2024 yw Blwyddyn Cymru yn India Llywodraeth Cymru

Mae’r celfyddydau, diwylliant a lles wedi gwneud cyfraniad o bwys at ddatblygu cysylltiadau cyfoethog a hirhoedlog rhwng Cymru ac India, a bydd y flwyddyn yn rhoi cryn bwyslais ar hyn.  

Fel rhan o’n cyfraniad ni at y rhaglen, mae British Council Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd â’i asiantaeth ryngwladol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb am gyllid i ehangu’r gweithgarwch celfyddydol penodol sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, a hwnnw i’w gynnal yn India ddiwedd 2024.  

Mae’r cyfle cyllido hwn yn ceisio cryfhau’r partneriaethau a’r trefniadau cydweithio celfyddydol sy’n bodoli’n barod rhwng Cymru ac India mewn meysydd blaenoriaeth penodol. Mae’r cyfle ar agor i unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ym myd y celfyddydau yng Nghymru.  

 

Y cyllid sydd ar gael:  

Mae gennyn ni gyfanswm o £80,000 ar gael.  

Rydyn ni’n rhagweld rhoi rhwng 4-6 o ddyfarniadau, a’r rheini’n werth hyd at £20,000 yr un.  

 

Y meini prawf i fod yn gymwys:  

I fod yn gymwys i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (DOD), bydd yn rhaid bodloni’r amodau canlynol: 

  1. Bydd gennych chi bartner yn India a bydd perthynas weithgar yn bodoli rhyngoch chi ar hyn o bryd 
  2. Byddwch chi’n gallu darparu’r gweithgarwch arfaethedig yn India gyda’ch partner rhwng mis Hydref 2024 a mis Ionawr 2025 
  3. Byddwch chi’n ymarferydd unigol yn y celfyddydau neu’n sefydliad celfyddydol, a byddwch chi wedi’ch lleoli yng Nghymru  

 

Y blaenoriaethau a’r meini prawf ar gyfer asesu:   

Byddwn ni’n asesu ceisiadau ar sail y canlynol:  

  • Cryfder eich cynnig ar y cyd â phartner yn India. Bydd perthynas weithgar rhyngoch ar hyn o bryd sydd o fudd i’r ddwy ochr, ynghyd â gwahoddiad i gydweithio 
  • Sut y bydd y gweithgarwch arfaethedig yn ehangu cyrhaeddiad prosiect presennol neu’n datblygu elfennau newydd i drefniant cydweithio diweddar neu un sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd 
  • Y gallu i gyflawni’r gweithgarwch arfaethedig yn India rhwng Hydref 2024 a Ionawr 2025 
  • Sut y bydd y gweithgarwch arfaethedig yn cyrraedd cynulleidfaoedd yn India  
  • Sut y byddwch chi’n gwreiddio egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn yr holl broses o gynllunio a darparu’r gweithgarwch arfaethedig  

Bydd angen i chi hefyd ddangos y bydd y gweithgaredd celfyddydol yn cyd-fynd ag o leiaf un o’r blaenoriaethau canlynol: 

  • Bydd y gweithgarwch i’w gynnal yn un neu ragor o ranbarthau canlynol Gogledd-ddwyrain India, lle ceir cysylltiad diwylliannol eisoes â Chymru: Manipur, Meghalaya, Mizoram a Nagaland.  
  • Bydd pwyslais ar iaith, a all gynnwys ieithoedd lleiafrifol neu frodorol ac amlieithrwydd 
  • Bydd pwyslais ar y celfyddydau, iechyd a lles 
  • Ar y cyd â’ch partner, bydd y gweithgarwch yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd a chyfrifoldeb byd-eang drwy gydweithio artistig 

Ar gyfer gweithgarwch sydd y tu allan i gwmpas y cyllid penodol hwn, efallai y byddwch chi’n gymwys i wneud cais am gymorth drwy Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Bydd cyfleoedd i wneud cais am gyllid yn y dyfodol ar gyfer gweithgarwch yng Nghymru gyda phartneriaid yn India, a hynny i’w gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2025.

 

Pwy sy’n gallu gwneud cais:  

Mae’r gronfa ar agor i unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, ac sydd â phartneriaeth artistig weithgar ar hyn o bryd yn India.

 

Sut i wneud cais:  

  • Llenwch y ffurflen fer i ddatgan diddordeb a’i dychwelyd i info@wai.org.uk erbyn 26 mis Gorffennaf 2024 

 

Beth fydd yn digwydd nesaf:  

Bydd eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei adolygu gan British Council Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyda chymorth gan British Council India a Llywodraeth Cymru India. Byddwn ni’n defnyddio’r blaenoriaethau a’r meini prawf a nodwyd i greu rhestr fer o’r cynigion.  

Os byddwch chi’n cyrraedd y rhestr fer, byddwch chi’n cael eich gwahodd i ddatblygu cynllun a chyllideb eich gweithgarwch cyn i ni wneud penderfyniad terfynol ar y gweithgarwch y gallwn ni’i gefnogi.  

 

Yr amserlen:  

  • Y dyddiad cau i gyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb: 26 mis Gorffennaf 2024 
  • Hysbysiad o dyfarniadau mewn egwyddor: 5 Awst 2024 
  • Ar gyfer dyfarniadau mewn egwyddor - cyflwyno cyllideb fanwl, cynllun gweithgaredd ac amserlen: erbyn 12 Awst 2024 
  • Hysbysiad o dyfarniadau terfynol: 14 Awst 2024 

 

Y ffurflen i ddatgan diddordeb 

Yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol amdanoch chi’ch hun fel ymgeisydd, bydd angen i chi hefyd ateb y cwestiynau canlynol:  

  1. Rhowch wybod i ni am eich partner yn India a’ch perthynas â’r partner hwnnw (200 gair)  
  2. Amlinellwch beth fyddwch chi’n ei wneud yn ystod y prosiect (300 gair) 
  3. Amlinellwch sut y mae’r cynnig yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a’r meini prawf a geir yn y canllawiau  gan ymateb i o leiaf un o'r blaenoriaethau (300 gair)  
  4. Faint y mae’r prosiect yn debygol o’i gostio? A fydd incwm arall (yn ariannol neu heb fod yn ariannol) yn dod o ffynonellau eraill?  
  5. A fyddwch chi’n gwneud unrhyw ystyriaethau ynghylch cydraddoldeb a hygyrchedd?  
  6. Pryd rydych chi’n rhagweld y bydd y prosiect yn cael ei gynnal yn India?  Cadarnhewch y bydd y prosiect yn digwydd rhwng Hydref 2024 ac Ionawr 2025 

 

Cwestiynau:  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â info@wai.org.uk    

Gadewch i ni wybod os hoffech gyflwyno'r DOD mewn ffurf arall.