Wrth ddewis cynnwys mi oeddwn yn awyddus iawn i ymgymryd at y thema o oleuni mewn modd gwbl lythrennol, a’r dewis hwnnw yw Gardd o Gysgodion gan yr artist Jony Easterby a’i gwmni Trophic Cascade. Mae’r gwaith yn osodiad ac yn sioe olau a gyflwynwyd yng Ngerddi Botaneg Genedlaethol Iwerddon yn Nulyn ym mis Medi 2023. Ysbrydolwyd yr artist wedi iddo gymryd rhan mewn preswyliad ar hen ffarm ger Llanandras. Roedd wedi’i leoli mewn adeilad heb drydan lle cafodd y cyfle i ddysgu mwy am symudiad ac ansawdd golau naturiol a’r modd y mae’n rhyngweithio gyda’r tirwedd gan daflu cysgodion o’r ardd ar yr adeilad. Mae’r gwaith (gweler y fideo isod) yn ddathliad o brydferthwch natur ac yn fodd o daweli'r bryd wrth feddwl am ddyfodol y blaned a’i phobl. 

Wrth geisio dadansoddi beth yn union sy’n ein galluogi i ennyn gobaith, o safbwynt gweledol fe fyddai’n aml yn troi at olau a’r cysyniad o oleuni a’r hyn y mae’n ei gynrychioli. Yn sicr fe allai rhywun ddadlau fod yna elfen ysbrydol i hyn, ond o’n safbwynt i, y nod gyda’r dewis yma oedd ceisio cyfleu’r syniad yma o oleuni a gobaith mewn modd gwbl lythrennol. Hynny yw, dangos pŵer goleuni i oleuo’r tywyllwch, i amlygu’r llwybr ac i’n hatgoffa fod yna brydferthwch o’n cwmpas, hyd yn oed yn ystod cyfnodau llwm (gweler y llun isod). Nodir y gwnaeth Jony dderbyn cymorth ariannol gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru i wneud gwaith ymchwil ar gyfer y prosiect hwn, ond nid ar gyfer y gwaith gorffenedig a welir yn y fideo a’r llun. 

Gwefannau & Gwefannau Cymdeithasol  

Gwefan: www.jonyeasterby.co.uk  

Instagram: @jonyeasterby 

X: @EasterbyJony 

 

Ani Glass yw ein curadur gwadd ar gyfer #PethauBychain 2024. Darllenwch mwy am y thema a'r prosiectau eraill a ddewiswyd yma: