Mae'n fenter gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy’n cael ei rheoli gan Greu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru. Mae rhagor na 35,000 o unigolion â cherdyn Hynt a thros 40 o leoliadau’n rhan o’r cynllun. 

logo hynt

Os oes gennych gerdyn, mae’r hawl gyda chi i gael tocynnau am ddim i'ch cydymaith. Dechreuodd y cynllun i ddatrys problemau ymarferol sy’n codi wrth i bobl anabl weld perfformiadau.

Roedd mab awtistig Martin Lewis wrth ei fodd yn mynd i'r theatr. Ond oherwydd bod angen cydymaith arno, aeth y cwbl yn ddrud. Roedd hefyd yn hen drafferth esbonio bob tro beth oedd gofynion ei fab. 

Eglurodd Martin:

"Roeddwn wedi cael llond bol ar ailadrodd yr un peth dro ar ôl tro. Nid oedd cwsmeriaid anabl yn cael eu trin yn deg. Ateb y theatrau o hyd oedd, “Mae'n rhaid i bawb dalu. Hyd yn oed os ydych yn gydymaith i rywun anabl.” Felly cysylltais â Chyngor Celfyddydau Cymru a dyna oedd y dechrau. Ers hynny mae’r cynllun yn tyfu a thyfu ac erbyn hyn mae’n genedlaethol. Gallwch fynd â chydymaith gyda chi ac mae’ch holl ofynion mewn cronfa ddata ganolog. Dwi’n falch bod cynghorau celfyddydau eraill Prydain wedi gweld gwerth Hynt. Mae llawer rhagor o bobl nawr yn cael gwasanaeth da drwy ddefnyddio’r cerdyn. Mae lle o hyd i wella pethau ac nid yn unig yn y celfyddydau ond ym maes twristiaeth a chludiant hefyd.” 

Mae bod yn rhan o rwydwaith Hynt hefyd o fudd i'r lleoliadau celfyddydol. Mae’n cynnig cyfleoedd hyfforddi a digwyddiadau ac mae gan Hynt wefan sy'n helpu pobl i gynllunio eu hymweliad gyda gwybodaeth am hygyrchedd a rhestrau o berfformiadau hygyrch.

Dywedodd Diane Hebb, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru: 

"Mae'n amlwg bod y cynllun wedi cael cryn effaith ar y rhai sydd â cherdyn. Yn ôl  adroddiad Creu Cymru, nododd 81% o bobl â cherdyn fod Hynt wedi cynyddu eu cysylltiad cymdeithasol a bod 85% yn dweud bod Hynt yn hwyluso gwahodd cydymaith i ddod gyda nhw i'r theatr. Ond mae budd i'r lleoliadau hefyd. Maent yn dweud bod y cynllun yn eu helpu i adnabod eu cwsmeriaid a’u hanghenion yn well." 

Meddai Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr Creu Cymru sy'n rheoli'r cynllun ar ran y Cyngor:

"Dwi’n falch ein bod yn dathlu 10 mlynedd o Hynt. Mae ei heffaith yn fawr ar brofiad pobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol dros y degawd. Mae'n ffordd i’r lleoliadau celfyddydol gynnig gwasanaeth mwy cyson i'n haelodau a'u cymdeithion gan roi gwybodaeth a sgiliau newydd i’w staff. Mae'n dymchwel y rhwystrau i bobl anabl fwynhau profiadau celfyddydol. Rydym yn falch o chwarae rhan wrth wneud diwylliant yn decach a mwy hygyrch. Bydd yn gyffrous gweld Hynt yn datblygu dros y degawd nesaf a’r tu hwnt." 

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant, 

Pan gafodd ei ffurfio, roedd Hynt yn unigryw ledled y DUei datbly, wedi ei ddatblygu mewn ymateb uniongyrchol i brofiad ymwelydd anabl â theatrau Cymru. Cymerodd Cyngor Celfyddydau Cymru y cam dewr o fynd i'r afael â'r diffyg cysondeb yn y polisïau am docynnau i ymwelwyr anabl ledled Cymru ac erbyn hyn mae'n gyflawniad arbennig i nodi bod dros 35,000 o ddeiliaid cardiau ledled Cymru sydd yn medru ymweld ag unrhyw un o thua 40 lleoliad trwy’r wlad. 

Wrth i'r cynllun ddathlu 10 mlynedd, rydym yn falch o weld mai Hynt yw'r sylfaen y bydd cynllun ledled y DU bellach yn cael ei ddatblygu arni. Da iawn!"

Am ragor o wybodaeth am Hynt, ewch i www.hynt.co.uk