Manon Awst
Artist yw Manon Awst sy’n byw yng Nghaernarfon ac yn creu cerfluniau a gwaith safle-benodol wedi eu plethu a naratifau ecolegol. Mae ei dulliau rhyngddisgyblaethol o weithio wedi eu ffurfio gan ei magwraeth yng ngogledd-orllewin Cymru, a’i hastudiaethau academaidd mewn Pensaernïaeth (Prifysgol Caergrawnt) ac Ymchwil Artistig (Royal College of Art, Llundain).
Mae’r ffordd y mae deunyddiau'n glynu at leoliadau a chymunedau ac yn eu trawsnewid yn ganolbwynt i’w hymchwil greadigol. Mae ei diddordeb mewn daeareg a strwythurau dwfn tirweddau yn ei helpu i d ffyrdd newydd o weithio â deunyddiau cerfluniol, ac mae ei gwaith diweddar wedi ei seilio ar werth ecolegol a diwylliannol mawndiroedd.
Yn ddiweddar derbyniodd wobr i artistiaid gan yr Henry Moore Foundation ac roedd hi’n rhan o gynllun Ymarferwyr Celf Gyhoeddus Up Projects yn 2022. Mae ganddi waith yn rhan o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llywodraeth Prydain a Senedd Cymru ac mae gosodiadau parhaol ganddi ar Lwybr Arfordir Cymru yn Nant Gwrtheyrn ac yn Rosa-Luxemburg-Platz, Berlin.
Cheryl Beer
A hithau’n gweithio mewn ecolegau bregus, mae Cheryl Beer, yr Artist Sain Amgylcheddol sydd wedi ennill clod rhyngwladol, yn rhoi diben newydd i gymhorthion clyw a thechnoleg fiofeddygol er mwyn cyfansoddi cerddoriaeth sy’n dilyn biorhythmau dirgrynol y byd naturiol. O’i symffoni, Cân y Coed, gyda Choedwigoedd Glaw Cymru, i gelfyddyd sain wedi’i chreu o recordiadau gwyddonol o forfilod orca ym mhegynau iâ Antarctica wrth i’r rheini doddi, mae gan Cheryl ddiddordeb yn y berthynas rhwng sain, lles a’r amgylchedd. Mae ei gwaith yn ein hatgoffa o ymgyrchu tawel ond dwys, a hynny drwy greu ymdeimlad angerddol o le.
'Wrth i natur fy siglo, fe wnes i benderfyniad ymwybodol i symud o le oedd ar chwâl i le oedd yn iacháu, gyda’r bwriad o dalu yn ôl i’r byd naturiol drwy’r hyn y mae’n ei ddysgu i ni am ddwyochredd pethau. Ymarfer creadigol oedd hyn i ddechrau i ddygymod â cholli fy nghlyw yn sydyn, ond tyfodd hynny’n organig yn ymgyrch ryngwladol, a honno’n grymuso ecolegau bregus ac yn cydnabod pa mor frau ydyn ninnau fel rhan o’r rheini.’
Zillah Bowes
Artist a gwneuthurwr ffilmiau amlddisgyblaethol yw Zillah Bowes. Mae’n gweithio ym maes ffilm, ffotograffiaeth, barddoniaeth, gosodiadau a cherflunwaith. Gan ymchwilio’n ysbrydol i’r newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth, mae ei gwaith yn aml yn edrych ar y berthynas rhwng yr unigolyn a’r amgylchedd naturiol.
Enillodd ei gwaith Green Dark Wobr Ffotograffiaeth Ryngwladol y British Journal of Photography a Gwobr Brynu Amgueddfa Cymru yn 2022. Enillodd ei gwaith Allowed wobr Edition 365 a Gwobr Ffotograffiaeth Ryngwladol y British Journal of Photography yn 2021. Enillodd ei ffilm Allowed, sy’n defnyddio ffotograffau animeiddiedig 3D, y Jury’s Stellar Award yng Ngŵyl Ffilmiau Thomas Edison a gwobr y Ffilm Orau yn Focus CYMRU yn 2022.
Mae Zillah wedi cymryd rhan mewn rhaglenni gydag Art School Plus, Cove Park, FLAMIN/Film London, g39, Hypha Studios a Jerwood Arts. A hithau wrthi’n datblygu ei ffilm nodwedd gyntaf, enillodd ei ffilm ffuglen fer, Staying/Aros Mae, y Grand Jury Prize yn Premiers Plans Angers a chafodd grybwylliad arbennig yng Ngŵyl Ffilmiau Encounters yn 2021.
Eric Lesdema
Artist gweledol ac addysgwr yw Eric Pascal Lesdema. Mae ei waith yn cael ei ddosbarthu gan DACS Artimage. Mae ei waith ym maes delweddau symudol a ffotograffiaeth wedi’i arddangos yn eang mewn gwyliau a sefydliadau, gan gynnwys DokumentART; Video-Archaeology; Format, Derby; ICA; Standpoint; MKG; Towner; Blue Sky, Oregon; CAS, Osaka; Margate Contemporary; Lux, Llundain. Yn 2021, cyhoeddodd Intellect y gyfres a enillodd Wobr UN Nikon, Fortunes of War: Photography in Alter Space, a gafodd ei golygu gan Alfredo Cramerotti.
Mae ar hyn o bryd yn gweithio gydag aelodau’r Academi Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Ymhlith prosiectau diweddar mae Calling gyda Criw Celf Canolbarth y De a Pontio Cenedl gydag ymgyrchwyr diwylliannol ifanc o Flaenau Ffestiniog, Aberdâr, y Rhondda a De Caerdydd. Mae’n trin a thrafod ac yn croniclo’r defnydd o bethau dros dro yn y celfyddydau, a goblygiadau rhesymegol yr ideoleg hon.
Alison Neighbour
Artist a senograffydd yw Alison. Mae ei gwaith sy’n ymateb i safleoedd yn tyfu’n organig o’r llefydd a’r cymunedau sy’n gysylltiedig â phob darn o waith. Mae ganddi ddiddordeb mewn amser, diffyg sefydlogrwydd, a chyd-greu defodau.
Dechreuodd ymarfer Alison ym myd y theatr, ac ers hynny mae hi wedi camu y tu hwnt i lefydd perfformio traddodiadol, gan ailfframio gofodau ar gyfer perfformiadau ac ymwneud cymdeithasol sy’n edrych ar y cysylltiadau rhwng pobl, llefydd ac amser. Yn ei holl waith, bydd y gynulleidfa ei hun yn dod yn gyfranogwyr, a’r rheini’n ganolog i’r senograffiaeth a’r ddramayddiaeth ehangach. Mae ei gwaith wedi ymddangos ar lwyfannau o’r Coed Duon i Lundain, Efrog Newydd a Singapore, yn ogystal ag ar draethau o Forgannwg i’r Sundarbans; mae wedi ymddangos mewn tai hanesyddol ac ar wyneb oesol clogwyni sialc.
Mae Alison hefyd yn artist preswyl yn Pervasive Media Studio; mae hi wedi cyd-greu Hyfforddiant Llythrennedd Carbon i ddylunwyr theatr; ac mae’n Ddarlithydd Cysylltiol mewn Senograffiaeth yn Central St Martins.
Simmy Singh
Feiolinydd a chyfansoddwraig o Gymru yw Simmy Singh; mae hi hefyd yn Ymgyrchydd Daear. Ei chenhadaeth yw defnyddio grym aruthrol cerddoriaeth i helpu pobl i ailgysylltu â’u hunain, â’i gilydd, ac â’r byd naturiol. Drwy ei cherddoriaeth, mae Simmy yn graddol ddarganfod sain sy’n ymgorffori’r holl gerddoriaeth sydd wedi dylanwadu arni. Mae hi’n credu’n angerddol bod ailgysylltu â byd natur yn hollbwysig er mwyn achub ein hunain ac achub y blaned hon. Mae hi wedi ymrwymo i ddefnyddio ei cherddoriaeth, yn ogystal â’r holl brosiectau y mae hi’n rhan ohonyn nhw, i helpu yn hyn o beth. Mae hi’n feiolinydd ac yn arweinydd llawrydd llewyrchus, ac yn ceisio defnyddio ei statws yn y cyd-destun hwn fel grym sy’n ysgogi newid a gweithredu cadarnhaol. Mae hi’n Gydymaith Creadigol yn Sinfonia Cymru ac ymddangosodd yn ddiweddar ar Sky Arts wrth arwain y gerddorfa mewn gwaith beiddgar a ailddychmygai Y Pedwar Tymor gan Vivaldi, a hynny ochr yn ochr â’r offerynnwr taro, Delia Stevens. Fe wnaethon nhw ailweithio’r darn eiconig hwn er mwyn ei wneud yn fwy perthnasol i’r tymhorau rydyn ni’n eu profi heddiw. Mae hi’n mwynhau treulio cymaint o amser â phosibl yn Mary, ei fan, gan chwarae a chanu o amgylch y tân a chysylltu â phobl eraill a’r Fam Ddaear.
Julia Thomas
Cyfarwyddwr a dramäydd o Lanelli yw Julia Thomas. Mae hi’n arbenigo mewn ysgrifennu newydd, theatr i’r teulu, a datblygu artistiaid. Hi a sefydlodd y Canoe Theatre, gan ddatblygu model teithio ar gyfer theatr ddwyieithog sy’n ystyriol o ddementia, ac mae hi wedi creu gwaith ledled y Deyrnas Unedig. Bu Julia yn Gyfarwyddwr Preswyl yn The National Theatre Studio, yn Gyfarwyddwr Preswyl RTYDS yn Curve Leicester, yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn National Theatre Wales ac yn Gynhyrchydd Datblygu Artistiaid a Gwaith Newydd yn Curve. Mae Julia yn aelod o’r Director’s Lab yn y Lincoln Center Theater yn Efrog Newydd, a chafodd nawdd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i gymryd rhan ym mhrosiect Making Theatre in a Time of Change Lab, gan gydweithio â phobl greadigol o dros 60 o wledydd. Mae Julia wedi ymrwymo i ehangu a gwella’r posibiliadau ar gyfer cymryd rhan yn y celfyddydau, gan edrych ar hyn drwy iaith, ystyr a theimlad. Mae ei gwaith yn edrych ar gymunedau, hapusrwydd a gwerth adfywio sy’n seiliedig ar ddiwylliant, ac mae cysylltiad cynhenid rhwng hynny a byd natur a meddwl am y dyfodol.
Iestyn Tyne
Magwyd Iestyn Tyne yn Llŷn ond mae bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Mae’n llenor, yn gerddor, yn gyfieithydd ac yn artist. Mae ei gyfrolau diweddar yn cynnwys Dysgu Nofio (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2023), Unspecified Spaces (Broken Sleep Books, 2023), a Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022) a gyd-olygwyd gyda Darren Chetty, Grug Muse a Hanan Issa. Yn ei holl waith, mae’n archwilio syniadau am ofod, perthyn a chymuned. Yn Cofrodd (2021), lluniodd fap sain ar sail pererindod wythnos ar droed o’i gartref yng Nghaernarfon i’w fan genedigol yn Ynys Enlli, gan godi ysbrydoliaeth o’r dirwedd, y bobl a’r ecoleg ar hyd y ffordd. Yn Llif (2023), egin y prosiect y mae’n gobeithio ei ehangu ar gyfer y Gymrodoriaeth hon, mae’n ystyried symudiad cenedlaethau o bobl dros un llain bychan o dir sydd wedi’i seilio’n agos ar ei gymuned fagwraethol ym Moduan, Llŷn.