Teithio a threuliau, cyfnod penodol 2 flynedd.

Amdanom ni

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cydweithio i greu, llywodraethu, arwain, rheoli a chyflwyno Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.

Drwy'r bartneriaeth hon, mae'r tri sefydliad yn ceisio cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn ei Chytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru i sefydlu prosiect blaenllaw unigryw i Gymru a fydd yn ganolbwynt i artistiaid gweledol cyfoes a chymunedau ledled Cymru, ochr yn ochr â chynulleidfaoedd rhyngwladol.

Mae sefydlu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae ganddi'r potensial i gyflawni manteision strategol sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a gwahanol bolisïau cysylltiedig eraill gan gynnwys addysg, economi ac iechyd.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cael eu nodi fel y cyrff mwyaf priodol i sefydlu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru o ystyried eu swyddogaeth strategol wrth gyflawni uchelgais diwylliannol Llywodraeth Cymru.

Mae cydweithio’n un o gryfderau hanfodol y prosiect, yn bennaf rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru (a'i amcanion i gefnogi cymuned greadigol Cymru), Amgueddfa Cymru (a'i hymrwymiad i ddemocrateiddio mynediad i gasgliad y genedl) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (a'i hamcanion i wneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb at ddibenion dysgu, mwynhau ac ymchwilio).

Ein gweledigaeth

Mae'r tri phartner yn rhannu gweledigaeth ar gyfer cyflwyno’r prosiect cenedlaethol unigryw yn seiliedig ar fodel gwasgaredig o orielau ledled Cymru sydd wedi'i gefnogi gan yr orielau lletya. Bydd yr Oriel yn gweithredu ar egwyddorion cyd-greu a chydguradu ag artistiaid cyfoes a chymunedau Cymru gan dynnu ar gasgliadau cyfoes Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a thrwy gomisiynu artistiaid.

Un o nodau craidd yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yw tyfu'r gynulleidfa ar gyfer celf weledol. Mae hyn ar sail y ddealltwriaeth bod gan gelf gyfoes apêl arbennig o gryf i gynulleidfaoedd iau a mwy amrywiol nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol mewn ffigyrau mynychu orielau Cymru. Bydd potensial y prosiect i gefnogi artistiaid ifanc a rhai newydd o bob oed yn ffocws craidd a bydd gweithgareddau'n cael eu cynllunio i sicrhau bod cynhwysiant a hygyrchedd wedi'u hymgorffori ym mhob dim a wna'r prosiect.

Bydd yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yn gwireddu'r weledigaeth hon drwy:

  • Cynyddu mynediad at gelf gyfoes i ragor o bobl ledled Cymru
  • Sicrhau bod mynediad i'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes yn rhad ac am ddim
  • Gwneud celf gyfoes yn rhan gryfach o iechyd a lles cymunedau
  • Darparu cyfleoedd dysgu, yn enwedig i bobl ifanc
  • Buddsoddi yn y seilwaith presennol i wella cyfleusterau cyfalaf
  • Buddsoddiad ychwanegol mewn arddangosfeydd a rhaglenni gwaith
  • Creu cyfleoedd i artistiaid cyfoes sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru
  • Creu swyddi newydd yn y sector
  • Proffil a statws uwch i gelf gyfoes yng Nghymru, gyda photensial ar gyfer twristiaeth leol a thwristiaeth o'r tu allan
  • Alinio â phrosiectau digideiddio presennol eraill
  • Bod yn brosiect a ddarperir ar y cyd gan y tri sefydliad partner sy'n cydweithio

Fel sefydliadau a gydnabyddir yn rhyngwladol, mae gan Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol rym sylweddol i atynnu talent arbenigol, gyda llawer o'u hadrannau yn denu ysgolheigion rhyngwladol i wneud gwaith allweddol, arbenigol. Mae gan y ddau rwydwaith rhagorol ym Mhrydain a thramor ac maent yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yng Nghymru i gysylltu ag ymgeiswyr posibl.

Cynhaliwyd ymgynghoriad sylweddol â'r sector i ddeall y galw a'r diddordeb yn natblygiad yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i  Gymru. Dangosodd yr adroddiad dichonoldeb eang gan Event yn 2018 gefnogaeth sylweddol i'r cysyniad gan leoliadau, artistiaid a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio yn y sector. Atgyfnerthwyd y diddordeb a'r parodrwydd i gefnogi'r prosiect gan yr astudiaeth ddatblygu fanwl gan y Swyddfa Pensaernïaeth Wledig.

Disgrifiad swydd

Bydd Aelodau Annibynnol yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi a chynghori Cadeirydd y Bwrdd Prosiect. Bydd y swyddi'n gofyn am unigolion hynod ymroddedig a brwdfrydig a all gefnogi ac arwain Bwrdd y Prosiect drwy'r anawsterau sy'n wynebu sector y celfyddydau gweledol yn ystod cyfnod economaidd anodd. Rydym yn awyddus i benodi o leiaf dri unigolyn sy'n ymwybodol o arwyddocâd y cyfle i greu’r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.

Gwaith yr aelodau annibynnol fydd:

Darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad effeithiol o ran rheoli, cyflwyno a llywodraethu prosiect yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.

Darparu sgiliau arbenigol i gynnig safon uchel o briodoldeb ym maes cyllid cyhoeddus a sicrhau bod gweithgareddau Bwrdd y Prosiect yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol. Yn benodol, rydym yn chwilio am sgiliau allweddol fel a ganlyn:

Arbenigedd mewn darparu prosiect cyfalaf mawr

Profiad yn y celfyddydau cyfoes

Ehangu ymgysylltiad

Codi arian a modelau ariannol cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau

Marchnata, cyfathrebu ac ymgysylltu

Manyleb y person

Disgwylir i ddarpar ymgeiswyr feddu ar y rhinweddau canlynol a dylech drafod y rhain yn eich datganiad personol a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r broses ymgeisio:

Hanfodol

Gwybodaeth helaeth o'r celfyddydau yng Nghymru a diddordeb brwd yn y celfyddydau gweledol cyfoes ac yn natblygiad swyddogaeth y celfyddydau ledled Cymru, Prydain a thramor.

Dealltwriaeth o flaenoriaethau a mentrau cyfredol Llywodraeth Cymru, Cyngor y Celfyddydau, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r ffordd orau o gyflawni'r rhain yng nghyd-destun y prosiect hwn.

Bydd disgwyl i chi hefyd feddu ar y sgiliau canlynol:

Profiad o weithio ar lefel fwrdd neu mewn sefydliad cymhleth, tebyg gyda dealltwriaeth o lywodraethu, atebolrwydd a chyfrifoldeb ariannol.

neu -

Profiad personol perthnasol a fydd yn dod â safbwyntiau newydd i'r Bwrdd. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn penodi ystod amrywiol o aelodau gydag ystod amrywiol o brofiadau a safbwyntiau. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i’r canlynol: pobl sy'n ethnig a diwylliannol amrywiol; pobl sy'n profi amddifadedd economaidd-gymdeithasol/tlodi neu sydd o gefndir dosbarth gweithiol, pobl sy'n fyddar, anabl neu'n niwroamrywiol a phobl o'r gymuned lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, drawsrywiol, hyfryd, ryngrywiol ac ati.

Mae'r term 'profiad personol’ yn canolbwyntio ar lwyfannu pobl â gwybodaeth, dealltwriaeth a safbwyntiau unigryw sy'n werthfawr i'n twf ac a fydd ein gwthio tuag at degwch a chyfiawnder cymdeithasol. Mae profiad personol yn cael ei ennill drwy gyfranogiad uniongyrchol mewn digwyddiadau a sefyllfaoedd penodol yn hytrach na thrwy gynrychioliadau a wneir gan bobl eraill.

Y gallu i feithrin cysylltiadau effeithiol a chynrychioli Bwrdd y Prosiect yn ôl yr angen.

Y gallu i weithredu llywodraethu ariannol a chraffu effeithiol.

Y gallu i feddwl yn strategol, yn greadigol ac i ddod o hyd i atebion yn ddiduedd, yn ogystal â chreu a datblygu gweledigaeth hirdymor sy'n gweithio fel rhan o dîm arwain y prosiect.

Cydraddoldeb

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl ni waeth beth fo'u hanabledd, eu rhywedd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed, eu hil, eu tarddiad ethnig neu eu credoau crefyddol.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r rhai y mae eu cefndir a/neu eu hunaniaeth yn cael eu tangynrychioli yn y celfyddydau. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i’r canlynol: y rhai o gefndir du, Asiaidd ac ethnig amrywiol; o gefndir economaidd-gymdeithasol is; pobl F/fyddar; pobl niwroamrywiol; pobl anabl neu'r rhai ag anawsterau iechyd tymor hir; pobl o'r gymuned lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, drawsrywiol, hyfryd, ryngrywiol ac ati.

Lleoliad

Ar hyn o bryd mae Bwrdd y Prosiect yn cyfarfod unwaith y mis yn rhithiol. Yn y dyfodol efallai y bydd angen iddo gwrdd mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru.

Cydnabyddiaeth

£150 pob hanner dydd

Treuliau

Gall Aelodau Annibynnol adennill arian am deithio a threuliau.

Byddwn hefyd yn darparu costau cymorth hygyrchedd personol, yn ôl yr angen.

Isafswm y dyddiau sydd eu hangen

Hanner diwrnod

Dyma leiafswm y dyddiau fesul

Mis

Y Gymraeg

Mae Bwrdd y Prosiect yn cydnabod pwysigrwydd datblygu galluoedd dwyieithog mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gwrthdaro buddiannau

Peidiwch â gwneud cais i gymryd rhan yn y gwaith hwn os ydych wedi'ch cysylltu mewn unrhyw ffordd, naill ai'n uniongyrchol neu drwy aelodau o'r teulu, ag unrhyw oriel yn rhwydwaith yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.

Sut i wneud cais

Os hoffech gael gwybod rhagor am y gwaith neu gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â menna.williams@celf.cymru

Cais drwy CV a llythyr eglurhaol byr (dim mwy na dwy ochr o A4) sy’n trafod gofynion y gwaith gyda manylion cyswllt ar gyfer dau eirda a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, fel nodyn llais neu fideo Arwyddeg, cysylltwch â ni yn gyntaf.

Hanner dydd ar 8 Medi yw’r dyddiad cau ymgeisio. Anfonwch eich cais at: menna.williams@celf.cymru

Croesawn yn gynnes geisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol. Croesawn hefyd geisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg a byddwn yn cyfathrebu â chi yn eich dewis iaith. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi gwag ar sail eu haddasrwydd ar gyfer y gwaith a dim arall.

 

Dyddiad y cyfweliad

Yn ystod yr wythnos yn dechrau 18 Medi 2023.

Pwy ydym ni?

Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn elusen annibynnol a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Mae hefyd yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru a chorff cyhoeddus swyddogol y wlad sy’n ariannu a datblygu'r celfyddydau. Mae'n ddosbarthwr swyddogol arian celfyddydol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Bob dydd, mae pobl ledled Cymru yn mwynhau ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn helpu i gefnogi a thyfu'r gweithgarwch hwn drwy ei arbenigedd strategol, ei bartneriaethau a’i grantiau. Wrth wneud hynny, mae Cyngor y Celfyddydau yn cyfrannu at ansawdd bywyd pobl ac at les diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.

Cenhadaeth bresennol Cyngor Celfyddydau Cymru yw "Gwneud y celfyddydau'n ganolog i fywyd a lles y genedl" a'i strategaeth yw:

Gwneud: meithrin talent, creadigrwydd a gallu

Cyrraedd: annog rhagor o bobl i fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau

Cynnal: cefnogi sector celfyddydol deinamig a gwydn

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio i greu amgylchedd lle mae'r celfyddydaun gallu ffynnu’n well sef un sy’n:

adnabod a meithrin talent greadigol, i'w llawn botensial, a chynnwys yn llawn gydraddoldeb ac amrywiaeth

cefnogi a dathlu dychymyg, arloesedd ac uchelgais

meithrin creadigrwydd drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg

galluogi artistiaid i ddatblygu gyrfa broffesiynol yng Nghymru a sefydliadau i fanteisio ar farchnadoedd newydd i’w gwaith

ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu eu potensial creadigol

cynnig amrywiaeth o brofiadau celfyddydol i gynulleidfaoedd i’w mwynhau a chymryd rhan ynddynt

dod o hyd i leoedd a ffyrdd newydd i bobl gymryd rhan yn y celfyddydau

edrych yn rhyngwladol i lwyddo uchelgais artistiaid Cymru

cydnabod pwysigrwydd sylfaenol cynaliadwyedd

Amgueddfa Cymru

A hithau’n gorff o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru, mae gan Amgueddfa Cymru ddyletswydd statudol ar ran y genedl. Sefydlwyd yr Amgueddfa gan Ddeddf Seneddol ym 1908 a adnewyddwyd yn ei Siarter Frenhinol yn 2006. Ei nod yw caffael a gofalu am y casgliadau cenedlaethol a sicrhau cynrychiolaeth gynhwysfawr o wyddoniaeth, celf a hanes sy’n perthyn i Gymru neu sy'n berthnasol i Gymru a’u hyrwyddo i'r cyhoedd.

Mae strategaeth newydd Amgueddfa Cymru hyd at 2030 yn nodi ei gweledigaeth:

"Mae gan bawb yr hawl i deimlo eu bod yn perthyn, i wneud synnwyr o'u gorffennol ac i weld llwybr at ddyfodol gwell. Wrth i ni fynd i afael â her ein hamseroedd, gallwn fod yn lle llawn gobaith i bobl ym mhobman. Drwy rannu creadigrwydd a chwilfrydedd ar deithiau newydd o ddarganfod, trafodaeth a llawenydd, bydd pawb ohonom yn mynd yn rhan o stori Cymru."

Dros y deng mlynedd nesaf, bydd ein staff a'n gwirfoddolwyr yn fwy presennol ym mhob rhanbarth o Gymru, gan gydweithio â phartneriaid cymunedol, amgueddfeydd ac orielau lleol, prifysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector ledled y wlad drwy: rhaglenni gydag ysgolion, cymunedau a gwirfoddolwyr; arddangosfeydd sy'n dathlu straeon pobl yng Nghymru a thramor; digwyddiadau, gweithgareddau, gwyliau ac adnoddau ar-lein; ymchwil sy'n amddiffyn yr amgylchedd ac yn adlewyrchu creadigrwydd a phrofiad bywyd pobl; rhannu casgliadau a sgiliau; cefnogi'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Ymrwymiadau Amgueddfa Cymru i 2030 yw gweithio gyda phobl a chymunedau ledled Cymru, drwy gasgliadau, rhaglenni cyhoeddus a phartneriaethau i:

Rhoi’r blaned yn gyntaf

Creu profiadau digidol

Dysgu a chreu

Cefnogi lles

Sicrhau bod pawb yn cael eu cynrychioli

Ysbrydoli creadigrwydd a dysgu am oes

Magu cysylltiadau byd-eang

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cenhadaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw casglu, cadw a rhoi mynediad i bob math o wybodaeth sydd ar glawr, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a'r Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag ymchwil a dysgu.

Yn ei Chynllun Strategol 2021-26, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn nodi'r blaenoriaethau i’w datblygu a fydd yn sicrhau ei bod yn parhau i gyflawni ei chenhadaeth yn effeithiol tan 2026 a’r tu hwnt.

Prif gyfrifoldeb y Llyfrgell yw tuag at bobl Cymru heddiw ynghyd â chenedlaethau'r dyfodol. Bydd ei gweithredoedd yn adlewyrchu'r aliniad hwn â buddiannau Cymru, ynghyd â'i chyfrifoldeb i gyflawni ei chenhadaeth yn effeithiol ac yn gynaliadwy.

Llesiant: Llyfrgell i Gymru gyfan yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae'n cyfrannu'n gadarnhaol at les byd-eang. Mae gennym gyfraniad allweddol i'w wneud wrth gyflawni saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Effaith gymdeithasol: Byddwn yn hyrwyddo cymdeithas gyfartal, deg a chynhwysol gan weithio i ddileu tlodi a darparu llwyfan a gofod diogel lle gallwn gael trafodaeth iach, onest ac agored am bob agwedd ar fywyd Cymru.

Cynaliadwyedd: Rydym yn derbyn ein cyfrifoldeb i ymateb i'r argyfwng hinsawdd byd-eang drwy liniaru effaith amgylcheddol ein gwaith.

Amrywiaeth: Wrth gasglu, cadw a rhoi mynediad at wybodaeth, rydym wedi ymrwymo i weithio tuag at amrywiaeth, gan adlewyrchu cefndir a phrofiad pobl amrywiol Cymru ac i sicrhau bod ein casgliadau a'n gwasanaethau yn hygyrch i bawb o bob cefndir a gallu.

Y Gymraeg: Byddwn yn hyrwyddo'r Gymraeg ac yn annog ei defnydd yn ein holl weithgareddau.