Ceisiwn roi syniadau newydd ar waith i gysylltu â phobl leol a gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau.

Ar 1 Medi 2022 yr agorwn rownd 4 o Gysylltu a Ffynnu ag arian y Loteri Genedlaethol i annog cydweithio rhwng sefydliadau, cymunedau, unigolion a gweithwyr creadigol.

Bydd cyfle ichi ddatgan eich diddordeb yn y cyfnod 20 Medi tan 5pm ar 11 Hydref 2022. Wedyn caiff y rhai llwyddiannus gyflwyno cais llawn yn Ionawr 2023.

Mae’r gronfa’n fodd i bobl o gymunedau a dangynrychiolir benderfynu sut y cânt arwain a mwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Hoffem ariannu prosiectau sy'n meithrin partneriaethau hir dymor i gysylltu â chymunedau. Mae'n cynnig rhwng £10,000 a £150,000 dros gyfnod o hyd at 24 mis.

Lansiwyd y gronfa yn hydref 2020. Erbyn hyn mae wedi ariannu 71 prosiect â thros £6.5 miliwn gan greu cyfleoedd hygyrch i glywed lleisiau newydd yn y celfyddydau. Pwysleisia:

  • cydweithio
  • perchnogaeth gymunedol
  • democratiaeth ddiwylliannol
  • cydraddoldeb
  • amrywiaeth
  • gwaith teg
  • bod dan arweiniad artistiaid

Mae canllawiau’r gronfa ar ein gwefan ac mae enghreifftiau o'r prosiectau a lwyddodd hyd yn hyn yma.

Cyn agor rownd 4, cynhaliwn 2 ddigwyddiad yn y misoedd nesaf lle cewch wybodaeth am y gronfa a’i blaenoriaethau a phrofiadau'r prosiectau. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau.

Bydd y digwyddiad cyntaf ar-lein am 10am ar 7 Gorffennaf, a'r ail ar 6 Medi am 2pm. Gallwch gadw lle yma.