Mi benderfynais fynd am rywbeth fymryn yn wahanol ar gyfer un dewis. Sefydlwyd Running Punks gan Jimmy a Rhodri - dau hen ffrind o Gymru a oedd yn arfer chwarae mewn band gyda’i gilydd. Grŵp rhedeg fyd-eang yw Running Punks erbyn hyn a ddechreuwyd gyda’r nod o gyfuno budd rhedeg a cherddoriaeth i iechyd. Er i Jimmy fod yn rasiwr proffesiynol llwyddiannus iawn yn y gorffennol (nodir iddo dorri sawl record genedlaethol a chystadlu ar lefel rhyngwladol), nid oedd yr un ohonynt yn ystyried eu hunain yn rhedwyr traddodiadol. Er hyn, roeddent â gwir ddealltwriaeth o ba mor bwerus y gallai rhedeg fod, nid yn unig o safbwynt iechyd corfforol, o ran iechyd meddyliol hefyd.  

Yr hyn a oedd yn gwneud Running Punks yn grŵp gwahanol iawn oedd y modd iddynt gyfuno eu cariad tuag at redeg a cherddoriaeth mewn ffordd mor greadigol gan ddenu llawer iawn o bobl i ymuno a nhw. O safbwynt cerddorol, nododd Jimmy nad oedd e o angenrheidrwydd yn berson a oedd yn mwynhau gwrando ar restrau chwarae ond ei fod wir yn mwynhau'r broses a’r siwrnai o wrando ar albwm yn ei chyfanrwydd. Yn ystod y cyfnod clo, penderfynodd ddefnyddio’r cysyniad o wrando ar albwm newydd a’r egni y cai o’r profiad bob tro yr aeth i redeg, ac allan o hyn fe ddechreuodd adolygu cerddoriaeth hen a newydd. Yn y fideo isod fe welwch Jimmy yn adolygu albwm Bato Mato gan Adwaith.