Bywgraffiad

Mae Lal Davies yn wneuthurwr ffilmiau o dreftadaeth De India a De Iwerddon. Ganwyd tair cenhedlaeth o'u theulu Indiaidd yng ngogledd Cymru ers mudo i'r Deyrnas Gyfunol ym 1919. Mae dull sefydledig Lal yn defnyddio naratif person cyntaf a ffilmiau dogfen byr am gyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig cydraddoldeb hil, cyd-destunau addysg a threftadaeth, a dull celf amlddisgyblaethol yn defnyddio ffilm, ffotograffiaeth a barddoniaeth. Mae Lal wedi dangos ei gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac wedi ennill gwobr (EMWWAA) Ethnic Minority Welsh Women Achievement Association am ei chyfraniad at Gelf a Diwylliant yng Nghymru.

Disgrifiad

Mae Lal yn archwilio hanes diwydiannol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, gan ganolbwyntio ar ddad-drefedigaethu'r cysylltiadau ag ymerodraeth ac adlewyrchu ar dreftadaeth a stori mudo ei theulu ei hun o India i Gymru yn rhan o'r cyd-destun ehangach hwn.

Ymhlith straeon eraill, mae Lal yn edrych ar sut y gwnaeth ingotau copr a allforiwyd i India er mwyn cynhyrchu gwrthrychau pres greu cyfoeth enfawr i Abertawe, a rhoi'r llysenw Copperopolis i'r ddinas. Fel llawer o deuluoedd diasporaidd o India, daeth teulu Lal â gwrthrychau pres gyda nhw o India i Gymru.

"Mae fy ngwaith yn defnyddio gwrthrychau hanesyddol fel drws i straeon personol a chymdeithasol, ac mae fy nghefndir yn dangos sut y gall hunaniaeth Gymreig fod yn gymhleth ac yn amlhaenog. Mae Safbwynt(iau) yn blatfform i ychwanegu fy llais i at ymdrechion Cymru i ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030, drwy gyfrwng gwaith ffilm a gweledol."

- Lal Davies