Llwyddodd dros 100 o artistiaid i gael gwaith wedi'i dderbyn i'r 15fed Arddangosfa Gelfyddydol 'Agored' yng Nghelfyddydau Canolbarth Cymru. Mae’n arddangosfa fawr ac eang sy’n rhoi cyfle i gynifer o artistiaid a’r cyhoedd rannu a mwynhau eu llwyddiannau; mae gan bob artist unigol rywbeth gwahanol i'w ddweud, mae'r orielau yn llawn paentiadau gwreiddiol, printiau, tecstiliau, cerfluniau, gwydr, ffotograffiaeth a serameg gydag adran 'Gwnaed yng Nghaersws' ac arddangosfa gan Turnwyr Pren Canolbarth Cymru.
Meddai'r trefnydd Cathy Knapp Evans: Mae'r rhan hardd hon o Ganolbarth Cymru yn drysorfa o greadigrwydd, ac roedd ein harddangosfa Agored gyntaf yn 2008 yn cynnwys paentiad o'r enw 'There is Gold in them over hills' gan Elizabeth Hancock o Lanfair Caereinion. Rwy’n siŵr mai’r aur yr oedd hi’n cyfeirio ato oedd yr unigolion dawnus, creadigol sy’n canfod eu ‘Hiraeth’ yn y dirwedd hudolus hon.
Arddangosfa Agored y Nadolig yn Celfyddydau Canolbarth Cymru, Caersws, Powys SY17 5SB
Prynwch a cymerud adref ar y diwrnod!
Dydd Iau-Sul 11-4 tan 17eg Rhagfyr