Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cynnig grantiau amodol gwerth bron i £30m i 81 sefydliad yn dilyn proses Adolygiad Buddsoddi 2023.
Mae’r Adolygiad Buddsoddiad yn darparu cyllid aml-flwyddyn i sefydliadau, gan ddosbarthu gwerth £29.6m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Bydd 23 o sefydliadau yn cael cynnig cyllid aml-flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru am y tro cyntaf. Mae’r sefydliadau hyn wedi eu lleoli ledled Cymru ac yn darparu celfyddydau o’r safon uchaf. Mae rhai o’r sefydliadau newydd hyn yn cynnwys Galeri Elysium yn Abertawe, FOCUS Wales yn Wrecsam, Neuadd Ogwen ym Methesda ac Urban Circle yng Nghasnewydd.
Fe wnaeth Cyngor Celfyddydau Cymru dderbyn y nifer uchaf erioed o geisiadau yn yr hyn a ddisgrifiodd fel “proses eithriadol o gystadleuol”.
Cafodd sefydliadau wneud cais yn ymateb i Chwe Egwyddor Cyngor Celfyddydau Cymru – Creadigrwydd, Ehangu Ymgysylltiad, Y Gymraeg, Cyfiawnder Hinsawdd, Meithrin Talent a Thrawsnewid.
Roedd y broses o wneud penderfyniadau hefyd yn ymgorffori pum ffactor cydbwyso: Gwasanaethu cymunedau ledled Cymru; Ystod eang o gelfyddydau a chyfleoedd creadigol; Lleisiau sy’n cael eu tanariannu sydd ddim yn cael eu clywed; Gwerth cyhoeddus; Maint a ffurf sefydliadau oedd yn ymgeisio.
Gan adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Celfyddydau Cymru i Ehangu Ymgysylltiad, bydd yr Adolygiad Buddsoddi hefyd yn arwain at gefnogi amrywiaeth ehangach yn y celfyddydau yng Nghymru. Bydd cyllid yn cael ei gynnig i sefydliadau ag arweiniad sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd a diwylliant, ac ar gyfer cynyddu cynrychiolaeth gan bobl B/byddar ac anabl.
O gymharu â rowndiau blaenorol, bydd mwy o sefydliadau Cymraeg sydd ag arweiniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael cynnig cyllid, gan gynnwys Theatr Soar ym Merthyr Tudful ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog, Pen Llŷn.
Bydd dros £10.5m o arian Adolygiad Buddsoddi yn mynd i leoliadau ledled y wlad, gan ddod â chelfyddyd a chreadigrwydd i galon ein cymunedau.
Mae’r rhai fydd yn derbyn cyllid yn cynnwys Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n rheoli theatrau mewn sawl awdurdod lleol: Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl; Neuadd Tref Maesteg a Neuadd y Gweithwyr ym Mlaengarw; y Metropole yn Abertyleri; ac Y Muni Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf.
Yn ogystal ag arian i leoliadau, mae £4m wedi ei roi i'r Theatr a bron i £2.5m i Gelfyddydau Cymunedol.
Gan gydnabod bod bylchau, neu lai o ddarpariaeth celfyddydol mewn rhai ardaloedd, mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi cyhoeddi’r bwriad i roi arian i Ymyriadau Strategol, sef cyfres o brosiectau fydd yn darparu cefnogaeth ychwanegol i rai ardaloedd neu i ffurfiau ar penodol ar y celfyddydau. Mae’r ymyriadau hyn yn cynnwys cefnogi RAMPS Cymru i gynyddu cynrychiolaeth pobl anabl ym myd y theatr, ac adolygiad o gerddoriaeth draddodiadol.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae’r Adolygiad Buddsoddi hwn yn cynrychioli newid cadarnhaol iawn i’r celfyddydau yng Nghymru, a fydd yn arwain at gyfleoedd newydd i bobl o bob cefndir allu cymryd rhan yn y celfyddydau a mwynhau creadigrwydd o’r safon uchaf.
“Cawsom y nifer uchaf erioed o geisiadau am gyllid, a hynny gan 139 o sefydliadau cymwys.
“Rydym yn hynod falch o allu cynnig arian i 81 sefydliad ledled Cymru, er ein bod yn cydnabod nad oes modd i ni ariannu pawb, na chyllido pob sefydliad i’r lefel y bydden nhw’n ddymuno.
“Bydd y penderfyniad i beidio parhau ag ariannu rhai sefydliadau’n siŵr o arwain at drafodaeth eang, un y byddwn yn ei chroesawu – er y bydd ein Ymyriadau Strategol yn ymateb i unrhyw fylchau fydd yn cael eu creu mewn ambell faes o ganlyniad i’n penderfyniadau.
“Un ffordd yn unig o ariannu’r celfyddydau yw’r Adolygiad Buddsoddi, a gefnogir ynghyd â’n rhaglenni Dysgu Creadigol, Celfyddydau ac Iechyd, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a Noson Allan, yn ogystal â chyfleoedd cyllido eraill, gan gynnwys Camau Creadigol, y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, a Creu.”
- Mae’r adroddiad ac atebion i gwestiynau cyffredin ar gael yma.
- Mae gwybodaeth am y sefydliadau sy’n derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar hyn o bryd nad oedd eu ceisiadau yn llwyddiannus i’w gweld ar dudalen 5 yr adroddiad.
- Mae crynodeb o’r Ymyriadau Strategol rydym yn bwriadu eu cynnal i’w gweld ar dudalen 46 yr adroddiad.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu eisiau trefnu cyfarfod gyda chynrychiolydd o Gyngor Celfyddydau Cymru, danfonwch ebost at adolygiadbuddsoddi@celf.cymru
- Bydd unrhyw gynnig o gyllid aml-flwyddyn yn ddibynnol ar ein setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru ac felly’n gynigion amodol yn unig, ac angen cael eu trin felly. Bydd y cynigion ar gyfer 2024/25 yn cael eu cadarnhau yn dilyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru 2024/25.
- Cyngor Celfyddydau Cymru yw corff cyhoeddus ar gyfer ariannu a datblygu’r celfyddydau. Rydym yn galluogi pobl ledled Cymru i fwynhau ac i gymryd rhan yn y celfyddydau. Gwnawn hyn drwy ddefnyddio’r arian cyhoeddus sydd ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddosbarthu’r arian a gawn gan y Loteri Genedlaethol. Mae’r celfyddydau’n cyfrannu’n gadarnhaol at ansawdd bywyd ac at lesiant diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.