Mae gwaith a theithiau rhyngwladol wedi bod yn ganolog i'r celfyddydau hyd hyn. Ydy hyn ar fin newid?

Ymunwch â ni wrth i ni drafod ail-feddwl gwaith a theithio rhyngwladol ar Ddydd Gwener 26 Tachwedd 10:15-11:15am GMT.

Cofrestrwch ar blatfform Fresh Water isod er mwyn cael mynediad i ddigwyddiadau byw ac ar alw.
Gallwch ffeindio'r digwyddiad yma o fewn y rhaglen trwy ddewis Nov 26.

Mae trafodaethau o gwmpas ail-feddwl gwaith rhyngwladol yn y celfyddydau, a'r cysyniadau weddol newydd o 'deithio araf', wedi'i fframio gan yr heriau sy'n wynebu rhan fwyaf o artistiaid sy'n ceisio dechrau, neu ail-ddechrau eu gyrfaoedd rhyngwladol. Heriau fel yr argyfwng hinsawdd, Brexit, y pandemig byd-eang, ymarferion trefedigaethol, ac anghydraddoldeb.

Yn agor y sesiwn, bydd Alison Woods (NoFit State) a Gift Chansa (Circus Zambia), gyda'i brofiadau o 'Drum Up a Circus', cydweithrediad a thaniodd ail-feddylio gwaith rhyngwladol y sefydliad. Yn 2020, pan nad oedd yn bosib i NoFit State teithio i Zambia, roedd rhaid i'r cwmni newid ei ffordd o weithio'n gyfan gwbl. Hyd hynny, daeth mwy na 70% o incwm y cwmni o deithiau rhyngwladol. Nawr, mae'r dull 'lleol byd-eang' yn sicr yn codi'r llen, hyd yn oed os yw'r rhwystrau maent yn eu gwynebu yn teimlo, ar adegau, fel bod y sioe wedi'i stopio.


Eluned Haf (Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) sy'n cynnal y digwyddiad, ac mi fydd nifer o arbenigwyr yn ymuno:

Cyfarwyddwr Gweithredol Theatre Forum (TFI) yw Anna Walsh - sef sefydliad adnoddau celfyddydau perfformio Iwerddon. Mae TFI yn gweithio'n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Creative Carbon Scotland, er mwyn cynhyrchu rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau ar gyfer eu haelodau. Mae Anna hefyd yn gyd-sefydlydd Green Arts Initiative yn Iwerddon.

Yn wreiddiol o ganolbarth Cymru, Cyfarwyddwr Gweithredol NoFit State Circus ers 2006 yw Alison Woods. Yn flaenorol, bu Alison yn gweithio fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr cwmnïau ar draws Cymru, Lloegr, Ffrainc a'r hen Iwgoslafia.

Mae Ben Twist yn cyfuno'i brofiad helaeth fel cyfarwyddwr theatr ac arbenigedd yn yr argyfwng hinsawdd wrth gynnig theori cymhlethdod i systemau cymdeithasol. Mae ei gwaith wedi gweld datblygiad Creative Carbon Scotland fel arweinydd yng nghefnogaeth dechnegol er mwyn i sefydliadau diwylliannol addasu a gostwng carbon, a datblygu eu rôl ddylanwadol wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Circus Zambia yw Gift Chansa. Mae ei sefydliad yn datblygu sgiliau pobl ifanc ac yn cynnig cefnogaeth addysgol, a chyfleoedd cyflogaeth trwy syrcas. Cynhyrchydd ac awdur yw Gift, gyda diddordeb mewn cydweithredu rhyngwladol a phrosiectau creadigol.

Mae Gwendolenn Sharp, Sylfaenydd The Green Room, yn datblygu strategaethau er mwyn creu newid amgylcheddol yn y diwydiant cerddoriaeth trwy weithio gyda sefydliadau diwylliannol rhyngwladol, gwyliau, a chyrff anllywodraethol. Mae ganddi brofiad amrywiol ar draws rheolaeth teithiau, cynhyrchu, dyluniad prosiect, a chydweithio rhyngwladol.

Wedi'i gefnogi gan On The Move (rhwydwaith gwybodaeth symudedd rhyngwladol) a Gwybodfan Celf y DU, byddwn yn ystyried y cyfleoedd newydd ac ymarferol a fydd yn dod o ail-feddwl gwaith rhyngwladol. Dyma'r drafodaeth gyntaf o bedwar a fydd yn gatalydd ar gyfer sgyrsiau eraill ar draws Iwerddon, Gogledd Iwerddon, a'r Alban.