Apêl Merched dros Heddwch, 1923-24.  

Yn 1923, trefnodd merched Cymru ymgyrch dros heddwch byd yn gofyn i America ymuno ac i arwain y Cynghrair y Cenhedloedd newydd. Llofnododd 390,296 o ferched ddeiseb Goffa drwy Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd dros gyfnod o 6 mis yn galw am ‘Cyfraith nid Rhyfel’. Gosodwyd y llofnodion yn ofalus mewn cist dderw a grëwyd yn arbennig er mwyn eu cludo i’r Unol Daleithiau. Ym Mawrth 1924 teithiodd dirprwyaeth, dan arweiniad Annie Hughes Griffiths, o Gymru i America er mwyn eu cyflwyno i fenywod yr Unol Daleithiau gan ennyn cefnogaeth sefydliadau merched America oedd yn cynrychioli dros 20 miliwn o bobl. Ymwelwyd hefyd â Calvin Coolidge, yr Arlywydd yn y Tŷ Gwyn.  

Braint yw curadu Pethau Bychain eleni gan fy mod wedi cael y cyfle euraidd i gymryd fy amser yn adlewyrchu ar waith a gweithredoedd creadigol eraill a’i gwerthfawrogi llawer yn fwy. Mae hyn yn sicr yn wir yn yr achos yma. Does yna ddim llawer a allai gynrychioli’r cysyniad o obaith a goleuni mewn cyfnod llwm yn fwy na’r hyn a wnaeth Annie Hughes Griffiths a’i chyd-heddychwyr. A beth well na defnyddio’r weithred yma fel ysbrydoliaeth ar gyfer darn o waith sydd nid yn unig yn greadigol a chrefftus ond sydd hefyd yn dal ysbryd y syniad gwreiddiol. 

Mi fydd lansiad prosiect Pethau Bychain fymryn yn wahanol eleni, felly yn hytrach na chyflwyno darn gorffenedig o waith fel y dewis cyntaf, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar y cyd gydag Academi Heddwch Cymru yn lansio Gan Fenywod Cymru i’r Byd. Galwad yw hon er mwyn nodi 100 mlynedd ers siwrne ysbrydoledig y ddirprwyaeth o Gymru i’r Unol Daleithiau, ac i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2024. Y nod yw creu gwaith newydd a fydd yn ein symbylu i weithio dros fyd di-ryfel. 

O dan arweiniad yr artist Bethan. M Hughes bydd gwahoddiad i fenywod bwytho eu llofnod mewn cyfres o weithdau sy’n cael eu harwain gan Bethan M. Roberts, gyda’r darn terfynol yn cael ei arddangos yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf eleni. 

Wedi ei ysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru  1923-4,  pan arwyddodd bron i 400,000 o fenywod betisiwn yn galw am Heddwch a’i dywys i America i ymbilio ar fenywod y wlad i ddefnyddio eu dylanwad i annog llywodraeth UDA i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, y nod yw creu gwaith celf wedi ei ysbrydoli gan y ddeiseb wreiddiol mewn ffurf pwyth a thecstilau mewn cyfres o weithdai,  gan hefyd ymestyn y cais at fenywod ym mhob cwr o’r byd yn y dyfodol i bwytho ei llofnod a galw am heddwch. 

 

Gwefannau & Gwefannau Cymdeithasol  

Gwefannau: www.wai.org.uk/wales-arts-international/wai-homepage 

www.wcia.org.uk/academiheddwch 

Instagram: @waicymruwales  

X: @WAICymruWales @AcademiHeddwch 

 

Ani Glass yw ein curadur gwadd ar gyfer #PethauBychain 2024. Darllenwch mwy am y thema a'r prosiectau eraill a ddewiswyd yma: