Oes angen i mi uwchlwytho CV?

Gallwch, os oes gennych chi CV diweddar, ond nid yw'n ofyniad.

Sut ydw i'n gwybod a yw fy ffurflen wedi’i chyflwyno?

Dylech dderbyn hysbysiad naid sy’n ymddangos ar unwaith i gadarnhau'r cyflwyniad. Wedyn cewch e-bost i'r cyfeiriad e-bost a roesoch yn Adran 1: eich manylion. Os yw'r cyfeiriad e-bost yn anghywir, ni chewch yr e-bost cadarnhau. Ond dylech o hyd gael yr hysbysiad sy’n neidio i’ch sgrin ar adeg gyflwyno. Os na chawsoch yr un o'r rhain, ni chafodd eich ffurflen ei chyflwyno.

Pam na fydd fy ffurflen mynegi diddordeb yn cyflwyno’n iawn?

  • Ydych chi wedi llenwi’r holl feysydd gofynnol? Gallwch glicio'n ôl drwy'r ffurflen i weld
  • Gwiriwch fod rhifau ffôn, cyfeiriadau ac e-byst yn gywir. Mae eu fformat yn adnabod cyfeiriadau a rhifau ffôn Prydain
  • Ydy’r ffeiliau a uwchlwythir yn fwy na 25MB? I wirio hyn, dilynwch y camau yma:

Lleoliad y ffel> Clicio’r dde > Dewis priodweddau > Dewis tab y manylion a sgroliwch i lawr i weld maint y ffeiliau

Er gwybodaeth, 1000 KB = 1 MB. Bydd y fwyaf o ddogfennau fel eich CV a datganiadau ysgrifenedig fod tua 100 KB

  • Os yw eich ffeil yn gigabytes (GB), bydd yn rhy fawr i'w huwchlwytho ac mae angen ei lleihau
  • Ceisiwch dynnu lluniau o’ch dogfennau cyn eu huwchlwytho i’w lleihau
  • Rhowch gynnig ar gopïo a gludo'r testun i ddogfen Word newydd

Sut ydw i'n cadw fy ffurflen ac yn ailddechrau wedyn?

Mae modd clicio ar Gadw/Ailgydio ar waelod pob tudalen o'r ffurflen. Wrth glicio arno, cewch y dewis o dderbyn dolen ailgydio. Cadwch hon yn ddiogel a dylech ddewis derbyn y ddolen drwy e-bost. Sicrhewch fod eich e-bost yn gywir a gwiriwch ei fod wedi cyrraedd cyn ichi gau'r ffurflen.

Pam nad yw'r ddolen ailddechrau ffurflen yn gweithio?

Wrth ddechrau'r ffurflen, mae gennych 30 diwrnod i'w llenwi. Bob tro yr arbedwch y ffurflen bydd y cloc 30 diwrnod yn ailgychwyn. Os na ddefnyddiwch y ddolen cyn daw’r 30 diwrnod i ben, bydd y ffurflen yn darfod ac ni fydd modd ei chael yn ôl.

Caeais y ffurflen ar ddamwain cyn imi ei chadw. Beth gallaf ei wneud?

Ewch i'ch porwr a chliciwch ar y llinell â 3 dot yn y gornel dde uchaf. Dewiswch 'hanes' a dylai eich ffurflen fod yno. Ond bydd hyn i gyd yn dibynnu ar osodiadau eich porwr. Os nad yw yno, yn anffodus bydd yn rhaid ichi ddechrau ffurflen o’r newydd.

Beth yw’r ymrwymiad amser disgwyliedig dros y 12 mis?

Chwiliwn am ystod o unigolion sydd â sgiliau, arbenigedd a phrofiad personol ar draws sawl maes i’n cynorthwyo gyda phrosiectau dros y 12 mis nesaf. Cynigiwn y cyfleoedd pan godant. Nodwn y meini prawf ar gyfer pob cyfle ac ystyriwn y mynegiadau o ddiddordeb wrth ddyrannu’r gwaith.

Mae rhai cyfleoedd wedi codi’n barod ond mae popeth yn dibynnu ar y mynegiadau a gawsant. Efallai yr awn ati i fireinio’n bellach y rhestr fer. Caiff ymgeiswyr wybod am gyfleoedd a’r manylion y gwaith. Gall yr ymgeiswyr wedyn gadarnhau a ydynt ar gael. Dosbarthwn y gwaith mor deg â phosibl, yn enwedig pan fo nifer o ymgeiswyr yn addas.

Ni allwn warantu rhoi gwaith i unrhyw un.

 

Dwi’n byw y tu allan i Brydain. A allaf ymgeisio am hyn?

 

Gallwch, cyn belled â bod gennych yr hawl i weithio ym Mhrydain. Ond mae’n bosibl y cewch broblemau wrth lenwi'r mynegiad o ddiddordeb ar-lein heb gyfeiriad neu rif ffôn ym Mhrydain. I gael gwybod sut i ymgeisio felly, cysylltwch â: cydweithwyr@celf.cymru

 

Dwi'n gweithio i sefydliad yn y Portffolio. A allaf ymgeisio?

 

Gallwch.