a phrofiadau eraill sy’n newid gyrfaoedd.

Os oedd 2020 yn garreg filltir wrth gydnabod y rhwystrau sy’n wynebu pobl o gymunedau amrywiol a chymunedau sydd wedi’u lleiafrifoli mewn model economaidd trefedigaethol, ein gwaith yn 2021 fydd dad-drefedigaethu ein meddyliau, sef pwnc ein fforwm rhyngwladol yn 2018. Yn ei brif araith yn y fforwm hwnnw, cyflwynodd Tunde Adafaye gynllun 10 pwynt i ddad-drefedigaethu’r celfyddydau, gan gynnwys ein sefydliadau cenedlaethol. Mae Amgueddfa Cymru wrthi’n gwneud hynny, fel y mae lleoliadau a gofodau celfyddydol sy’n sicrhau bod pobl ifanc o gymunedau amrywiol yn gallu gweld eu hunain yn economi celfyddydau, diwylliant ac iaith Cymru.  

Gall y sector gaffael mwy o wasanaethau a nwyddau yn lleol. Drwy fuddsoddi mewn talent a chynnyrch lleol, byddwn yn lleihau’r angen am deithiau diangen sy’n cael effaith fawr, a bydd hynny’n her wrth ddatblygu’r economi ddiwylliannol carbon isel.

I wneud Cymru’n fwy cydnerth yn amgylcheddol, mae gan y celfyddydau ddau gyfraniad o bwys i’w gwneud pan fydd y sector yn agor ei ddrysau drachefn. Yn gyntaf, rhaid inni ysgwyddo cyfrifoldeb dros leihau ein hôl-troed carbon ein hunain a helpu pobl eraill i wneud yr un fath. Fel unigolion, cwmnïau a’r sector yn ehangach, rhaid inni fesur effaith ein gwyliau, ein canolfannau celfyddydol, ein teithiau rhyngwladol a’n cyfnewidfeydd, nid yn unig o ran y budd economaidd o fuddsoddi neu effaith gadarnhaol cyfnewid diwylliannol, ond hefyd o ran yr olion traed carbon, cymdeithasol a diwylliannol y byddwn yn eu gadael ar ein holau.  

Mae’n hanfodol newid ein hymddygiad unigol. Bydd gwneud y pethau bychain heddiw yn talu ar ei ganfed i’n plant. Wrth inni feddwl o’r newydd am sut y byddwn yn cyflwyno ac yn mwynhau’r celfyddydau, mae dod o hyd i ddewisiadau eraill yn lle teithio ac yn lle defnyddio adnoddau’n helaeth yn weithred greadigol ynddi’i hun. Gallwn ddewis mwynhau a buddsoddi yn y celfyddydau a diwylliant yn fwy lleol, a theithio yn bell yn achlysurol yn hytrach nag fel norm, a hynny o ran busnes a phleser ill dau. Gallwn ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu er mwyn i’n celfyddydau fynd yr ail filltir.

Mae digwyddiadau am ‘un noson yn unig’ yn achlysuron arbennig, ond fel cynhyrchwyr a phobl sy’n mwynhau’r digwyddiadau hyn, rhaid inni ofyn i’n hunain a ydyn nhw’n gwneud defnydd gwir gynaliadwy o adnoddau ac o’n hegni torfol. Nid oes dwywaith y bydd y celfyddydau yn dod â gofodau gwyrdd yn fyw mewn ffyrdd creadigol pan ddaw gwanwyn 2021, ac felly rhaid i bawb sy’n rhan o greu profiadau artistig yn y gofodau hyn feddwl am sut i wneud hynny mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol.

Rhaid i’r rheini yn ein plith sy’n gysylltiedig â buddsoddi arian cyhoeddus yn y celfyddydau (yn bobl sy’n derbyn grantiau ac yn bobl sy’n gwneud penderfyniadau) sicrhau ein bod yn deall yn glir effaith gweithgareddau celfyddydol ar yr amgylchedd, a hynny yn lleol ac yn fyd-eang.

Yn ail, ac yr un mor bwysig, rhaid i’r celfyddydau a’r economi greadigol a diwylliannol ehangach wneud cyfraniad o bwys at adrodd straeon a newid y naratifau er mwyn cyfathrebu’r ffaith bod angen mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ar frys. Mae straeon yn taro tant â chynulleidfaoedd ar lefel emosiynol ac maen nhw’n hanfodol i ysgogi newid ymddygiad.

Bydd partneriaethau rhwng sectorau yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gam cyntaf da i gyflawni’r nodau byd-eang a fydd yn cael eu trafod yn COP26 yn Glasgow.  

Mae diwylliant a’r amgylchedd yn mynd law yn llaw. Mae ein bywyd diwylliannol yn cael effaith anferth ar y blaned hon, tra bo’n profiadau ni o’n hamgylchedd yn llywio ein diwylliant a’n gwerthoedd. Byddwn yn gadael olion traed diwylliannol yn ogystal ag olion traed carbon wrth inni fyw ein bywydau. Bydd artistiaid yn gwneud hyn wrth gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac wrth ysbrydoli pobl i fod yn greadigol, ac wrth eu herio’u hunain i ymwneud â gwybodaeth yn ddeallus.

Mae iaith yn tarddu o’r tir lle caiff ei siarad. Bydd geiriau yn amlygu ecosystem a fydd hefyd yn marw os bydd iaith gynhenid sydd mewn perygl yn marw. Nid yw’r Gymraeg yn eithriad. Wrth i dai a phentrefi yng Nghymru golli’u henwau Cymraeg, gwanhau hefyd mae eu cysylltiad â’r ardal leol. Mae buddsoddi yn y Gymraeg yn golygu buddsoddi yn yr ecosystem amgylcheddol a diwylliannol leol.

Mae Cymru sy’n fwy cyfartal yn golygu llawer mwy o gyfranogiad gan bobl sydd wedi’u lleiafrifoli ym mhrosesau gwneud penderfyniadau Cymru. Yn ein gwaith rhyngwladol mae hefyd yn golygu dathlu diwylliannau’r tramorwyr ar wasgar sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru. Wrth ailfeddwl am natur ein gwaith rhyngwladol, dylai olygu symud tuag at sicrhau bod pob diwylliant yn cael ei barchu’n gyfartal yn ein cymunedau, a hynny mewn ffordd nad yw’n ymerodraethol.  Mae’n golygu cefnu ar ddiwylliant a chymdeithas batriarchaidd, a symud tuag at sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein cwmnïau, nid yn unig ymhlith y gweithlu ond o ran y swyddi uwch hefyd. Mae’n golygu cefnogi mamau (a thadau) gyda dyletswyddau gofal plant er mwyn ymgysylltu’n rhyngwladol. Mae’n golygu rhoi cyflog teg i bawb, ac i weithwyr llawrydd ac artistiaid o wledydd tlotach yn enwedig.

Mae’r celfyddydau’n cyfrannu’n sylweddol at greu Cymru iachach, fel y gwelir yn y cytundeb partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru – cytundeb sydd wedi’i roi ar brawf yn ystod pandemig Covid. Mae’r celfyddydau yn helpu i leddfu gorbryder ymhlith gweithwyr y GIG a chleifion fel ei gilydd.  Mae modd defnyddio’r celfyddydau hefyd i fynegi galar ac i greu gweithiau coffa. Mae GIG sy’n hybu lles yn hytrach nag yn trin salwch yn ffafrio dulliau creadigol o weithio, gan gynnwys grym y celfyddydau mewn meddyginiaeth ataliol a phresgripsiynu celfyddydol. Mae Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru yn dangos y gwaith aruthrol sy’n cael ei ddatblygu yng nghyd-destun Covid.

Mae anghydraddoldeb cymdeithasol wedi arwain at begynnu yn ein cymunedau, ac mae angen ailfeddwl am hen gysylltiadau cymunedol er mwyn cyflawni’r nod o greu cymunedau cydlynus. Wrth inni ailgodi’n wahanol, mae model ar gyfer democratiaeth ddiwylliannol sydd wedi’i ddatblygu gan Amgueddfa Cymru yn sicrhau bod diwylliant yn ganolog i adeiladu cymunedol, a bod cymunedau’n ganolog i bob penderfyniad. Mae nifer o wledydd fel Seland Newydd, sy’n datblygu modelau llesiant ar gyfer eu heconomïau, yn defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant i adeiladu cymunedau.  

Yn Barcelona yn 2004, lluniwyd Agenda 21 ar gyfer Diwylliant gan y sefydliad Dinasoedd a Llywodraethau Lleol Unedig (UCLG). Defnyddiodd Cymru hyn yn sail wrth iddi gyflwyno deddfwriaeth i wneud diwylliant yn bedwaredd colofn datblygu cynaliadwy yn 2015 – y wlad gyntaf yn y byd i wneud hynny. Er nad yw potensial hyn wedi’i wireddu eto, mae mwy a mwy o bobl yn prysur ddod i ddeall y potensial hwn, diolch i raddau helaeth i’r pandemig byd eang.   

Mae’r celfyddydau, oherwydd eu natur, yn golygu bod pobl yn ganolog i’r gweithgaredd. Rhywbeth y bydd pobl yn ei greu gyda phobl eraill yw diwylliant. Mae ein canolfannau celfyddydol yn ganolfannau diwylliannol cymunedol, ac mae ein neuaddau pentref yn ofodau creadigol ar gyfer cysylltu yn y gymuned ac yn rhyngwladol. Mae Cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn enghraifft berffaith o sut y gellir meithrin y byd-eang mewn gofodau cymunedol lleol.

Drwy gael nod llesiant penodol ar gyfer Diwylliant Bywiog a’r Gymraeg yn Ffynnu, nid yn unig y mae Cymru’n unigryw yn y Deyrnas Unedig, ond mae’n unigryw yn fyd-eang hefyd. Yng Nghymru, ac mewn cymunedau Cymraeg yn enwedig, bydd yr iaith a diwylliant wastad yn mynd law yn llaw. Mae hynny’n rhoi dynameg wahanol i’n bywyd diwylliannol, o’i gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Fel rhan o’r nod llesiant, mae’r Gymraeg yn iaith sy’n eiddo i bawb, i siaradwyr Cymraeg, i wrandawyr effro, i gefnogwyr, ac i’n holl ddinasyddion, os ydyn nhw’n dewis hynny. Neu o leiaf, dyna’r uchelgais sy’n sail i nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar bob corff cyhoeddus i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu, a hynny’n bywiogi’r economi Gymraeg. Mae’r datblygiad hwn yng nghyd-destun ymgyrch fyd-eang gynyddol i ddad-drefedigaethu ieithoedd a sicrhau bod hawliau ieithyddol yn hawliau dynol. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu dad-drefedigaethu’r naill iaith a’r llall, ynghyd â’r diwylliannau sy’n gysylltiedig â nhw, a chreu gofod er mwyn i Gymru fod yn werddon amlieithog ffyniannus.

Mae’r celfyddydau yn edrych ar ddad-drefedigaethu arferion drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae artistiaid yn mynd ati o’r newydd i drafod perthynas hanesyddol Cymru â threfedigaethu, ac mae dwy wedd i hynny: drwy brofiad diwylliant ac iaith sydd wedi’u trefedigaethu, ac fel rhan o ymerodraeth drefedigaethol, drwy gyfrwng yr iaith drefedigaethol. Mae hyn yn golygu bod gan Gymru berthynas unigryw â’r drafodaeth fyd-eang bresennol am ddad-drefedigaethu.  

Mae adroddiad Watch Africa Cymru yn ein hatgoffa bod “gan Gymru hanes hir o ryngwladoliaeth – fel rhan o’r ymerodraeth Brydeinig drefedigaethol, mae’n wir, ond hefyd fel cartref i gymunedau amrywiol, ac fel ffrind i ddiwylliannau, cymunedau a gwledydd dan orthrwm drwy’r byd.”

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg a’r celfyddydau. Ar y naill law, bwriedir gwneud hyn yng nghyd-destun effaith anghymesur Covid ar y Gymraeg, ac ar y llaw arall, yng nghyd-destun yr angen brys i greu maes chwarae gwastad i blant o bob cefndir a gallu, er mwyn iddyn nhw gael yr un mynediad i’r iaith drwy addysg, gan fynd i’r afael â’r argraff bod y Gymraeg yn rhwystr.   

Mae cyfrifoldeb byd-eang a chyfraniad y celfyddydau at bŵer meddal yn aml yn ddwy ochr i’r un geiniog sy’n cystadlu â’i gilydd.

Nid ymrwymiad sy’n sefyll ar ei ben ei hun yw cyfrifoldeb byd-eang, ond rhan o 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Nid yw’n rhywbeth y gellir ei osod ar wahân i’r nodau eraill. Yr hyn sy’n bwysig yw bod ein gweithredoedd yn cael effaith ar lefel leol a byd-eang. Ceir tensiwn creadigol rhwng dull llesiant Cymru ac Agenda Pŵer Meddal Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae’n gyfrifoldeb ar unigolion a sefydliadau ar y naill lefel a’r llall i ddangos parch wrth ymwneud â’i gilydd. Er bod pryderon diwylliannol dilys pan fydd y wladwriaeth yn defnyddio diwylliant pobl heb iddyn nhw gydsynio i hynny, mae gan Gymru rôl i’w chware wrth ddatblygu dull o weithio sy’n dangos cyfrifoldeb byd-eang wrth ddad-drefedigaethu ein perthnasau â gwledydd a diwylliannau eraill.

“Nid yw Cymru ar ei phen ei hun wrth wynebu heriau newid hinsawdd, anghydraddoldeb neu’r pandemig presennol. Rydyn ni’n bodoli fel rhan o’r ddynoliaeth fyd-eang, a rhaid inni ddeall ein hunain a gweithredu yn y modd hwnnw.  Ond os nad ydyn ni eisoes yn gyfartal yma yng Nghymru, sut allwn ni drin pobl eraill y tu allan i Gymru yn gyfartal, heb sôn am gredu bod gan ‘genedlaethau’r dyfodol’, sydd heb eu geni eto, hawliau? Ac felly mae’r byd-eang yn ein dwyn yn ôl at y lleol; rhaid inni wneud gwaith gartref yn union fel y gwnawn waith ar y llwyfan rhyngwladol. Nid yw’r ddau beth ar wahân.” (Adroddiad Watch Africa Cymru)

Dull gonest a thryloyw yw’r gorau yn hyn o beth.

“Os bydd gwerthoedd dynol yn cael eu cyflwyno yn fyd-eang ac yn lleol, bydd yr hyn a wnawn, a phwy ydyn ni, yn siarad drosto’i hun.” (O adroddiad Watch Africa Cymru)

Gall yr hyn y byddwn yn ei wneud â’n hamser newid pethau. Gwnewch y pethau bychain, meddai Dewi Sant. Dyna sut mae cyflawni pethau mawr.

Dyma’r camau bychain cyntaf a fydd yn creu gofod ar gyfer y camau mwy y mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ymrwymo iddyn nhw ar Ddydd Gŵyl Dewi 2021:  

1. Cam bach: Cyhoeddi a rhannu argymhellion adroddiad Watch Africa Cymru ynghylch ailfeddwl am ein gwaith rhyngwladol.

    Cam mwy: Gweithredu ar argymhellion yr adroddiad i ddad-drefedigaethu ein gwaith rhyngwladol, er mwyn creu gofodau diogel ar gyfer myfyrio, ac er mwyn edrych ar ddull rhyngblethol o ymdrin â bywyd cyfoes a diwylliannol amrywiol Cymru.  

2. Cam bach: Blaenoriaethu celfyddydau, iechyd a llesiant fel un o feysydd ein gwaith rhyngwladol

    Cam mwy: Datblygu platfformau cydweithio rhyngwladol gyda phwyslais ar y celfyddydau ac iechyd

3. Cam bach: Ymrwymo i weithio tuag at gyflwyno dull sy’n rhoi sylw i lesiant yn ein gwaith rhyngwladol, gan fesur hynny yn erbyn y Nodau Llesiant

    Cam mwy: Datblygu model llesiant cyfannol ar gyfer mesur y budd o fuddsoddi a ddaw yn sgil ein gwaith rhyngwladol. Bydd y model yn mesur effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd, a bydd yn cyd-fynd â’r saith nod llesiant.