Noson o ddawnsio, celf ac yn bwysicach ôll - snacs!

Mae’r noson yma wedi tarddu o ymchwil Cwmni Theatr Familia i mewn i heneiddio, rhywedd a dawnsio.

Dewch i ddawnsio fel bod neb yn gwylio, a dathlu difyrrwch canol oed.

Mae’r noson yma i bawb, o bob oed a rhyw. Os ydych chi fyth wedi teimlo’n bryderus mewn disgo, neu wedi meddwl nad yw noson mewn clwb nos i chi, dewch i ni gael eich perswadio’n wahanol!

Gadewch i Bronwen eich arwain ar daith ar hyd y llawr ddawns, dathlwch yr annisgwyl efo Dott Cotton, a llenwch eich bol â snacs a chacs efo Becca.

Mae hanner cyntaf y noson as gyfer cloncian a snacian, a’r ail hanner ar gyfer siglo’ch cyrff i gyfeiliant decs DJ Branwen Munn. Ac yna, fe awn ni gyd adref ar amser rhesymol! 

Manylion:

Dyddiad: Nos Sadwrn 15fed o Chwefror

Amser: 7yh - 11yh

Lleoliad: Elysium Gallery & Bar, 210 High St, Abertawe, SA1 1PE

Croeso i chi gysylltu â unrhyw gwestiynau; ein bwriad yw cynnal disgo i bob un, a bydd croeso i bawb.

There will be Snacks