Ydych chi’n gweithio yn rhyngwladol yn y sector celfyddydol a chreadigol, ac yn teimlo’n ddieithr? Fe allwn ni helpu!
Gall boreau coffi ar-lein misol Gwybodfan Celf y DU greu cysylltiad rhyngoch chi, artistiaid eraill a sefydliadau creadigol yn y DU, ac yn gyfle i rannu’r heriau, y cynlluniau a’r uchelgeisiau sy’n rhan o weithio ar draws ffiniau. Mae’r boreau coffi ar agor i bob ffurf o gelfyddyd, a bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan y partneriaid a’r rhwydweithiau rydyn ni’n gweithio gyda nhw, er mwyn cael darlun cliriach a’r wybodaeth ddiweddaraf am symudedd rhyngwladol.
Bydd agenda’r sesiwn wedi’i seilio ar yr hyn fydd gennych chi i’w gynnig: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; yn fater o ddeall y datblygiadau cwarantin diweddaraf; yn helpu artistiaid i groesi ffiniau o dan y rheolau mewnfudo newydd; neu’n syml yn awydd i gysylltu â phobl eraill sy’n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o bobl sy’n gweithio yn rhyngwladol.
Mi fydd y boreau coffi yn digwydd pob Dydd Mawrth gyntaf y mis, ac yn cychwyn:
Dydd Mawrth 7 Medi | 09:30-10:30
Gallwch gofrestru yma ar gyfer unrhyw un o'r sesiynau sydd i ddod.
Darparwyd sgrindeitlo awtomatig gan Otter.ai a chyfieithu Cymraeg-Saesneg gan Cyfieithu CYMEN yn ystod y sesiwn.
Cysylltwch â ni os bydd gennych chi unrhyw adnoddau neu brofiadau yr hoffech chi eu rhannu!
Cynllun peilot yw Gwybodfan Celf y DU sy’n cael ei gynnal gan Gynghorau Celfyddydau 4 cenedl y DU, ac mae’n fan canolog ar gyfer darparu adnoddau a gwybodaeth ymarferol i artistiaid, gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau sy’n ymweld â’r DU.