Ar ôl haf bendigedig llawn heulwen, mae Dysgu Creadigol Cymru yn falch o groesawu athrawon a dysgwyr yn ôl i'n hysgolion ar draws y wlad, gyda rhaglen newydd o weithgareddau. Yn ogystal â pharhad ein cronfeydd Rhowch Gynnig Arni ac Ewch i Weld, rydym yn falch o lansio ein rhaglenni newydd: Archwilio, Arbrofi ac Arbenigo. Cymerwch olwg ar yr hyn sydd ar gael i weld ble all y daith Dysgu Creadigol eich arwain chi eleni.

Archwilio

Mae Archwilio yn rhaglen ddysgu broffesiynol ysbrydoledig, rhad ac am ddim i athrawon, staff cymorth ac arweinwyr ysgolion ledled Cymru sy’n awyddus i addysgu gyda phwrpas, angerdd a chreadigrwydd. Dan arweiniad Hwyluswyr Hyfforddiant Dysgu Creadigol arbenigol, mae Archwilio

yn cynnig sesiynau ymarferol sy’n canolbwyntio ar wreiddio creadigrwydd ar draws y cwricwlwm, llythrennedd, ac iechyd a lles, i gyd wedi’u seilio ar ein dull Dysgu Creadigol.

Nid yw hwn yn brofiad dysgu proffesiynol arferol. Mae Archwilio yn eich gwahodd i gamu y tu allan i’r hyn sy’n arferol ac i arbrofi gyda dulliau addysgu ffres a chreadigol. P’un a ydych yn newydd i Ddysgu Creadigol neu’n awyddus i ddyfnhau eich ymarfer, byddwch yn gadael yn llawn egni, cymhelliant a syniadau ymarferol y gallwch eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Disgwyliwch brofiad dysgu llawen a myfyriol, yng nghwmni cymuned gefnogol o addysgwyr sy’n rhannu’r un feddylfryd.

Mae Archwilio ar agor i bob addysgwr sy’n gweithio mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion cynradd, uwchradd, a sefydliadau addysgu arbenigol. P’un a ydych yn ymuno am y tro cyntaf neu’n dychwelyd, mae croeso i bawb.

Themâu 2025–26:

* Tymor yr Hydref: Dysgu Creadigol ar draws y Cwricwlwm

* Tymor y Gwanwyn: Dysgu Creadigol ar gyfer Llythrennedd

* Tymor yr Haf: Dysgu Creadigol ar gyfer Iechyd a Lles

Os ydych yn barod i gynnau fflam eich angerdd dros addysgu, dysgu dulliau newydd sy’n unol â’r Cwricwlwm i Gymru, a mwynhau diwrnod o ddysgu llawn creadigrwydd, bwyd da a chwerthin — yna mae Archwilio ar eich cyfer chi.

Mae’r broses gofrestru ar gyfer Hydref 2025 bellach ar agor. 

Cofrestrwch heddiw drwy ein tudalen gyllid: Archwilio 

Arbrofi

Mae Arbrofi yn cynnig grantiau i ysgolion cynradd, uwchradd a sefydliadau addysgu arbenigol sy’n awyddus i ailfeddwl sut mae addysgu a dysgu’n digwydd. Mae’n gwahodd ysgolion i gydweithio gyda Phartner Dysgu Creadigol i gyd-ddylunio a chyflwyno profiadau dysgu drwy ddull ymholiad mewn modd creadigol, a pherthnasol i’r byd go iawn.

Dyma gyfle i wneud effaith ystyrlon ar eich dysgwyr drwy arbrofi gyda dulliau dysgu newydd ym meysydd llythrennedd, iechyd a lles, a dysgu creadigol ar draws y cwricwlwm. Byddwch yn cael eich cefnogi i gymryd risgiau creadigol, i ddatblygu gwell ymgysylltiad a sbarduno eich angerdd tuag at addysgu — i gyd tra’n gweithio ar flaenoriaethau datblygu eich ysgol.

Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn derbyn 10 diwrnod o gefnogaeth gan Bartner Dysgu Creadigol, grant o £2,000 ar gyfer adnoddau ychwanegol, ymarferwyr creadigol neu deithiau, a mynediad at ddysgu proffesiynol. Bydd yr ymholiad yn cael ei lunio gan leisiau eich dysgwyr a blaenoriaethau eich ysgol, gan esblygu o fod yn dudalen wag i fod yn brofiad addysgol trawsnewidiol.

Mae Arbrofi yn agored i bob ysgol a gynhelir ac ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol, gan gynnwys sefydliadau addysgu arbenigol. Nid oes angen profiad yn y Celfyddydau Mynegiannol — mae creadigrwydd yn sgil bywyd hanfodol ac yn berthnasol ar draws pob maes dysgu.

P’un a ydych yn newydd i Ddysgu Creadigol neu’n dychwelyd i ddyfnhau eich ymwybyddiaeth, dyma’ch cyfle i arbrofi, addasu, myfyrio a thyfu.

Dyddiad cau: 12yh, Dydd Iau 16 Hydref 2025

Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n tudalen gyllid: Arbrofi

Arbenigo – Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol

Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol, a gyflwynir mewn partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, yn gyfle wedi’i ariannu i gefnogi arweinwyr ysgolion yng Nghymru sy’n awyddus i archwilio dulliau arweinyddiaeth a dysgu creadigol arloesol. Os ydych yn arweinydd canol neu uwch — neu’n dyheu i fod — ac yn awyddus i ddod â’r Cwricwlwm i Gymru’n fyw mewn ffyrdd ymgysylltiol a dilys, mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle unigryw i wneud hynny.

Bydd cyfranogwyr yn dechrau gyda sesiwn hyfforddiant deuddydd dan arweiniad y tîm Arweinyddiaeth Greadigol. Wedi hynny, bydd pob arweinydd ysgol yn gweithio gydag Asiant Creadigol fydd yn gweithredu fel hyfforddwr a ffrind beirniadol, gan gynnig cefnogaeth wedi’i theilwra dros gyfnod o 23–26 wythnos. Gyda’ch gilydd, byddwch yn archwilio dulliau newydd o weithio, yn myfyrio ar eich ymarfer, ac yn meithrin hyder mewn arweinyddiaeth greadigol. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau rhwydweithio a sesiwn rannu derfynol i gysylltu â chydweithwyr a rhannu manylion am eich profiad.

Mae’r rhaglen ar agor i arweinwyr ym mhob Maes Profiad Dysgu — nid dim ond y Celfyddydau Mynegiannol — ac ar gael i’r rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar neu ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae croeso arbennig i geisiadau gan unigolion o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol.

Darperir costau ar gyfer staff cyflenwi ar gyfer mynychu’r hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio a’r sesiwn rannu derfynol. Er nad oes grant uniongyrchol i ysgolion, mae’r amser gyda’ch Asiant Creadigol yn hyblyg ac wedi’i gynllunio i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau presennol. Sylwch mai cyfrifoldeb yr ysgol yw costau teithio a chynhaliaeth.

Dyddiad cau: 12yh ar 22 Hydref 2025

Am fanylion pellach, ewch i’r dudalen gyllid: Arbenigo 

Dysgu Creadigol Cymru: Ysbrydoli Creadigrwydd, Trawsnewid Addysg