Cadarnhaodd adroddiad newydd heddiw fod menter flaenllaw y celfyddydau ac iechyd wedi helpu i wella iechyd a lles cleifion y GIG, staff a'r boblogaeth ehangach.

Cyflwynodd y Rhaglen Adeiladu Gallu ymhlith Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd swyddi cydlynu ym maes y celfyddydau ac iechyd ym mhob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

Ymhlith y llwyddiannau niferus a amlygwyd yn y gwerthusiad dros dro* mae prosiectau sy'n cefnogi pobl hŷn sydd mewn perygl o syrthio, plant a phobl ifanc sy'n byw gydag anhwylderau bwyta, oedolion sy’n profi unigrwydd ac unigedd, a staff y GIG sydd wedi profi trawma.

Roedd y rhaglen wedi’i sefydlu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2018 o ganlyniad i dystiolaeth gynyddol o'r effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael ar iechyd a lles. Gwahoddwyd pob bwrdd iechyd i wneud cais am dair blynedd o gyllid hedyn, gyda'r nod y gallai’r swyddi fynd yn rhai parhaol gydag arian y GIG. Lle roedd swyddi cydlynwyr y celfyddydau ac iechyd eisoes yn bodoli, roedd y rhaglen yn cynnig cyfle i fyrddau iechyd gynyddu eu gallu a'u cyrhaeddiad drwy ehangu eu tîm ym maes y celfyddydau ac iechyd.

Er bod byrddau iechyd i gyd ar wahanol gyfnodau ar eu taith gelfyddydol ac iechyd, mae adroddiad heddiw yn dangos tystiolaeth o gyfraniad cadarnhaol y swyddi at iechyd corfforol a meddyliol cleifion a'r boblogaeth yn ehangach ar wahanol gamau o'u gofal - o atal salwch hyd at driniaeth ac adferiad – yn ogystal ag at les y staff.

Mae canfyddiadau'n dangos bod y rhaglen wedi codi hygrededd y celfyddydau ac iechyd ar draws y system iechyd a gofal, gan arwain at ddarparu gweithgareddau ym maes y celfyddydau ac iechyd o ansawdd da a helpu i ddatblygu strategaethau ym maes y celfyddydau ac iechyd mewn rhai byrddau iechyd a chefnogi blaenoriaethau'r byrddau iechyd.

Meddai Dr Clive Grace OBE, o Wasanaethau Ymchwil ac Ymgynghori y Deyrnas Unedig: "Roeddem yn falch iawn o gynnal y gwerthusiad oherwydd bod tystiolaeth sylweddol eisoes yn dangos bod gwerth o ran cyd-weithio rhwng y Celfyddydau ac Iechyd i allu cynhyrchu gwerth mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd. Fodd bynnag, mae dod o hyd i ffyrdd o ysgogi a lluosi'r gwerth hwnnw'n fater arall, ac un sy'n dibynnu ar saernïo ymyrraeth sy'n gweddu i'r GIG yng Nghymru, a'r ffordd y mae'n gweithio, wrth gyflawni manteision creadigrwydd ac o gynnig profi’r Celfyddydau yn eu holl ffurfiau."

Dywedodd Nesta Lloyd–Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cydffederasiwn GIG Cymru: "Mae'r adroddiad gwerthuso yn dystiolaeth o'r swyddogaeth hollbwysig mae cydlynwyr
y Celfyddydau ac Iechyd yn ei chwarae i gefnogi iechyd a lles y bobl yng Nghymru.

"Mae Cymru'n arwain y ffordd o ran gwreiddio'r celfyddydau ar draws y gwasanaeth iechyd, gyda dealltwriaeth gynyddol o'r effaith y gall y celfyddydau ei chael wrth wella canlyniadau iechyd, gwrthsefyll anghydraddoldeb a chynyddu ymgysylltiad cymdeithasol.

"Mae arweinwyr y GIG yn cydnabod bod angen i'r celfyddydau fod yn rhan o'r ateb wrth ymateb i'r gofynion ar draws y system yn awr ac yn y dyfodol. Rhaid i ni weithio gyda phartneriaid ar draws ffiniau'r sector i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn".

Meddai Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant yng Nghyngor Celfyddydau Cymru: "Mae cael cydlynydd y Celfyddydau ac Iechyd ym mhob bwrdd iechyd yn ased unigryw i'r GIG yng Nghymru ac yn un sy'n haeddu cael ei hyrwyddo a'i sicrhau yn y dyfodol. Mae cydlynwyr mewn sefyllfa berffaith i ddeall blaenoriaethau iechyd presennol ac ymateb gyda gweithgareddau sy'n cefnogi iechyd a lles cleifion, staff a chymunedau.

"Rydym am ddiolch yn arbennig i'r cydlynwyr celfyddydau ac iechyd am eu hymrwymiad gwych a'u gwaith arloesol wrth i ni ystyried argymhellion yr adroddiad i gryfhau'r rhaglen ymhellach. Mae'r adroddiad hwn yn ein hysbrydoli i archwilio gyda phartneriaid yn ein byrddau iechyd sut y gallwn yn awr brif ffrydio'r swyddi hyn fel swyddi parhaol yn y GIG fel y gall y celfyddydau wneud y cyfraniad mwyaf grymus posibl at iechyd a lles pobl ledled Cymru."
 

Mae'r adroddiad ar gael o wefan Conffederasiwn y GIG yng Nghymru.

DIWEDD    7 Tachwedd 2022