Mae partneriaethau ym mhob rhan o’n sectorau celfyddydol, iechyd a gofal cymdeithasol a’r  trydydd sector yn cael eu hannog i wneud cais am arian newydd i gyflwyno prosiectau creadigol sy'n mynd i'r afael â phroblemau iechyd y wlad, wrth i Gymru barhau i arwain y ffordd wrth arloesi ym maes y celfyddydau ac iechyd.

Agorwyd y bumed rownd o arian loteri i’r celfyddydau, iechyd a lles ar 7 Rhagfyr ac mae'n cau ar 18 Ionawr 2023. Mae'r gronfa, sydd ar agor dair gwaith y flwyddyn, yn buddsoddi'n flynyddol mewn prosiectau celfyddydol ac iechyd ledled Cymru.

Mae'r gronfa, sydd wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys rhaglen ganu ar gyfer cleifion coronafeirws hir a phrosiect dawns ar gyfer staff gofal cymdeithasol, yn un o sawl datblygiad sylfaenol yn y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru a gyflawnwyd ers i Gyngor Celfyddydau Cymru lofnodi memorandwm o ddealltwriaeth gyda Chydffederasiwn GIG Cymru yn 2018, esboniodd Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru.

"Y pandemig a gyflymodd y galw a’r angen am weithgareddau creadigol sy'n cefnogi iechyd a lles   pobl yn ystod y cyfnod anodd hwn," meddai Ms Lewis.

"Sbardun arall oedd y pwysau cynyddol ar y GIG yng Nghymru i ganolbwyntio ar ofal ataliol sy'n cynnwys y celfyddydau mewn ffordd ddefnyddiol i gefnogi cleifion mewn lleoliadau gofal cymunedol a gofal sylfaenol."

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn cyflogi o leiaf un cydlynydd ym maes y celfyddydau ac iechyd i hwyluso rhaglenni creadigol i gleifion a staff mewn lleoliadau ysbyty a chymunedol, gyda thair blynedd o gymorth ariannol gan raglen adeiladu gallu Cyngor Celfyddydau Cymru

I gefnogi staff iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod cyfnod anodd, creodd Cyngor Celfyddydau Cymru y Cwtsh Creadigol, casgliad o adnoddau llesiant creadigol dwyieithog a gefnogir gan rai o brif artistiaid y genedl. Hefyd ariannodd Cyngor Celfyddydau Cymru brosiect i gefnogi anghenion lles artistiaid ar ôl y pandemig a nifer o raglenni rhagnodi cymdeithasol a'i bartneriaeth Celf a’r Meddwl  gyda Sefydliad Baring ac mae pob un o fyrddau iechyd Cymru yn ariannu ymyriadau creadigol sy'n cefnogi iechyd meddwl staff iechyd a gofal yn ogystal â chleifion ledled Cymru.

Mae Rhwydwaith Celfyddydau dros Iechyd a Llesiant Cymru wedi ymdrawsnewid. Ar un adeg cyfarfod rhwng ychydig o unigolion ydoedd ac erbyn hyn mae’n gorff hyfforddi a datblygu gyda mwy na 600 o aelodau.

"Mae corff cynyddol o dystiolaeth i brofi bod yn greadigol weithgar yn gallu ein helpu i gadw'n iach, ac rydym wedi canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth am y dystiolaeth honno ymhlith ymarferwyr meddygol ac yn enwedig ar gefnogi prosiectau arloesol yn y celfyddydau ac iechyd fel y gall mwy o bobl ledled Cymru fwynhau'r manteision," meddai Ms Lewis.

"Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i adeiladu’n gyflym iawn yr ymarfer gorau sydd wedi’i hir sefydlu yn y maes gan nifer bach o ymarferwyr ymroddedig ond heb gael ei gydnabod yn ddigonol. Ni allwn aros i weld beth a ddaw yn y pum mlynedd nesaf."

Mae rhagor o wybodaeth am gronfa Loteri'r Celfyddydau, Iechyd a Lles, gan gynnwys sut i ymgeisio, ar gael yma.