Roeddwn yn awyddus iawn i ddenu sylw at y byd cyhoeddi wrth guradu cynnwys Pethau Bychain. Mae Codi Pais yn lyfryn-gylchgrawn ac arddangosfa symudol gan ac i ferched Cymru sy’n cael ei gyhoeddi dan arweiniad creadigol y gantores, bardd ac awdures aml-dalentog - Casi Wyn. Mae’n blatfform sy’n amlygu ac yn dathlu creadigrwydd merched Cymru, yn curadu ac yn arddangos celf mewn modd cyfredol, ac erbyn hyn hefyd yn cynnal cymuned ddynamig a byw i artistiaid o Gymru a thu hwnt. Nid yw’r ffocws chwaith yn cael ei gyfeirio at yr elfen weledol o gelf a chelfyddyd yn unig, mae’r cylchgrawn hefyd yn gweithio i ddenu sylw at achosion a digwyddiadau pwysig gan greu gofod saff a chroesawgar i artistiaid ymateb mewn modd creadigol. 

Mae pob rhifyn sy’n cael ei gyhoeddi yn dilyn thema benodol, a’r thema diweddara (a hynod amserol) yw heddwch - gweler y clawr isod a ddyluniwyd gan yr artist Sioned Medi. Mae gweld artistiaid yn defnyddio ei egni creadigol i fynegi eu teimladau a’i barn ynghylch erchyllterau rhyfel a dioddefaint mewn modd cynhyrchiol bob tro yn rhoi llygedyn o obaith i mi. Ond yn fwy na hynny, mae gweld pobl yn gweithio’n galed i ddod a‘r artistiaid yma a’i syniadau ynghyd o dan faner celf a chelfyddyd wir yn codi calon. Dyna oedd y prif reswm i mi ddewis Codi Pais; hynny yw, i ddathlu’r ymroddiad at greu gofod creadigol i ferched Cymru. Nodir fod Codi Pais yn brosiect gwbl annibynnol sydd ddim wedi derbyn unrhyw nawdd na chefnogaeth ariannol gan Gyngor y Celfyddydau na Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Gwefannau & Gwefannau Cymdeithasol  

Gwefan: www.codipais.bigcartel.com 

Instagram: @codipais 

X: @CodiPais 

 

Ani Glass yw ein curadur gwadd ar gyfer #PethauBychain 2024. Darllenwch mwy am y thema a'r prosiectau eraill a ddewiswyd yma: