Bore coffi nesaf GCDU yw:
9:30yb amser y DU | Dydd Mawrth 21 Hydref 2025
Pwnc:
Beth yw ardal Schengen? Egluro rheolau ar gyfer artistiaid a gweithwyr diwyliannol proffesiynol sy'n ymweld â’r ardal nad ydynt yn aelodau o’r UE.
Ein cyfranwyr gwadd nesaf yw:
Anita Debaere, Cyfarwyddwr PEARLE* Live Performance Europe, Beatriz Nobre, Cynghorydd Materion Ewropeaidd PEARLE* Live Performance Europe, a Sebastian Hoffmann o touring artists.
Oes gennych chi gynlluniau ar y gwell i weithio neu deithio yn yr UE? Ydych chi’n ymwybodol o reolau ardal Schengen, yr hyn y mae’n ei gynnwys a’r hyn y mae angen i artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol sy’n ymweld a gweithio yn ardal Schengen gynllunio ar ei gyfer?
Nod y sesiwn hon yw egluro beth yw ardal Schengen a chwalu’r dirgelwch ynghylch rheolau sy’n effeithio ar artistiaid sy’n ymweld. Bydd y trosolwg yn helpu dinasyddion nad ydynt yn rhan o’r UE i gynllunio ymweliad ag ardal Schengen. Er enghraifft, beth yw’r rheol 90/180-diwrnod, a sut ydych chi’n cydymffurfio? Neu pa reolau sydd ar lefel Schengen a beth sydd angen i chi ei gynllunio wedyn ar lefel genedlaethol y wlad/gwledydd rydych chi’n ymwedl â nhw?
Dyma gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am reolau ardal Schengen, gan gynnwys y System Mynediad ac Ymadael (EES) newydd sy’n cael ei gyflwyno’n raddol ar y 12fed o Hydref 2025, neu weithredu system ETIAS sydd wedi gynllunio ar gyfer 2026.
Bydd Anita Debaere (Cyfarwyddwr) a Beatriz Nobre (Cynghorydd Materion Ewropeaidd) o PEARLE* Live Performance Europe, yn ymuno â ni, yn ogystal â Sebastian Hoffmann o touring artists a fydd yn egluro rheolau ardal Schengen ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Ym mis Medi 2024, cynhaliwyd bore coffi penodol i esbonio trefniadau ffiniau newydd EES ac ETIAS yr UE, a recordiwyd a rhannwyd y sesiwn ynghyd â’r sesiwn holi ac ateb. Gallai rhain fod yn ddefnyddio i chi wylio a darllen cyn mynychu’r sesiwn hon. Gallwch ddod o hyd iddynt yma.
Mae hefyd gan PEARLE amrywiaeth o lyfrau coginio sydd wedi’u hanelu’n benodol at weithwyr proffesiynol diwylliannol sy’n gweithio ar draws ffiniau, gan gynnwys The Ultimate Cookbook for third country artists travelling to the Schengen area a The Ultimate Cookbook for Cultural Managers: third country national artists working in the EU.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio, a bydd adnoddau’n cael eu rhannu ar ein gwefan. Gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw gwestiynau sydd gennych yn rhan o’r ffurflen gofrestru neu eu danfon atom ar e-bost (infopoint@wai.org.uk) er mwyn i ni allu teilwra’r sesiwn cymaint â phosib i'ch anghenion.