Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r gofodau celfyddydol a’r sefydliadau fydd yn elwa o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf gwerth £8 miliwn yn sgil galwad agored am geisiadau ym Mehefin.
Roedd 68 cais i’r gronfa, sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda 40 yn cael cynnig arian i fuddsoddi yn syth er mwyn creu’r buddion economaidd a chymdeithasol mae’r celfyddydau a diwylliant yn eu cynnig ledled y wlad.

Ymysg y lleoliadau allweddol ar draws Cymru sydd wedi derbyn arian ar gyfer prosiectau cyfalaf ar raddfeydd amrywiol fel rhan o’r rownd yma mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Y Mwni, Pontypridd, Pafiliwn y Grand, Porthcawl, Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Canolfan Soar, Merthyr Tudful, Canolfan Ucheldre, Caergybi, Chapter, Caerdydd , Oriel Elysiwm (safle siop JT Morgan gynt), Abertawe, Llantarnam Grange, Cwmbrân, Memo Trecelyn, Oriel Plas Glyn y Weddw, Pwllheli, Pontio, Bangor, Theatr y Sherman, Caerdydd, Y Stiwt, Rhosllannerchrugog, Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, Theatr Felin-fach, Ceredigion, Theatr Gwaun, Abergwaun, Theatr Mwldan, Aberteifi, Theatr y Torch, Aberdaugleddau, Tŷ Pawb, Wrecsam, Venue Cymru, Llandudno, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd a Chanolfan Gelfyddydol Glannau Gwy, Llanfair ym Muallt.
Mae sefydliadau celfyddydol eraill hefyd wedi cael arian i ailddatblygu ac uwchraddio gan gynnwys cynnal astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau digidol. Yn eu plith mae Gwobr Artes Mundi, Avant Cymru, Wrecsam, Artistiaid Trefiwt, Caerdydd, Cerddoriaeth Gymunedol Cymru, Merthyr Tudful, Frân Wen, Bangor, Hummadruz, Caerdydd, Tŷ Newydd Llenyddiaeth Cymru, Gwynedd, Cerddoriaeth Fyw Nawr Cymru, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Celfyddydau Ieuenctid Cymru, PeopleSpeakUp, Sir Gâr, Theatr Byd Bach, Ceredigion, Neuadd Ogwen, Bethesda, Tanio, Pen-y-bont ar Ogwr, Theatr Cymru, Theatr Iolo, Caerdydd a’r Volcano Theatre Company, Abertawe.
Mae restr lawn o bob sefydliad sydd wedi cael arian i’w gweld yma
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru,
"Dangosodd ymateb y sector yr angen mawr am yr arian yma i gynnal a datblygu ein lleoliadau i greadigrwydd a chymunedau ffynnu ar hyd a lled Cymru. Mae'n amlwg bod angen cynnal a gwella'r adeiladau pwysig hyn a gwella eu cynaliadwyedd amgylcheddol. Mewn rownd gystadleuol, roeddem yn falch o weld cynifer o gynlluniau cyffrous gan gynnwys rhai nad oedd modd eu hariannu y tro yma, yn anffodus. Diolch i Lywodraeth Cymru am wneud hi’n bosib i ni gynnig y gronfa yma. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd y prosiectau’n ei chael."
Meddai’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Jack Sargeant:
"Mae'r buddsoddiad o £8 miliwn yn dangos ein hymrwymiad cadarn i gefnogi sector y celfyddydau a diwylliant bywiog Cymru. O leoliadau eiconig fel Canolfan Mileniwm Cymru a Chanolfan Gelfyddydol Pontio, drwy sefydliadau rhanbarthol pwysig fel Venue Cymru, Canolfan Ucheldre yng Nghaergybi ac Oriel Elysiwm yn Abertawe, i drysorau cymunedol fel Pafiliwn y Grand Porthcawl, Sefydliad Glowyr Coed Duon a Theatr Mwldan, mae'r 40 sefydliad sydd wedi cael arian yn cynrychioli calon ddiwylliannol Cymru ledled y wlad.
"Mae ehangder y prosiectau sy’n cael eu cefnogi’n ariannol - o ailddatblygu lleoliadau mawr i fentrau trawsnewid digidol - yn adlewyrchu ein cydnabyddiaeth bod angen cefnogaeth hyblyg ar sector y celfyddydau i gwrdd â heriau'r 21ain ganrif. P'un a yw'n gwella hygyrchedd a chynaliadwyedd amgylcheddol neu ymgymryd â thechnolegau newydd, bydd y buddsoddiad yn helpu ein sefydliadau diwylliannol i ymaddasu a ffynnu wrth gynnal eu rhan hanfodol ym mywyd Cymru. Dwi'n arbennig o falch o weld arian yn cyrraedd ein prif sefydliadau diwylliannol yn ogystal â’r rhai ar lawr gwlad i sicrhau manteision y buddsoddiad i gymunedau ledled Cymru."


Ychwanegodd Sarah Ecob, Pennaeth Gwasanaeth - Yr Economi a Diwylliant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
"Newyddion cyffrous iawn yw cael y gefnogaeth yma gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yr arian yn cefnogi camau cyntaf ein prosiect Dyfodol Venue Cymru ac mae'n rhan allweddol o weddill yr ariannu. Bydd y gwaith sy’n deillio o grant Cyngor y Celfyddydau yn cynnwys cynllun newydd i'r awditoriwm gyda seddi newydd, ac uwchraddio ein seilwaith technegol. Bydd y prosiect yn ffordd o greu Hwb Diwylliant arloesol i adeiladu ar ein gwaith o ddod â phobl at ei gilydd, dathlu a chefnogi creadigrwydd a diogelu ein gwasanaethau am flynyddoedd lawer i ddod."
Ewch i'n tudalen Ariannu i gael gwybod mwy am ein rhaglenni ariannu diweddaraf.